Gwirfoddolwraig dymor hir yn parhau i helpu’r gymuned fel rhan o dîm Ehangu Mynediad PCYDDS
04.11.2022
Mae Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gymuned leol ar brosiect a arweinir gan un o wirfoddolwyr tymor hir y ganolfan, sydd erbyn hyn yn aelod o staff Y Drindod Dewi Sant, sef Elisha Hughes.
Dechreuodd Elisha wirfoddoli i Ganolfan galw heibio Blaen y Maes, canolfan nid er elw a arweinir gan wirfoddolwyr, pan oedd hi’n 12 mlwydd oed, a phan wnaeth ei mam, Karen, gymryd y ganolfan drosodd yn 2011. Mae’r ganolfan hon yn fan gwerthfawr a ddefnyddir yn gyson gan y bobl leol, ac mae’r gwasanaethau y mae’r Ganolfan yn eu cynnig yn cynnwys banc bwyd, siop ddillad gymunedol, gardd ar gyfer tyfu llysiau, hwb codi sbwriel a chynllun rhannu bwyd sy’n dosbarthu bwyd rhad ac am ddim sydd wedi’i achub rhag y safle tirlenwi, yn ogystal â darparu mynediad at lawer o adnoddau eraill, megis cyfrifiaduron, offer argraffu a chwnsela am ddim.
Medd Elisha: “Mae’r Ganolfan Galw Heibio yn chwilio’n gyson am gyfleoedd a chyllid i gefnogi ei gweledigaeth ac i ymateb i anghenion y gymuned”. “Dros y blynyddoedd, rydym wedi gwneud ceisiadau am, ac wedi sicrhau grantiau sydd wedi ein galluogi ni i gyflawni prosiectau sy’n uwchsgilio’r bobl leol a’u darparu â chyfleoedd, megis y cyfle i greu llyfr coginio cymunedol a wnaeth ymddangos ar y BBC a’i grybwyll yn y Senedd fel ymateb i fynd i’r afael â thlodi bwyd.”
Magwyd Elisha yng nghymuned Blaen y Maes, ac mae’n esbonio mai diben y prosiect yw “sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed, a rhoi’r gymuned hon ar y map. Yr hyn sy’n gyrru’n gyson yr holl wirfoddolwyr yw’r profiad o fyw yma, a rhyw ymdeimlad o gysylltiad, a’r awydd i gysylltu pobl er mwyn creu a llunio presennol a dyfodol gwell.”
Mae Elisha, sydd erbyn hyn yn Swyddog Ehangu Mynediad yn Y Drindod Dewi Sant, wedi gallu helpu datblygu’r fath gysylltiad rhwng y Ganolfan a’r Brifysgol, gan arwain at y sefydliadau’n gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd er mwyn darparu cyfleoedd i’r gymuned leol gymryd rhan mewn gweithgareddau teuluol a dysgu oedolion. Wedi’i ariannu a’i gefnogi gan adran Ehangu Mynediad PCYDDS a’i ymrwymiad i’r Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach, hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi ymgysylltu â thros 60 o deuluoedd a 200 o aelodau’r gymuned.
Mae gweithgareddau sy’n ceisio diddymu rhwystrau a fyddai fel arall yn stopio cyfranogwyr rhag cymryd rhan wedi cynnwys sesiynau a wnaeth ganolbwyntio ar lesiant, natur, y celfyddydau, rhifedd a llythrennedd, creu a magu hyder, yn ogystal â chyfleoedd i fod yn rhan o rwydwaith cymunedol ehangach PCYDDS drwy ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol, megis Gorymdaith Nadolig Abertawe ac Wythnos y Ffoaduriaid.
Yn rhinwedd ei rôl fel Swyddog Ehangu Mynediad, mae Elisha wedi datblygu’r gweithdai hyn ac yn dweud: “Mae creu perthnasau o fewn y gymuned yn sylfaen i gysylltu â phobl o bob cefndir a diwylliant. Mae gweithdai yn darparu llwyfan lle gall unigolion o bob oed gael eu hysbrydoli a’u cynorthwyo i ddysgu mwy am yr hyn maent am ei gyflawni mewn bywyd. Gallwn eu helpu i gymryd y cam cyntaf – rhywbeth nad yw bob amser yn bosibl mewn sefyllfa gyflwyno fwy ffurfiol.
“Mae ymuno â’r tîm Ehangu Mynediad wedi rhoi i mi gymaint o gyfleoedd, ac mae hi wedi bod yn fraint o’r mwyaf i roi ychydig yn ôl, nid dim ond i fy nghymuned i fy hun, ond i eraill hefyd. Mae’n ymwneud â chau’r bylchau hynny a chysylltu, cael cynrychiolaeth a gyrru ymlaen er mwyn sicrhau bod y dyfodol yn well, er gwaethaf y rhwystrau. Teimlaf yn frwdfrydig dros y gwaith y mae Ehangu Mynediad yn ei wneud, ac rwyf innau wedi cynhyrfu i fod yn rhan o’r daith o newid y naratif ac agor cyfleoedd newydd a chyffrous.”
Medd Sam Bowen, Rheolwr Ehangu Mynediad PCYDDS, “Mae ein hymgysylltu â’r gymuned yn cael effaith go iawn. Mae rhai o’r rhieni a’r gwirfoddolwyr ym Mlaen y Maes wedi mynychu cyrsiau mynediad yn Y Drindod Dewi Sant, ac mae ein gwaith gyda’r ysgol gynradd leol wedi golygu bod llawer o fynychwyr ifanc y sesiynau hefyd wedi ymweld â’r campws ac wedi cymryd rhan mewn gweithdai Drama. Mae’n bleser cynorthwyo teuluoedd, a gwnaethom ddathlu llwyddiant y rhaglen drwy fynd ar daith gymunedol i Legoland dros yr haf.”
Mae mynychwyr y rhaglen wedi nodi yn eu gwerthusiad “fod gan y plant ryw ymdeimlad o gyflawni a balchder pan allant fynd adref gyda rhywbeth y gwnaethant ei greu yn y gweithdai”. Gwnaeth unigolyn arall adfyfyrio, “nid oes gan bawb arian pan fyddant yn tyfu, a gall hyn effeithio ar ddyfodol pobl. Mae’n braf gweld y brifysgol yn buddsoddi yn y maes hwn, oherwydd mae’n achosi pobl i deimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi’n fwy, ac mae’n rhoi iddynt gyfleoedd i archwilio, gan newid dyfodol cenedlaethau. Mae’n eich cysylltu.”
Mae Ehangu Mynediad PCYDDS yn deall bod gweithio mewn sefyllfaoedd cymunedol yn golygu gwneud prosiectau yn gyraeddadwy a gwneud pobl deimlo eu bod nhw’n rhan o rywbeth mwy. Mae’r tîm yn gobeithio annog cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol i ymgysylltu, gan gyfoethogi’r sgiliau sydd eisoes ganddynt, neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd nad ydynt yn hollol gyffyrddus ag ef, lle y gallant gydweddu o bosib eu diddordebau i hyfforddiant yn y dyfodol neu i opsiynau cyflogadwyedd.
Mae’r Brifysgol yn annog unigolion a mudiadau i gysylltu â hi os oes ganddynt rywbeth i’w gynnig i’r prosiect, drwy e-bostio neges at Elisha.hughes@uwtsd.ac.uk.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078