Hanes Diwinyddiaeth Brotestannaidd Cymru yn ennill Gwobr Francis Jones 2021


22.04.2022

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nodi bod Coleg yr Iesu Rhydychen wedi gwobrwyo’r Athro D. Densil Morgan â Gwobr Hanes Cymru Francis Jones 2021 am ei Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales. Mae’r Athro Morgan yn Gymrawd Emeritws Diwinyddiaeth ar gampws Llambed y Brifysgol.

Professor D. Densil Morgan has been awarded the Francis Jones Prize for Welsh History 2021 by Jesus College, Oxford, for Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales.

Mae gwaith dwy-gyfrol yr Athro Morgan ar Ddiwinyddiaeth Brotestannaidd Cymru yn dechrau gyda’r gyfrol From Reformation to Revival 1588- 1760 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2018), i’w dilyn gan y gyfrol 1760 – 1900: The Long Nineteenth Century (2021). Caiff y wobr ei dyfarnu am y ddwy gyfrol, ar gymeradwyaeth panel o feirniaid sydd rhyngddynt yn ymdrin â holl brif gyfnodau hanes Cymru.

Gwaddolwyd y Wobr Francis Jones flynyddol yn 2017 gan Syr David Lewis, Cymrawd Anrhydeddus Coleg yr Iesu, i ddathlu llenyddiaeth hanesyddol Cymru. Enwyd y wobr er cof am Francis Jones (1908–1993), un o Gyn-herodron Arbenigol Cymru.

Ar y panel beirniadu oedd yr Athro Thomas Charles Edwards, Cymrawd Emeritws a chyn Athro’r Gelteg yng Ngholeg yr Iesu. Medd ef, “Mae Theologia Cambrensis yr Athro Morgan yn gosod syniadau diwinyddion Cymru yng nghyd-destun crefydd Cymru’r cyfnod, yn ogystal ag yng nghyd-destun diwinyddiaeth mannau eraill ym Mhrydain, a chyd-destun y diwylliant deallusol ehangach.  Mae pynciau a ffigyrau penodol y 312 o flynyddoedd a gaiff eu hymdrin yma eisoes wedi derbyn triniaeth fanwl, yn enwedig gan Morgan ei hun, ond nid oes gwaith arall ar gael ar y raddfa hon, yn cynnwys y manylion ysgolheigaidd hyn, nac yn dangos yr un feistrolaeth o syniadau a dadleuon sydd i’w chael yma. Tebyg iawn, Theologia Cambrensis yr Athro Morgan fydd y gwaith safonol am lawer o flynyddoedd i ddod.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk