'Harmoni'r Nefoedd a'r Ddaear' - Canolfan Sophia, Y Drindod Dewi Sant i gynnal ei 19eg Cynhadledd Flynyddol
18.05.2022
Fis nesaf, bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal ei 19eg cynhadledd flynyddol Canolfan Sophia.
Cynhelir y gynhadledd ddeuddydd, dan y teitl 'Cytgord Nefoedd a Daear', ar gampws Llambed ar 25 a 26 Mehefin. Eleni mae'r Ganolfan yn partneru gydag Athrofa Harmoni'r Brifysgol. Mae’r syniad bod y bydysawd yn bodoli’n un cyfanwaith yn sylfaenol i lawer o athroniaethau’r hen fyd yn ogystal ag i wyddoniaeth fodern. Hyn sydd wrth wraidd y cysyniad bod y cosmos yn bodoli mewn cyflwr o Gytgord (ag ‘C’ fawr). Yn ogystal, dyma sail y gred y gall bodau dynol fyw mewn cytgord â’r amgylchedd ehangach ac mae’n taro tant â llawer o draddodiadau o’r Dwyrain, o’r Gorllewin, o’r Hen Fyd a’r Newydd. Yn ymarferol, mae i’r syniadau hyn oblygiadau o ran astudiaethau iechyd, addysg, busnes, pensaernïaeth, amaethyddiaeth, datrys gwrthdaro ac amrywiaeth o weithgareddau eraill. Os yw popeth yn gysylltiedig mae popeth yn perthyn i’w gilydd, ac mae lles y naill yn dibynnu ar les y llall. Gellir cyd-destunoli’r syniadau hyn oddi mewn i fframwaith cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.
Bydd y gynhadledd yn un hybrid, gyda rhai cynulleidfaoedd a siaradwyr yn ymgynnull yn Llanbedr Pont Steffan, ac eraill yn taro heibio o bob cwr o'r byd. Bydd y pynciau'n croesi'r celfyddydau, pensaernïaeth, archaeoleg, gwleidyddiaeth, hud, garddio ac awyr dywyll.
Meddai Dr Nicholas Campion, sydd â chyfrifoldeb ar y cyd dros Ganolfan Sophia a’r Athrofa Harmoni:
"Mae astudio'r ffordd rydyn ni'n gwneud ystyr o'r nefoedd, yr awyr a'r sêr yn nodwedd unigryw o'r arlwy yn y Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf rydyn ni wedi arloesi'r gwaith o astudio sut mae ein syniadau am y cosmos yn dylanwadu ar bob agwedd ar ddiwylliant, ac rydyn ni’n parhau i fod yn arweinwyr yn y maes."
Meddai Dr Frances Clynes, aelod o bwyllgor y gynhadledd,
"Sut mae ceisio cysoni bywyd ar y Ddaear â bywyd y Nefoedd – yr awyr, y sêr a'r cosmos ehangach? Hwn bydd y cwestiwn y bydd yn cael ei ofyn yn ystod y gynhadledd.
Ar y ddau ganmlwyddiant hwn ers sefydlu’r Brifysgol rydyn ni’n cofio sut y cafodd ei sefydlu i sicrhau bod addysg ar gael i bobl ac rydyn ni’n croesawu pawb i’n cynadleddau'."
Bydd y siaradwyr sy'n ymgynnull yn Llanbedr Pont Steffan yn cynnwys
Dr Jack Hunter: 'Permaculture, Spirituality and Cosmology: Gardening in Harmony with Cosmic Principles'
Dr Nicholas Campion: ‘The Harmony of the Heavens and Earth in the Western Tradition’.
Dr Dawn Collins: 'Tibetan Spirit Mediums, Harmony and the Sky'
Krystyna Krajewska: ‘The Way of Heaven: Chinese Cosmology and the Proper Order of Things’
Marc Frincu: ‘Cosmological and Christian harmony in traditional Romanian carols and fairytales’.
Bydd y siaradwyr sy'n ymuno o bell yn cynnwys
Aleksandra Bajic: 'Looking for Harmonia'
Claudia J. Rousseau: 'Celestial Harmony and Astrological Magic’
Yuqing Chen: ‘Beliefs and cosmology: the orientation of graves in Neolithic China’.
Jessica Heim: Astronomers, the Night Sky, and the Space Environment’
Mae'r gynhadledd yn cael ei hyrwyddo gan Wasg Canolfan Sophia, sef cyhoeddwr academaidd mewnol Canolfan Sophia.
Ar gyfer yr holl wybodaeth am y gynhadledd gan gynnwys rhaglen a chofrestru: http://sophia-project.net/conferences/conference2022/index.php
Ar gyfer Canolfan Sophia a’r Athrofa Harmoni, Dr Nicholas Campion, n.campion@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076