Kara Lewis o’r Drindod Dewi Sant ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ôl-raddedig FindAUniversity 2022
15.06.2022
Mae darlithydd o’r Drindod Dewi Sant, Kara Lewis, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Ôl-raddedig FindUniversity yn y categori ‘Myfyriwr Meistr y Flwyddyn’.
Yn ogystal â gweithio fel darlithydd a chydlynydd prosiect yn Rhagoriaith, canolfan gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, mae Kara Lewis wedi bod yn astudio ar gyfer MA mewn Ymarfer Proffesiynol yn Academi Ymarfer Proffesiynol ac Ymchwil Gymhwysol Cymru (WAPPAR) y Drindod Dewi Sant.
Mae ‘Gwobr Myfyriwr Meistr y Flwyddyn’ yn cydnabod y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth, yn y maes academaidd a thu hwnt. Yn dilyn y newyddion, dywedodd Kara Lewis:
“Rwy’n falch iawn o fod ar restr fer y wobr hon a hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth. I mi, roedd yr MA hwn yn gymaint mwy nag ysgrifennu traethodau – credaf fod yn rhaid i ni fel addysgwyr ymdrechu i wella ac addasu – a rhaid inni gydweithio a rhannu canfyddiadau. Rwy’n bwriadu parhau â’m hymchwil, boed hynny’n ffurfiol neu’n anffurfiol, a rhannu fy angerdd dros addysg a chreu ymchwil diddorol a defnyddiol.”
Mae Kara eisiau parhau i ddatblygu ei sgiliau ymchwil sydd wedi cael effaith annatod ar ei hymarfer proffesiynol, ac mae’n bwriadu defnyddio’r hyn y mae hi wedi’i ddysgu er mwyn gwella amgylchedd proffesiynol ei gweithle yn ogystal â pharhau i ddatblygu ei gyrfa ar yr un pryd. Wrth drafod ei hymchwil diweddar, ychwanegodd Kara:
“Ffocws fy nhraethawd olaf oedd ar yr agwedd fugeiliol hon o’n gwaith fel addysgwyr a sut y gallwn ddefnyddio ap Microsoft Teams Reflect i fonitro lles ein dysgwyr pan nad ydym yn eu gweld wyneb yn wyneb. Mae Reflect (2020) yn gymharol newydd, felly ychydig o ymchwil sydd hyd yma.
Dewisais y maes pwnc hwn gan fy mod eisiau llunio canllawiau a chreu cyfleoedd a fyddai’n cyfoethogi ein darpariaeth yn fy adran, ond hefyd drwy’r sefydliad cyfan. Rwy’n addysgu athrawon ac athrawon dan hyfforddiant ac yn credu y gall fy nghanfyddiadau roi cyfleoedd i ysgolion yng Nghymru fanteisio ar dechnolegau o’r fath mewn amgylcheddau dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein a chyfunol.”
Cyhoeddwyd y rhestr fer gan yr arbenigwyr ôl-raddedig, FindAUniversity, a dderbyniodd gannoedd o enwebiadau, a bydd eu panel beirniadu arbenigol nawr yn dewis yr enillwyr – gyda chyhoeddiad ar ddydd Mawrth, 28 Mehefin.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076