Lansio Canolfan Glymblaid Gwyddoniaeth Cynaliadwyedd BRIDGES UNESCO yn swyddogol yn y Drindod Dewi Sant
07.11.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bellach yn gartref i’r Ganolfan Clymblaid Gwyddoniaeth Cynaliadwyedd BRIDGES UNESCO cyntaf yn y DU.
Cynhaliwyd y lansiad swyddogol yn yr Ystafell Ddarllen yn adeilad ALEX y Brifysgol yn Abertawe yr wythnos hon. Yn ystod y digwyddiad, gwnaed cyfraniadau gan yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, Gabriela Ramos – Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol UNESCO, Steven Hartman – Cyfarwyddwr Gweithredol UNESCO-BRIDGES a Carlos Alvarez Pereira, Pwyllgor Gweithredol, Club of Rome.
Mae BRIDGES yn fenter newydd gan UNESCO sydd bellach yn symud ymlaen fel clymblaid gwyddoniaeth gynaliadwyedd y bwriedir ei hintegreiddio yn eu rhaglen wyddoniaeth rynglywodraethol MOST (Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol). Bwriad y glymblaid yw integreiddio safbwyntiau dyniaethau, gwyddor gymdeithasol, a gwybodaeth leol a thraddodiadol yn well i ymchwil, addysg a gweithredu ar gyfer cynaliadwyedd byd-eang trwy ddatblygu a chydlynu ymatebion gwydn i newidiadau amgylcheddol a chymdeithasol ar raddfa leol a thiriogaethol.
Cyfarwyddwr y ganolfan BRIDGES newydd yn y Drindod Dewi Sant yw Dr Luci Attala. Dywedodd:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn ac rwy’n falch iawn bod UNESCO wedi dewis y Drindod Dewi Sant ac wedi cydnabod yr hyn sydd gan y brifysgol i’w gynnig.
Cawsom ddigwyddiad lansio gwych a hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u cyfraniadau pwysig drwy gydol y dydd. Rwy’n edrych ymlaen yn awr at gefnogi staff y brifysgol i gydweithio â rhwydwaith rhyngwladol o ysgolheigion sy’n mynd ati i chwilio am atebion i faterion byd-eang dybryd heddiw a hyrwyddo gwyddor cynaliadwyedd.”
Fel rhan o fenter gyntaf BRIDGES UNESCO, lansiwyd prosiect ecolegol radical newydd ar y diwrnod dan arweiniad cymuned frodorol o Golombia. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i glywed gan Athro Ymarfer y Brifysgol, yr Athro Alan Ereira, a Jose Manuel Sauna Mamatacan, cynrychiolydd pobl frodorol Kogi yng Ngholombia.
Nod y prosiect tair blynedd uchelgeisiol hwn yw adfer ardal o fynyddoedd Sierra Nevada de Santa Marta yng Ngholombia i'w chyflwr llewyrchus flaenorol. Bydd yn tynnu'n gyfan gwbl ar wybodaeth draddodiadol a ffurfiau o ddealltwriaeth nad yw gwyddoniaeth academaidd yn ei hadnabod. Fe'i cynhelir mewn partneriaeth â gwyddonwyr yn Ewrop sy'n arsylwi, yn adrodd ac yn dysgu o'r technegau profedig hyn. Dyma gyfle i ddysgu mewn ffyrdd newydd, gan gynnig llwybr allan o drychineb. Bydd pobl frodorol Kogi Colombia yn gweithio gydag ecolegydd ac ethno-botanegydd i adfywio darnau o dir diraddiedig ar y cyd, yn enwedig ffynonellau dŵr sych sy'n deillio o ecsbloetio modern. Y weledigaeth yw darparu templed ar gyfer trawsnewid ecolegol y gellid ei ailadrodd ledled y byd. Mae UNESCO BRIDGES wedi'i gynllunio i ddod â gwahanol fathau o wybodaeth ynghyd i ddarparu atebion cynaliadwy yn y cyfnod hwn o argyfwng.
Mae’r Athro Alan Ereira, Sylfaenydd/Cadeirydd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Tairona, cynhyrchydd/cyfarwyddwr dwy ffilm ar y Kogi ac Athro Ymarfer yn y Drindod Dewi Sant, yn esbonio:
“Fel cynhyrchydd rhaglenni dogfen, roeddwn i wedi arfer dod ar draws pobl a ddywedodd “Rydym angen eich help”. Cyfarfu'r Kogi, ffermwyr cynhaliaeth hynod dlawd y mae eu cymdeithas gyfan oddi ar y grid, â mi i ddweud "Mae angen ein help arnoch chi". Mae angen i ni fod yn ostyngedig a dysgu, oherwydd maen nhw mor amlwg yn iawn.”
Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:
“Rwy’n falch iawn y bydd y Drindod Dewi Sant yn rhan o fenter BRIDGES UNESCO. Mae hwn yn ddatblygiad mor bwysig i’r Brifysgol gyfrannu at sicrhau rhwydwaith yma yng Nghymru a’r DU sy’n cefnogi’r glymblaid gwyddoniaeth gynaliadwy.
Bydd y brifysgol wrth galon y datblygiad hwn fel canolbwynt y DU a byddwn yn dathlu pwysigrwydd y Dyniaethau yn cysylltu cymunedau ymarfer ac ymchwil. Gyda’n gilydd trwy gyfleoedd rhyngddisgyblaethol byddwn wir yn dangos pwysigrwydd cydweithio i adeiladu clymbleidiau ymarfer sy’n gosod y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol wrth galon trafodaethau a sgyrsiau cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau’r nodau datblygu a osodwyd gan lywodraethau ar draws y byd.
Mae hwn yn ddatblygiad allweddol i Gymru ac yn ddatblygiad allweddol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.”
Gwybodaeth Bellach
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076