Lansio Llyfr Ar-lein: “Inclusive Pedagogies for Early Childhood Education: Respecting and Responding to Differences in Learning”
27.04.2022
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o ddatgan bod y llyfr Inclusive Pedagogies for Early Childhood Education: Respecting and Responding to Differences in Learning, wedi’i gyhoeddi dan olygyddiaeth Dr Carmel Conn a’r academydd o’r Drindod Dewi Sant, Dr Alison Murphy.
Mae’r gwerslyfr hanfodol hwn yn archwilio dulliau addysgeg cynhwysol drwy gyflwyno safbwyntiau damcaniaethol ac ymchwil ar arferion cyffredin mewn addysg plentyndod cynnar sy’n cadarnhau amrywiaeth o ran dysgu, anabledd a diwylliant.
Mae'r awduron yn ystyried yr arferion addysgeg sy'n gysylltiedig â chefnogi cynhwysiant addysgol i blant ifanc. Canolbwyntia’r llyfr ar faterion allweddol yn ymwneud ag addysgeg gynhwysol gan gynnwys goddrycheddau dysgu plant ifanc, realiti materol-gymdeithasol dysgu mewn cyd-destunau plentyndod cynnar, a chymryd safbwynt plant ac oedolion o ran dysgu a gwahaniaeth.
Cyn lansio'r llyfr, dywedodd Dr Alison Murphy o'r Drindod Dewi Sant:
"Rydym yn falch iawn i lansio’r llyfr newydd hwn yn swyddogol. Mae'r llyfr yn casglu ynghyd ganfyddiadau gan arbenigwyr sy'n defnyddio dulliau ymchwil arloesol mewn addysg plentyndod cynnar, gan gynnwys dadansoddi sgyrsiau, ymholi ffenomenolegol, ac ethnograffeg cyfranogwyr, er mwyn creu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd ynghylch sut mae plant ifanc yn cael eu cynnwys ac yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad lansio lle cawn gyfle i wrando ar rai o gyfranwyr y llyfr. Mae’n argoeli bod yn ddigwyddiad rhagorol, ac mae croeso i bawb.”
Bydd y gwerslyfr hwn yn ddarllen hanfodol i fyfyrwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd. Mae’r llyfr yn arbennig o berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy’n astudio’r blynyddoedd cynnar ynghyd â chyrsiau sy’n canolbwyntio ar addysg neu addysgu neu gynhwysiant.
Dewch i gwrdd â'r awduron mewn digwyddiad ar-lein
Cynhelir y digwyddiad ar-lein hwn ar Fai 11eg am 4.30pm lle bydd cyfle i archwilio themâu sy’n codi o’r llyfr gan gyfeirio’n benodol at y cyd-destun Cymreig a bydd yn cynnwys ymchwilwyr arweiniol ym meysydd plentyndod cynnar ac addysg gynhwysol. Bydd cyflwyniadau ar faterion cyfoes allweddol yn cael eu dilyn gan drafodaeth banel.
Cyflwyniadau:
Dr Amanda Bateman, Athro Cyswllt, Prifysgol Waikato – ‘Socialising a pedagogy of care in early childhood services’.
Dr Carmel Conn, Athro Cyswllt, Prifysgol De Cymru – ‘Complexity-increase vs. complexity-reduction approaches to early childhood education and research: Why we are standing still on inclusion’.
Eleri John, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol De Cymru – ‘Children’s views on in-class ability groupings in early childhood education’.
Aelodau'r panel:
Dr Jane Waters-Davies, Athro Cyswllt, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Dr Alison Murphy, Darlithydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Dr Jacky Tyrie, Darlithydd, Prifysgol Abertawe
Mae’r llyfr ar gael i’w brynu mewn siopau llyfr nawr, neu gallwch brynu’r llyfr yma:
Inclusive Pedagogies for Early Childhood Education: Respecting and Res (routledge.com)
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad lansio cysylltwch â Dr Alison Murphy a.murphy@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076