Lansio Môr o Chwedlau yn Noc Penfro
30.03.2022
Cynhaliwyd digwyddiad yn Nherfynfa Fferi Doc Penfro i ddathlu murlun newydd gan artist o Sir Benfro, Robert Jakes.
Murlun serameg yw ‘Môr o Chwedlau’, sy’n mapio rhan o Fôr Iwerddon rhwng Cymru ac Iwerddon, gan ddatgelu hanes coll yr ardal a’r arfordiroedd ar y ddwy ochr. Mae bywyd gwyllt, llongddrylliadau a cheblau tanforol i gyd yn llechu dan wyneb y dŵr, yn ogystal â chwedlau ac atgofion lu. Mewn gair a llun, mae Robert Jakes yn dal cyfoeth bywyd ar y môr ac o dan y tonnau dros amser maith, o drysor y Llychlynwyr hyd at hanes yr ail ryfel byd, hyd at gerdyn post cyfoes gan rywun o’r fro.
Comisiynwyd y gwaith gan brosiect ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Croesiadau Diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru’, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Iwerddon Cymru. Nod y prosiect yw talu sylw i hanes a threftadaeth y trefi porthladd o gwmpas Môr Iwerddon, a’u cysylltu trwy archwilio eu treftadaeth gyffredin fel porthladdoedd. Pedwar sefydliad sy’n rhedeg y prosiect hwn, sef Prifysgol Corc a Chyngor Sir Wexford yn Iwerddon, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth yng Nghymru.
Mae pob teilsen yn y murlun yn fan cychwyn i hanes neu chwedl am Ddoc Penfro neu’r cyffiniau. Yn 2006-7, creodd Robert Jakes waith celf ar gyfer placiau troed Llwybr Tref Doc Penfro. Mae prosiect ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw’ yn datblygu fersiwn newydd o’r llwybr hwn fel ‘ap’ digidol, gan ychwanegu lluniau o’r archifau a gwybodaeth bellach at y deunydd gwreiddol. Daeth rhai o’r straeon ar y murlun o’r gymuned ei hun, ac mae’r prosiect yn awyddus i glywed rhagor gan bobl leol. Os hoffech chi rannu stori neu eitem hanesyddol , ebostiwch y tîm ar ports@ucc.ie, a dysgwch fwy am eu gwaith ar y wefan: https://portspastpresent.eu/
Trefnwyd y lansiad mewn cydweithrediad â staff y derfynfa a Phorthladd Aberdaugleddau, ac ymunodd cydweithwyr ar y prosiect o Iwerddon. Dywedodd yr Athro Mary-Ann Constantine, sy’n arwain y tîm yn PCYDDS: ‘Mae gwaith Rob mor hardd: cewch ymgolli yn ei straeon, megis yn yr hen fapiau a siartiau morol bu’n rhannol yn ysbrydoliaeth iddo. ‘Dyn ni wir yn gobeithio bydd y murlun hwn yn fan cychwyn i sawl siwrnai chwilfrydig gan deithwyr a phobl leol sy’n dod i’w weld.’
Gallwch weld ‘Môr o Chwedlau’ yn ardal y caffi yn nherfynfa fferi Doc Penfro: mae’n agored i’r cyhoedd yn yr oriau o gwmpas oriau gadael a chyrraedd y fferi i Iwerddon.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076