Llŷr Gwyn Lewis yn cael ei gyhoeddi fel siaradwr gwadd Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2022
11.04.2022
Siaradwr gwadd Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2022 yw Llŷr Gwyn Lewis.
Bydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams ar 28 Ebrill 2022. Bu Llŷr Gwyn Lewis yn ddarlithydd am gyfnod ym mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, ac ar hyn o bryd mae’n golygu detholiad o gerddi T. Gwynn Jones ar gyfer yr haf gyda Chyhoeddiadau Barddas. Mae’n byw yng Nghaerdydd efo Lowri, Math a Gwern. Cyfrol ddiweddaraf Llŷr o farddoniaeth yw’r pamffled Rhwng Dwy Lein Drên, a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod clo.
Testun y ddarlith fydd, '"Nodau Annaearoldeb" T. H. Parry-Williams a thu hwnt'.
Meddai Llŷr Gwyn Lewis, ‘Yn y ddarlith byddaf yn ailymweld â chysyniad (Freudaidd) yr unheimlich neu’r annaearol drwy archwilio rhai o weithiau T. H. Parry-Williams, ein bardd Cymraeg ‘annaearol’ par excellence. Yn fras, gellir disgrifio’r unheimlich fel y profiad o ddod ar draws yr anghyfarwydd a’r dieithr, mwyaf sydyn, ynghanol ac wrth galon y cyfarwydd a’r cynefin, a dyna sy’n ei wneud yn frawychus. Canolbwyntiaf i ddechrau ar Oerddwr ysgrifau a cherddi Parry-Williams fel prif locws yr annaearol yn ei waith, ac ar berthynas yr unheimlich â bro, tir a chartref, gan edrych hefyd ar rai o’i ysgrifau hwyr sydd fel pe baent yn gwneud rhywbeth gwahanol, mwy gwleidyddol â’r annaearol.
Yna byddaf yn ystyried rhai heriau ac awgrymiadau a gynigiwyd i’r genhedlaeth ddiweddaraf o feirdd gan feirniaid fel Simon Brooks a Robin Chapman, sydd wedi gofyn cwestiynau am gyfeiriad ac arddull barddoniaeth Gymraeg heddiw. Drwy astudiaeth achos o waith Guto Dafydd, byddaf yn gofyn a all yr annaearol gynnig cyfeiriadau a barddoneg wahanol i ninnau yn yr unfed ganrif ar hugain.’
Cynhelir y ddarlith eleni mewn cydweithrediad â chylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt. Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ‘Rydym yn hynod falch o gydweithio gyda chylchgrawn O’r Pedwar Gwynt ar y ddarlith ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed Dr Llŷr Gwyn Lewis yn ei thraddodi.’
Traddodir y ddarlith yn fyw yn Yr Hen Neuadd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac ar lein trwy Zoom, am 5.00 o’r gloch ar 28 Ebrill.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gofynnir i westeion archebu lle ymlaen llaw i ddod i’r ddarlith yn yr Hen Neuadd. Bydd paned am 4:30yh. E-bost canolfan@cymru.ac.uk
Os ydych am ymuno arlein, cofrestrwch yma i dderbyn y ddolen Zoom: https://tocyn.cymru/cy/event/542e5d8f-095e-4b79-bd00-bca48d5e8fa9
Croeso cynnes i bawb!
Nodyn i'r Golygydd
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076