Llwyddiant un o raddedigion Dylunio Patrwm Arwyneb PCYDDS a gafodd interniaeth gyda Rolls Royce


17.08.2022

Llongyfarchiadau i Rebecca Davies o PCYDDS sydd wedi graddio gyda gradd Meistr Dylunio mewn Dylunio Patrwm Arwyneb: Tecstilau ar gyfer Ffasiwn.

Rebecca is studying for an MDes degree in Surface Pattern Design, specialising in Textiles for Fashion.

Mae gan Rebecca interniaeth werthfawr gyda Rolls-Royce ac mae’n treulio 12 mis fel rhan o dîm dylunio unigryw’r cwmni, a leolir rhwng Goodwood a Munich.

Cynigiwyd y cyfle i’r fyfyrwraig 24 oed pan oedd yn astudio ar gyfer gradd MDes mewn Dylunio Patrwm Arwyneb a Thecstilau, gan arbenigo mewn Tecstilau ar gyfer Ffasiwn, a leolir yng Ngholeg Celf Abertawe y Brifysgol, ar gampws Dinefwr.

Daeth y cynnig interniaeth ar ôl i raglen Patrwm Arwyneb a Thecstilau PCYDDS gwrdd â thîm Dylunio Pwrpasol Rolls-Royce rai blynyddoedd yn ôl pan fuont yn ymweld â rhaglen Dylunio Modurol PCYDDS. Aethant ar ddargyfeiriad ac ymweld â’r stiwdio a gerir yn fawr ar y pumed llawr, wrth galon Coleg Celf Abertawe, Campws Dinefwr. Creodd yr amrywiaeth o gwestiynu creadigol a chymhwyso dylunio a welsant gan y myfyrwyr Patrwm Arwyneb argraff fawr arnynt ar unwaith, a hyn sydd wedi’u harwain at gynnig y cyfle hwn am interniaeth.

Er mwyn derbyn cynnig interniaeth gan Rolls-Royce, roedd rhaid i Rebecca gyflwyno ei phortffolio a chwblhau prosiect dylunio. Fe’i dewiswyd wedyn i fynychu cyfweliad. Er bod yr holl waith gan fyfyrwyr prifysgol wedi creu argraff ar dîm Rolls-Royce, safodd Rebecca ar wahân yn y cyfweliad a rhoddwyd y cyfle iddi. Mae wrth ei bodd gyda sut mae’r interniaeth yn mynd hyd yn hyn.

Meddai Rebecca: “Mae’r interniaeth wedi bod yn brofiad mor anhygoel, ac yn un na fyddwn i byth wedi ystyried chwilio amdano dros fy hunan. Yn ogystal, bu interniaeth ar gyfer brand mor foethus o’r safon uchaf yn eithaf brawychus ar y dechrau. Ond mae’r tîm dylunio pwrpasol mor ddiffuant a chroesawgar, na chymerodd yn hir i deimlo fy mod wedi setlo. Mae’r profiad hwn wedi dangos i mi pa mor amrywiol y bu fy nysgu ar y cwrs Patrwm Arwyneb, gan fy mod yn cael fy herio i gymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd i mi mewn ffordd hollol newydd.”

Meddai Georgia McKie, Cyfarwyddwr Rhaglen: “Mae wedi bod yn fraint i ni allu cario ymlaen i weithio gyda Rebecca tra bu hi ar yr interniaeth gyda Rolls-Royce drwy’r Briff Byw a roddodd y brand i’n Hisraddedigion eleni.  Roedd yn foment mor falch i weld Rebecca yn rhan o’r tîm Rolls-Royce a ymwelodd, gan rannu ei phrofiad â’r myfyrwyr cyfredol.  Mae hi bob amser wedi cyfleu i’r dim y nodweddion rydym yn ceisio eu rhoi i’n myfyrwyr a’n graddedigion; haelioni gyda’i chyfoedion, yn ffynnu ar gydweithio, yn fentor naturiol, yn falch o’i dysgu a’r daith barhaol y mae arni, mae hi’n hyrwyddo ethos ein rhaglen ac yn hynod greadigol.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk