Llwyrdrochiad ar gyfer Disgyblion Adeiladu


01.04.2022

Mae realiti rhithwir yn darparu offeryn defnyddiol i hyfforddi dysgwyr adeiladu ifanc. Croesawodd Coleg Sir Benfro ymweliad gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Taf, a gafodd y cyfle anarferol i brofi adeiladu o safbwynt rhithwir.

CONVERT is led by the University of Wales Trinity Saint David’s Construction Wales Innovation Centre.  It enables learners from secondary school, further and higher education to access a training programme that helps to improve learner engagement and preparedness for joining the sector.

Diolch i brosiect arloesol seiliedig ar dechnoleg a ariennir gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), gwahoddwyd disgyblion Lefel 2, sy’n astudio cwrs Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig CBAC, i brofi, drostynt eu hunain, y feddalwedd a gynlluniwyd gan y diwydiant.

Yn ystod y digwyddiad, cawsant brofi nifer o adnoddau dysgu rhithwir. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Y Rotor Pilot – rhaglen sydd wedi’i chynllunio i roi profiad peilot drôn rhithwir i ddysgwyr wrth iddynt arolygu safle adeiladu neu adeilad treftadaeth.
  • Wood-Ed – efelychydd peiriannu pren sy'n defnyddio Realiti Estynedig i alluogi dysgwyr i ddefnyddio llif bwrdd, cylchlif, plaeniwr a mowldin gwerthyd (mewn modd diogel).
  • Y rhaglen Working at Height/Scaffolding sy'n helpu'r defnyddiwr i gael ymdeimlad o beryglon gweithio yn y diwydiant sgaffaldwaith.
  • Mae'r feddalwedd Virtual Built Environment Element Explorer (VBEEE) yn mynd â'r dysgwr trwy'r camau o godi adeilad, gan roi ystyriaeth i'r briff dylunio sy'n gwerthuso materion cynaliadwyedd, cost, gwydnwch a chysur.

Mae gan yr ysgol gyswllt ag Alun Griffiths Civil Engineering and Construction, a rhoddodd Swyddog Cyswllt Cyhoeddus y cwmni, Angharad Rosser, gyflwyniad craff ar y modd y maent yn defnyddio dronau yn eu gwaith. Cyfeiriodd at y gwaith byw y maent yn ei wneud ar brosiect gwella ffordd yr A40, sy'n cysylltu'r ysgol a'r coleg.

Dywedodd Angharad,

“Mae’n bwysig i’n tîm gwelliannau yr A40 ein bod yn gallu rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddeall y modd y mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn chwarae rhan yn y gwaith o gynllunio ac adeiladu’r seilwaith yr ydym i gyd yn ei ddefnyddio bob dydd. Roeddwn yn falch iawn o allu rhoi mewnbwn ar y modd y mae technoleg yn chwarae rhan yn ein gwaith ar y prosiect, a gobeithiaf ei fod wedi darparu cyd-destun byd go iawn ar gyfer eu hastudiaethau presennol”.

Roedd ymweliad yr ysgol â Choleg Sir Benfro yn un o’r cyfleoedd cyntaf ers y pandemig i'r disgyblion brofi prosiect dysgu ymarferol unigryw y tu allan i’w hamgylchedd dysgu yn yr ystafell ddosbarth. 

Roedd Dominic La Trobe, athro adeiladu'r ysgol, yn awyddus i sicrhau bod ei ddisgyblion yn cael cyfle i dreialu'r cyfarpar CONVERT cyn gadael yr ysgol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

”Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau'r gweithdy CONVERT yn fawr iawn. Rhoddodd yr efelychiadau realiti rhithwir ddirnadaeth amhrisiadwy i feysydd a phroffesiynau yn y diwydiant adeiladu. Roedd y sesiynau'n galluogi'r myfyrwyr i gael profiad diogel o weithgareddau sydd, fel arall, yn rhai risg uchel, megis gweithio ar uchder a defnyddio peiriannau peryglus, a hefyd yn weithgareddau a fyddai'n hollol y tu hwnt i ddarpariaeth yr ystafell ddosbarth fel arfer,” meddai Dominic.

Mae Coleg Sir Benfro wedi elwa o fenthyg y cyfarpar dros yr wythnosau diwethaf. Dywedodd Arwyn Williams, Pennaeth y Gyfadran Peirianneg, Cyfrifiadura, Adeiladu ac Addysg Uwch:

Roedd y dysgwyr a'r athrawon yn y Coleg wedi mwynhau'r profiad o ddefnyddio’r dechnoleg ddyfodolaidd yn fawr iawn, yn ogystal â’r dysgu a ddaeth yn sgil y cyfarpar rhyngweithiol a’r amgylchedd rhithwir. Roedd y dysgwyr wedi elwa’n arbennig o allu defnyddio’r fainc efelychu peiriannu pren rithwir heb y perygl cynhenid o ddefnyddio’r cyfarpar yn bersonol”.

Arweinir CONVERT gan Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n galluogi dysgwyr o ysgolion uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch i gael mynediad at raglen hyfforddi sy'n helpu i wella ymgysylltiad dysgwyr a’u parodrwydd i ymuno â’r sector.

“Mae'r prosiect CONVERT yn darparu ystod eang o gyfleoedd i ddysgwyr gael blas ar y modd y mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio mewn adeiladu. Wrth i ni edrych ymlaen at gyflwyno cymwysterau sgiliau digidol newydd yr hydref hwn, mae cymryd rhan yn y prosiect hwn yn amserol iawn,” meddai Julie Evans, rheolwr y prosiect.

Mae adnoddau dysgu CONVERT ar gael i'w benthyca gan CWIC yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â Julie ar 01792 481273/julie.evans@uwtsd.ac.uk i gael gwybod sut y gall eich dysgwyr elwa. 

CONVERT is led by the University of Wales Trinity Saint David’s Construction Wales Innovation Centre.  It enables learners from secondary school, further and higher education to access a training programme that helps to improve learner engagement and preparedness for joining the sector.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk