Lunia 3D ar y rhestr fer ar gyfer Cyfres Genedlaethol Gwobrau Cychwyn Busnes


30.03.2022

Mae busnes argraffu 3D a sefydlwyd gan Ken Pearce, un o raddedigion y cwrs Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg yn y Drindod Dewi Sant, wedi’i enwi’n un o’r busnesau newydd mwyaf cyffrous yn y rhanbarth ar ôl cael ei ddewis ar y rhestr fer yn rhan o raglen wobrau newydd sbon.

Ken Pearce, who graduated from UWTSD in 2020 with a first-class degree, set up Lunia 3D after discovering the versatility of 3D printing while he was a student.

Sefydlwyd Cyfres Genedlaethol Gwobrau Cychwyn Busnes i gydnabod y cynnydd aruthrol mewn busnesau newydd ledled y DU sydd wedi cyflymu ers dechrau’r pandemig. Yn 2020, pan oedd y rhan fwyaf o’r byd yn cychwyn ar gyfnod clo, sefydlwyd dros 400,000 o fusnesau newydd ym Mhrydain, gyda chynnydd tebyg i’w weld mewn gwledydd eraill yn Ewrop.

Cafwyd cystadleuaeth frwd gyda dros 2,500 o geisiadau wedi dod i law mewn ymateb i’r alwad gyntaf erioed am geisiadau gan Gyfres Genedlaethol Gwobrau Cychwyn Busnes.

Meddai Ken Pearce, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Lunia 3D sydd wedi’i leoli yn y Bont-faen: Rydym wrth ein bodd i gyrraedd rownd derfynol y rhaglen wobrau hon ochr yn ochr â rhai o'r busnesau newydd gorau yng Nghymru. Argraffu 3D yw'r dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld pobl Cymru’n dechrau cydnabod y dechnoleg anhygoel hon.”

Fe wnaeth Ken, a raddiodd o’r Drindod Dewi Sant yn 2020 â gradd dosbarth cyntaf, sefydlu Lunia 3D ar ôl darganfod hyblygrwydd argraffu 3D pan oedd yn fyfyriwr.

Ym mis Ebrill 2020 dechreuodd ef a’i gariad, Georgia Hatton, gynhyrchu masgiau wyneb trwy argraffu 3D i ddiogelu gweithwyr gofal lleol rhag Covid-19.

“Gwnaeth hyn i mi sylweddoli bod gen i ddiddordeb angerddol mewn argraffu 3D a pha mor fuddiol y gall fod,” meddai.  “Penderfynais ddechrau fy musnes fy hun, Lunia 3D. Yma rydyn ni’n cynnig pob math o wasanaethau o fewn y diwydiant argraffu 3D gan gynnwys modelu 3D, prototeipio cynnyrch, swp-gynhyrchu printiau a llawer mwy.”

Ar ôl chwe mis llwyddiannus o fasnachu, ffurfiodd Ken bartneriaeth â hen ffrind ysgol iddo, Yousef Ahmed, sydd â gradd mewn peirianneg. Maen nhw bellach yn rhedeg Lunia 3D gyda’i gilydd.

“Mae gan y ddau ohonom ddiddordeb mawr mewn argraffu 3D, ac roeddem yn meddwl ei bod yn gwneud synnwyr i ddod at ein gilydd i gydweithio,” meddai Ken.

Ers dod yn bartneriaid, maen nhw wedi ehangu’r busnes a bellach mae ganddyn nhw dros 10 argraffydd 3D sy’n gweithio bron bob awr o'r dydd a'r nos, saith diwrnod yr wythnos.

“Rydyn ni’n helpu busnesau ac unigolion i greu darnau unigol neu sypiau o gynnyrch pwrpasol y byddai’n rhaid eu gwneud dramor fel arfer, gan ddileu costau offer sy’n eithriadol o ddrud ac amserau cyflawni hir,” meddai Ken.

Fe wnaeth ef a Yousef hi’n flaenoriaeth hefyd i gynnig argraffu 3D fforddiadwy i fyfyrwyr.

Gyda chefnogaeth genedlaethol BT, EY, Dell ac Intel, bydd y rhaglen yn dathlu llwyddiannau'r unigolion rhagorol ledled y DU sydd wedi troi syniad yn gyfle ac wedi cymryd y risg i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd.

Wedi'i gyd-sefydlu gan y tîm y tu ôl i Wobrau Entrepreneuriaeth Prydain, mae'r gyfres newydd yn dilyn llwyddiant Gwobrau Cychwyn Busnes Cymru, ar ôl i drefnwyr gydnabod y potensial eithriadol yn y maes cychwyn busnesau ar draws rhanbarthau eraill Prydain.

Meddai’r Athro Dylan Jones-Evans OBE, crëwr Cyfres Genedlaethol Gwobrau Cychwyn Busnes:  “Mae cwmnïau newydd yn bwysig er mwyn creu ffyniant economaidd, cyfleoedd cyflogaeth ac arloesedd. Ers 2016, mae Gwobrau Cychwyn Busnes Cymru wedi dathlu'r cyfraniad blynyddol arbennig hwn mae entrepreneuriaid wedi’i wneud i'n heconomi a'r effaith y maent yn ei chael ar gymunedau ledled y wlad.

“O ystyried y nifer fawr o fusnesau newydd gwych yr ydym wedi clywed ganddynt ers hynny, yn ogystal â'r newid enfawr ar ôl y pandemig yn nymuniadau pobl i fynd â'u gyrfa i gyfeiriad newydd a sefydlu busnes er gwaethaf yr amgylchiadau, roeddem yn teimlo mai dyma'r adeg iawn i fynd â'r rhaglen yn genedlaethol. Rydym wedi ein syfrdanu gan safon y ceisiadau yn y flwyddyn gyntaf hon ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at goroni’r enillwyr ym mis Mehefin.”

Meddai Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol mewn Addysg Fenter yn y Drindod Dewi Sant: “Mae cyrraedd rowndiau terfynol y wobr wych hon yn gamp aruthrol ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol o arbenigedd Lunia.  Maent wedi ymateb yn gyflym i gyfleoedd ac wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i gefnogi llwyddiant busnesau eraill hefyd”.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk