Mae Ceffylau Papur yn atgof pwysig o reolaeth orfodi sydd wedi goroesi ar gyfer MA Ysgrifennu Creadigol Graddedig
31.03.2022
Mae taith bersonol un o raddedigion MA Ysgrifennu Creadigol Y Drindod Dewi Sant, Julie Ann Rees, wrth oroesi rheolaeth orfodi, wedi'i chyhoeddi mewn llyfr newydd.
Yn ôl Julie, roedd ysgrifennu'r cyhoeddiad nid yn unig yn help i brosesu'r hyn a oedd wedi digwyddodd iddi - ond mae'n gobeithio y bydd hefyd yn helpu'r rhai sydd wedi eu dal mewn amgylchiadau tebyg.
Dechreuodd Paper Horses fywyd yn draethawd hir MA Julie y bu'n gweithio arno gyda'i mentor cwrs Jenni Williams.
Meddai Julie, cynorthwyydd llyfrgell yn Y Drindod Dewi Sant: "Nid awdur oeddwn i erioed. Dechreues i fy mywyd gwaith yn berson ceffylau a arweiniodd at gariad at farchogaeth glasurol a hyfforddiant i ddatblygu dealltwriaeth a chyfathrebu’n ddyfnach â cheffylau. Rwy’n dal i farchogaeth, ond er pleser yn unig, i mi ac i'r ceffylau.
"Dechreuodd fy nhaith ysgrifennu ar ôl graddio gyda gradd meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
"Ar ôl graddio, fe wnes i ddyfalbarhau gyda'r llyfr yn benderfynol o'i orffen a’i gyhoeddi. Ar ôl oedi oherwydd Covid dyma fe wedi ei gyhoeddi o'r diwedd drwy Black Bee Books, chwaer gwmni cyhoeddi o Gymru o Thunderpoint yn cyhoeddi'r Alban.
"Mae ysgrifennu llyfr yn gam enfawr ac roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi wneud hyn, ond roedd hen amheuon ac ofnau yn dal i lechu yn y cyrion. Roedd yn rhaid hefyd i mi benderfynu a oeddwn am i ran mor bersonol o'm bywyd fod yn agored i eraill.
"I rai darllenwyr rwy'n gobeithio y byddan nhw'n mwynhau'r ysgrifennu a'r stori, i eraill sydd dan amgylchiadau tebyg, gobeithio eu bod nhw'n sylweddoli y gallan nhw ddianc, er mor anodd mae'n ymddangos ar y pryd."
Bydd y lansiad swyddogol yn Siop Lyfrau Cover-to-Cover yn y Mwmbwls ar 2 Ebrill, 2022, am 2p.m. Bydd Julie hefyd yn ymddangos yng ngŵyl lenyddol Llandeilo ddydd Sadwrn 23 Ebrill am 3p.m.
Caiff un o straeon byrion Julie hefyd ei chyhoeddi fis nesaf gan y wasg menywod Honno i ddathlu menywod Cymru sy’n ysgrifennu nofelau ditectif a stori arall i’w chynnwys gan y cyhoeddwr Americanaidd Improbable Press yn eu hantholeg cyfrol arian Cryptids Emerging.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk