Mae MADE Cymru yn creu cynghrair pwerus, blaengar o weithgynhyrchwyr
20.01.2022
Mae MADE Cymru wrth ei fodd yn ychwanegu arbenigedd Canolfan Dechnoleg TWI Cymru a Haydale i un o'n prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol gyda’r British Rototherm Company.
Mae'r prosiect yn cyflwyno prosesau gweithgynhyrchu newydd a datblygu cynnyrch newydd yn llwyddiannus trwy gyfuno ymchwil, o fewn meysydd technegau profi anninistriol (NDT) uwch a pheirianneg deunyddiau. RHYBUDD, SPOILER: Graphene!
Mae Canolfan Dechnoleg TWI Cymru yn bartner i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae'n arbenigo mewn datblygu a chymhwyso dulliau profi NDT o'r radd flaenaf ac mae Haydale yn gwmni atebion technoleg sy'n arloeswyr ym maes defnyddio graphene.
Meddai Oliver Conger, Rheolwr Gyfarwyddwr British Rototherm, "Pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, gallwn wneud cymaint mwy. Mae gan Gymru gymaint o weithgynhyrchwyr hynod ystwyth o ansawdd uchel. Mae’r coronafeirws wedi cyflymu ein buddsoddiad mewn technolegau a phrosesau newydd. Mae hefyd wedi ein hannog i gydweithio. Mae gweithgynhyrchu yng Nghymru yn hynod o gadarn, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Haydale a TWI i roi hwb i'n prosiect gyda MADE Cymru."
Meddai Luca Pagano, Uwch Beiriannydd Ymchwil ar brosiect MADE Cymru, "Mae hon yn berthynas gydweithredol mor effeithiol, ac mae eisoes wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar yr hyn rydym yn ceisio'i gyflawni. Mae gwir ysbryd o gydweithio ymhlith gweithgynhyrchwyr yng Nghymru a phan fyddwch yn uno hynny â'n harbenigedd ymchwil ac academaidd, mae'r canlyniadau'n syfrdanol. Rwy’n falch o fod yn gweithio gyda sefydliadau mor anhygoel ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth fyddwn yn ei gyflawni yn 2022."
Mae menter Peirianneg Dylunio Uwch MADE Cymru yn gweithio gyda chwmnïau bach a chanolig yng Nghymru sydd eisoes yn cynhyrchu cynhyrchion llwyddiannus ac sy'n agored i archwilio technolegau, cynhyrchion a phrosesau newydd. Mae rhai lleoedd ar ôl o hyd i gymryd rhan yn y fenter hon a ariennir yn llawn (gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru). Ond peidiwch ag oedi, gan mai dim ond cyfnod bach o amser sydd ar ôl i gofrestru. Anfonwch e-bost atom MADE@uwtsd.ac.uk a gallwn gael sgwrs.
Yn y cyfamser, dyma fideo bach cyfrinachol i ennyn eich diddordeb o sgan CT pelydr-X - techneg Profi a Gwerthuso Anninistriol (NDT&E). https://youtu.be/oOmM9mpaYDQ
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk