Mae The World Reimagined yma! Darganfyddwch y llwybr cerfluniau o gwmpas Abertawe
11.08.2022
Yr haf yma gwahoddir trigolion ac ymwelwyr i fynd ar daith ddarganfod ar draws Abertawe yn rhan o brosiect celf addysgol ac arloesol ar gyfer cyfranogaeth dorfol, a gefnogir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Abertawe. Mae llwybr cerfluniau The World Reimagined yn archwilio haenau niferus o hanes cyffredin ers y Gaethfasnach Drawsatlantig, a sut gall cyfiawnder hiliol ddod yn realiti i bawb.
O 13 Awst tan 31 Hydref, bydd y gosodwaith yn trawsnewid strydoedd Abertawe gyda llwybr celf rhad ac am ddim o 10 cerflun o Glôb, pob un wedi’i ddylunio gan artist unigol sy’n ymateb i themâu sy’n amrywio o Mother Africa i Still We Rise ac Expanding Soul.
Mae’r llwybr yn digwydd ar yr un pryd â llwybrau mewn chwe dinas arall, wrth i The World Reimagined wahodd pobl ar draws y DU i gydnabod hanes a chefnogi gwaith ymgyrchwyr cymunedol a sefydliadau gwych.
Mae’r Drindod Dewi Sant wrth ei bodd i gefnogi’r prosiect i helpu i ddod â phobl, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd i siarad am sut mae deall hanes, sut mae ein gorffennol yn llunio ein dyfodol, a sut gall pobl weithredu er newid cymdeithasol.
Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost Campysau Abertawe a Chaerdydd yn y Drindod Dewi Sant, “Mae cefnogi’r fenter ardderchog hon yn fynegiant o ymrwymiad y Brifysgol i gofio anghyfiawnder a phoen ein hanes cyffredin, ac yn ddathliad o amrywiaeth yn y gymdeithas gyfoes ym Mhrydain. Anogwn gynifer o bobl â phosibl i ddilyn y llwybr o gwmpas y ddinas a chymryd rhan yn y sgwrs.”
Mae’r Globau wedi’u creu gan artistiaid lleol a rhyngwladol i fywiogi’r dinasoedd lle cynhelir y prosiect gyda phrofiadau ac arddulliau creadigol amrywiol. Mae Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant hefyd yn nodi The World Reimagined drwy gynfas newydd 8m o uchder ar flaen Adeilad Dinefwr. Cynhyrchwyd y gwaith celf gan Sophie Hancock, sy’n astudio ar hyn o bryd am ei gradd MA mewn Dylunio Graffig.
Meddai Sophie: “Mae cael fy ngofyn i greu’r faner a arddangosir ar Goleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn bleser ac yn anrhydedd, a dyma’r darn o waith mwyaf a phwysicaf yn fy ngyrfa greadigol. Mae’r gefnogaeth a’r geiriau caredig gan bawb sydd wedi’i gweld hi hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel, ac rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy nghynnwys yn y prosiect hwn.”
Meddai Elliott King sy’n aelod o gabinet Cyngor Abertawe: "Mae Abertawe yn ddinas amrywiol, lle mae mwy na 100 iaith yn cael ei siarad. Rydym ni’n falch o fod yn gymuned agored a chroesawgar gyda statws Dinas Noddfa. Credwn y bydd The World Reimagined yn cryfhau cysylltiadau ein cymunedau â’i gilydd, gan annog pobl i feddwl mewn ffyrdd ffres a chadarnhaol am ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol.
“Roeddem ni’n benderfynol o chwarae rhan lawn yn y prosiect pwerus hwn. Mae’n adlewyrchu’n fywiog ymagwedd y cyngor ei hun at gydraddoldeb a’r Celfyddydau. Mae Creadigrwydd ar draws Diwylliant yn rym er undod ac, yn debyg i bobl eraill ar draws Abertawe a’r Byd, gwnaethom gryfhau ein hymrwymiad i gydraddoldeb hiliol mewn ymateb i Mae Bywydau Du o Bwys.”
Mae’r llwybrau’n rhan o raglen ehangach sy’n annog ac yn cefnogi sgyrsiau ynghylch cyfiawnder hiliol sydd wedi bod yn datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf. Y mis diwethaf, dyfarnodd The World Reimagined fwy na £75,000 o gyllid grant i fwy na 75 o sefydliadau cymunedol ar draws y dinasoedd sy’n cynnal y prosiect.
Gwnaethpwyd y grantiau INSPIRE yn bosibl gan Sefydliad Esmée Fairbairn ac maent yn cefnogi pobl a sefydliadau i gynnal eu digwyddiadau a’u gweithgareddau eu hun. Mae’r grantiau’n dathlu ac yn anrhydeddu’r gwaith sydd wedi’i wneud dros ddegawdau er cyfiawnder hiliol a’r gobaith yw caniatáu i sefydliadau gynyddu eu rhwydwaith a’u sylfaen gefnogaeth i’r dyfodol.
Mae The World Reimagined, gyda’i lwybr, digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y wlad, yn cynnig cyfle i ddeall straeon ein gilydd mewn modd mwy manwl a chyfoethog, er mwyn i ni, gyda’n gilydd, allu creu dyfodol lle gall pawb ddweud: Caf fy ngweld.
Ewch i wybodaeth am The World Reimagined neu dilynwch eu cyfrifon cymdeithasol:
Twitter | Instagram | Facebook #TheWorldReimagined
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078