Mam a Merch yn traddodi darlith Gŵyl Ddewi Coleg Celf Abertawe.


24.02.2022

Bydd yr artist Meinir Mathias a’i merch, y gantores Mari Mathias yn rhoi darlith am eu gyrfaoedd a gweithio’n ddwyieithog yn y diwydiannau creadigol fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Bydd yr artist Meinir Mathias a’i merch, y gantores Mari Mathias yn rhoi darlith am eu gyrfaoedd a gweithio’n ddwyieithog yn y diwydiannau creadigol fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn flynyddol mae Coleg Celf Abertawe yn cynnal darlith a gwobrau blynyddol ar ddydd Gŵyl Dewi er mwyn dathlu ac ymfalchïo yn nefnydd o’r Gymraeg gan bobl greadigol sydd yn llwyddo.

Bydd y ddarlith ar gael i’w gwylio ar lein am 3 o’r gloch ar Ddydd Gŵyl Dewi, lle bydd y ddwy yn trin a thrafod eu profiadau  a’u llwyddiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn agos iawn at galon y ddwy, gan ei bod nhw’n raddedigion o’r Brifysgol. Graddiodd Meinir gyda BA mewn Celf Gain ac yna MA mewn Celf Gain o gampws Caerfyrddin o’r Drindod Dewi Sant, ac mae Mari yn un o raddedigion y cwrs BA Perfformio o gampws Caerdydd.

Peintiwr Cymraeg Cyfoes yw Meinir Mathias. Mae ei gwaith yn archwilio syniadau yn ymwneud â chof diwylliannol, hanes, tir a phobl. Mae ei gwaith wedi'i wreiddio yn niwylliant Cymru ond eto'n cysylltu â phrofiad personol a chof. Yn aml iawn, mae ei gwaith yn tynnu ar ddigwyddiadau hanesyddol a delweddaeth werin ac maent yn herio’r berthynas ddynol gymhleth â thir a’i hanes. Daw Meinir â digwyddiadau diwylliannol Cymreig a chymeriadau o hanes yn fyw drwy ei hail-ddychmygu mewn cyd-destun cyfoes.

Ar ôl astudio BA ac MA mewn Celfyddyd Gain, aeth Meinir ymlaen i weithio fel darlithydd Celf am rai blynyddoedd cyn neilltuo ei hamser i weithio fel artist llawn amser, ac erbyn hyn mae ganddi stiwdio yng Ngheredigion.

Mae gwaith Meinir wedi cael ei arddangos mewn llawer o orielau amlwg gan gynnwys arddangosfa Cymru Gyfoes yn Oriel y Glannau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Oriel Myrddin, Galeri Canfas Aberteifi, RCA Conwy ac Oriel Mimosa Llandeilo. Mae’n parhau i ddatblygu ei gwaith wrth baratoi ar gyfer ei sioeau unigol nesaf yn ‘Oriel Plas Glyn y Weddw’ yng Ngogledd Cymru eleni ac yn Galeri Ffin y Parc  y flwyddyn nesaf. Mae hi wedi’i chomisiynu i weithio ar nifer o brosiectau i’r BBC, Netflix, Prifysgol Bangor, Cyhoeddiadau Barddas a chafodd sylw yn ddiweddar fel artist ar raglen S4C Cymru ar Gynfas. Mae casgliad o’i gwaith wedi’i brynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Erbyn hyn mae Mari Mathias yn adnabyddus fel cantores Gymraeg,  ac mae’n hoff iawn o roi ei gwedd gyfoes ei hun ar alawon gwerin draddodiadol. Mae hi bellach wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ar ôl cwblhau gradd Meistr mewn Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Mari wedi cefnogi perfformwyr fel Gruff Rhys, Meic Stevens a Plu. Mae hi wedi perfformio mewn digwyddiadau o Amgueddfa Sain Ffagan i HubFest, Gŵyl Immersed, Clwb Ifor Bach, Gŵyl Abertawe a Gŵyl y 'Big Cwtch'.

Rhyddhaodd ei EP ‘Ysbryd y tŷ’ ym mis Mawrth 2020 , a gynhyrchwyd gan Mei Gwynedd ar ôl ennill Brwydr y Bandiau (Maes B) yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 2019. Dyfarnwyd trac yr wythnos i’w thrac “Helo” hefyd ar BBC Radio Cymru. Wedi graddio o'r Forte Project, mae hi bellach yn perfformio gydag ensemble newydd a chyffrous o gerddorion gwerin ifanc gyda'i deunydd newydd.

Dywedodd Meinir Mathias,

“Mae'r ddwy ohonom yn falch iawn i siarad fel rhan o raglen Dydd Gŵyl Dewi eleni. Byddwn yn trafod ein taith o astudio yn y Brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg a sut mae hyn wedi datblygu i weithio yn y diwydiant creadigol. Byddwn yn trafod ein barn ar effeithiau cadarnhaol o addysg ddwyieithog.

“Gobeithiwn y bydd ein sgwrs fydd yn sôn am ein profiadau yn ddiddorol, ac yn llawn gwybodaeth, ac yn rhoi disgrifiad gonest o'n taith o fod yn fyfyriwr i fod yn weithwyr creadigol proffesiynol sy'n gweithio yng Nghymru heddiw.'

Mae’r ddarlith hon yn rhan o ymgyrch ‘Pethau Bychain’ y Brifysgol sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg, a dywedodd y ddarlithwraig Gwenllian Beynon sydd wedi bod yn trefnu’r cyfan:

“Roeddwn yn diwtor ar Meinir yng Nghaerfyrddin rhwng 2006-2009, ac mae wedi bod yn hynod o ddiddorol gweld ei gyrfa yn datblygu ac yn llwyddo mor anhygoel. Gan fod Mari yn ferch i Meinir rwyf hefyd wedi gweld hi yn datblygu ac yn llwyddo fel cerddor ac rwyf mor falch bod y ddwy ohonynt yn dod i roi darlith i ni eleni.

“Mae’r ddwy yn gweithio gyda themâu Cymreig ac maent yn hynod o wybodus am yr hyn maent yn cynnwys yn eu gwaith creadigol.”

Yn ogystal â darlith Meinir a Mari,  mae artistiaid preswyl Coleg Celf Abertawe yn ogystal wedi trefnu sesiynau byw ar y campws i ddathlu Gŵyl Ddewi, lle fyddant yn darlunio’r Ladi Gymreig. Bydd y sesiynau hyn hefyd yn cael eu ffrydio’n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y seremoni wobrwyo flynyddol am gyfraniad myfyrwyr y Coleg Celf i’r Gymraeg hefyd yn cymryd lle yn ystod y prynhawn, ac yn parhau ddiwedd y mis.

Nodyn i'r Golygydd

Os ydych yn dymuno ymuno â'r ddarlith, cysylltwch â Gwenllian Beynon

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk