Menywod Cymru yn Tsieina: 200 mlynedd o gysylltiad anhygoel â Tsieina
01.03.2022
Gan nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a deucanmlwyddiant addysg uwch yng Nghymru, mae Athrofa Confucius Y Drindod Dewi Sant yn falch o gynnal cyflwyniad ac arddangosfa Menywod Cymru yn Tsieina.
Gan ganolbwyntio ar fywydau pum menyw dros ddwy ganrif, rydym yn archwilio rhai o'r straeon llai adnabyddus am fenywod a ddangosodd ehofndra yn wyneb rhwystrau iaith a diwylliant ac a deithiodd i Tsieina neu a fu'n byw yn y wlad. Gadawodd y menywod hyn effaith ac atgofion parhaol yn y lleoedd yr ymwelsant â nhw. Roedd rhai ohonynt, yn wragedd cenhadon, yn ymwneud â hyrwyddo iechyd menywod Tsieina. Roedd eraill yn deithwyr annibynnol a rhaid rhyfeddu at eu gweithredoedd o ddewrder a dygnwch.
Adroddir eu straeon gan yr awdur a'r hanesydd am Tsieina Ena Niedergang, awdur Wales China: 250 Years of History. Mae'r holl fenywod sy'n ymddangos yn y cyflwyniad a'r arddangosfa naill ai'n dod o Gymru neu â chysylltiad cryf â Chymru. Gladys Aylward yw'r ffigwr mwyaf adnabyddus a daeth yn enwog drwy ffilm 1958: Inn of the Sixth Happiness gydag Ingrid Bergman yn y brif rôl, a ffilmiwyd ar leoliad yng ngogledd Cymru. Llai hysbys yw cysylltiad Gladys ag Abertawe lle bu'n byw ac yn gweithio am dair blynedd.
Mae Betsi Cadwaladr o ogledd Cymru yn enwog am ei gyrfa nyrsio gyda Florence Nightingale yn ystod rhyfel y Crimea. Fodd bynnag, teithiodd hefyd i Tsieina a chael gwrandawiad annisgwyl gyda'r Ymerawdwr rywbryd ar ôl 1830.
Margaret John, a anwyd ym Madagascar i rieni cenhadol a oedd yn dod o Fachynlleth, oedd gwraig y cenhadwr o Abertawe Dr Griffith John a dreuliodd hanner can mlynedd yn gweithio yn Wuhan a Thalaith Hubei rhwng 1861 a 1911. Enwyd Ysbyty Margaret yn Wuhan ar ei hôl.
Roedd Jane Williams o Lanelli yn genhades feddygol a fu’n gweithio yn Nhalaith Yunnan yn y 1930au.
Gan fynd â ni i'r 21ain Ganrif, yn 2012 trefnodd un o drigolion Sir Gaerfyrddin, Megan Knoyle Lewis y prosiect ‘Y Ras Geffylau Hir' o Shanhaiguan – pen môr Mur Mawr Tsieina dros y tir, i Ben Pyrod ar Benrhyn Gŵyr yn Abertawe, sef pellter o 5,265 o filltiroedd.
Cynhelir digwyddiad lansio’r arddangosfa ar gampws Ysgol Fusnes Abertawe Y Drindod Dewi Sant am 18:00 ar 8 Mawrth 2022, yng Nghanolfan Busnes a Diwylliant Tsieineaidd Athrofa Confucius. Bydd Ena Niedergang yn rhoi hanes y menywod hyn ac yn cyflwyno'r arddangosfa sy'n cynnwys dillad Tsieineaidd traddodiadol Gladys Aylward.
Mae'r arddangosfa yn symud i gampws Llambed y Drindod Dewi Sant o 18 Mawrth ymlaen i Ystafell Ddarllen AC yn llyfrgell y campws pan fydd Ena Niedergang yn ail-wneud y sgwrs a sesiwn holi ac ateb. Bydd yr arddangosfa yn parhau yn Llambed am bythefnos. Yn ogystal, drwy garedigrwydd Llyfrgell ac Archif Roderic Bowen, arddangosir rhai deunyddiau o Lysgenhadaeth Macartney 1793 i Tsieina hefyd.
Am fwy o wybodaeth gweler https://www.uwtsd.ac.uk/confucius-institute/events/
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â k.krajewska@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076