Myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant yn serennu yng nghyfres newydd S4C ‘Stad’.
02.03.2022
Mae myfyriwr o’r cwrs BA Theatr Gerddorol o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn ffodus iawn o gael rhan yng nghyfres newydd S4C ‘Stad.’
Un o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yw Tomos Jones sy’n chwarae’r rhan ‘Darren Miaw’ yn y gyfres ‘Stad’. Clywodd Tomos fod yna fwriad gan S4C i ailwampio’r gyfres boblogaidd ‘Tipyn o Stad’, a phenderfynodd Tomos y byddai’n dymuno ymgeisio am ran. Ar ôl cael sgwrs gyda Dafydd ap Iwan, un o gynhyrchwyr y gyfres, bu’n ddigon ffodus i gael cyfle i fynychu sesiwn i ddarllen dros ambell i sgript yng nghwmni rhai o’r tîm cynhyrchu, cynigwyd y rhan iddo.
Dywedodd Angharad Elen, un o storïwyr y gyfres: “Mae ‘Stad’ yn gyfres fyrlymus, yn llawn hiwmor a phathos, sy’n dilyn hynt a helynt cymeriadau cyffredin sy’n cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd anghyffredin. Dydi hi ddim ar gyfer y gwangalon ond dydi hi ddim yn gyfres dywyll chwaith. Mae’n agos-atoch ac yn fywiog, a gobeithio ein bod wedi llwyddo i ddal dipyn o ffraethineb y Cofi.
“Er bod rhai o gymeriadau ‘Tipyn o Stad’ yn ymddangos yn y gyfres hon, does dim rhaid bod wedi ei gwylio er mwyn mwynhau ‘Stad’. Mae gan ‘Stad’ ei stamp ei hun ac mae ’na do newydd, ifanc o gymeriadau ynddi, sy’n dod a’u hegni a’u hasbri eu hunain.”
Mae'n portreadu cymeriad sydd yn ei arddegau ac yn byw yng Nghaernarfon.
Yn ôl Tomos, mae’n portreadu: “hogyn bach sy’n meddwl ei fod o’n bob dim.” Er bod y cymeriad yn ymddangos fel un o fechgyn mawr y dre’, dywed Tomos mai’r person cynta’ y byddai’n troi at mewn argyfwng yw ei fam.
I Tomos: “Mae’n deimlad reit neis i allu fod yn rhan o gyfres mor eiconig ar S4C a medru gwneud hynny drwy berfformio yn y Gymraeg. Mae’n brofiad newydd, ac yn ffordd grêt i weld sut mae pob dim yn gweithio yn broffesiynol o fewn y diwydiant, boed hynny y tu ôl i’r camera neu yn yr adran gwisgoedd a cholur. Mae’n brofiad gwych, ac yn ddrws gobeithio fydd yn agor at brofiadau eraill.”
Penderfynodd Tomos ddod i astudio yn y Drindod Dewi Sant gan ei fod am ddysgu a datblygu sgiliau newydd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd Tomos:
“Dwi’n mwynhau pob adran o’r cwrs, a dwi’n lwcus o gael y tiwtoriaid sydd genna’i. Y dawnsio dwi’n licio fwyaf.”
Teimla Tomos fod y cwrs wedi’i ddatblygu fel person. Ychwanegodd,
“ Yn bendant mae’r cwrs wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus. Erbyn hyn, pe fyddai cyfleoedd newydd yn dod i’m rhan, fe fyddwn i’n teimlo’n ddigon hyderus i fynd amdani.”
Dywedodd y Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr y cwrs, Eilir Owen Griffiths, “Rydym yn hynod falch bod Tomos yn rhan o’r gyfres newydd hon, mae’n actor naturiol dros ben, ac rwy’n edrych ymlaen at weld o ar y sgrin fach.”
Nodyn i'r Golygydd
Mae modd gwylio 'Stad' pob nos Sul am 9 o'r gloch ar S4C
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476