Myfyrwraig o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cymryd drosodd Canolfan Chwaraeon leol, gyda’r weledigaeth o greu hwb cymunedol.
12.04.2022
Yn ddiweddar, mae myfyrwraig Rheolaeth Menter Wledig o Ysgol Fusnes Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi cymryd drosodd canolfan chwaraeon leol yng Nghwm Gwendraeth, gyda’r weledigaeth o’i datblygu’n hwb cymunedol ar gyfer y gymuned.
Cafodd Kelly Lewis-Bennett o’r Tymbl y cyfle hwn pan gynigiwyd iddi gymryd drosodd canolfan chwaraeon Canolfan Carwyn ym mhentref Drefach. Roedd Kelly’n ymwneud â’r Ganolfan ar y dechrau fel aelod o bwyllgor Baton Twirling Association Cymru (BTAC).
Meddai Kelly,
“Y rheswm pam gwnaethom ni gymryd drosodd Canolfan Carwyn oedd oherwydd nad oedd gan ein haelodau gartref i ymarfer ynddo. Mae covid wedi cael effaith ofnadwy ar bob math o chwaraeon cymunedol, ac felly, gwnaethom ganolbwyntio ar y diffyg hwn. Roedd hyn yn golygu y byddai ‘na gartref parhaol i’n haelodau, heb unrhyw drafferthion.”
Mae merch Kelly yn aelod brwdfrydig o’r clwb, a llynedd rhoddwyd iddi statws athletwr elitaidd gan Chwaraeon Cymru. Dywedodd:
“Cawsom drafferthion mawr yn dod o hyd i neuadd ar ei chyfer hi. Er ei bod hi wedi ennill y statws athletwr elitaidd, nid oedd hynny’n sicrhau y byddai hi’n gallu ymarfer, oherwydd roeddem yn dal i gael trafferthion yn dod o hyd i neuadd a oedd yn fodlon iddi wneud hynny. Hyd yn oed yn ystod y cyfnodau covid anodd, nid oedd modd iddi wneud unrhyw ymarfer. Felly, byddai hi’n ymarfer mewn meysydd parcio – a bu rhaid i ni feddwl o ddifri am hynny ac ystyried ein haelodau eraill hefyd; byddai rhaid i ni ddod o hyd i rywle ar gyfer ein haelodau a’u cefnogi nhw’n fwy, ac yna, daethom ar draws Canolfan Carwyn.”
Gyda’r gostyngiad yn y cyfyngiadau symud, dechreuodd y clwb ymarfer yng Nghanolfan Carwyn, ac yna, wrth i’r aelodau ymsefydlu yn eu lleoliad newydd, dechreuodd Kelly a’r clwb ddatblygu ambell beth newydd yma ac acw a wnaeth argraff ar swyddogion y ganolfan chwaraeon.
Ychwanegodd Kelly: “Dywedodd y swyddogion wrthyf ‘does dim angen i chi wneud yr holl i chi’n ei wneud, nid eich cyfrifoldeb chi yw hwn’. Yna, gwnaethom ddechrau siarad, ac fe ofynnon nhw a fyddai diddordeb gyda ni o ran cymryd y ganolfan drosodd; yna feddyliais, rwy’n wir credu y gallaf wneud hyn.”
Ar hyn o bryd mae Kelly a’i thîm yn gyfrifol am reoli’r ganolfan, o gymryd archebion i reoli staff. Ei gweledigaeth yw datblygu’r ganolfan a’i gwneud ar gael i bawb.
“O’n safbwynt ni, pwrpas hwb cymunedol yw helpu hyrwyddo chwaraeon cymunedol, ond nid chwaraeon cymunedol yn unig, ond hefyd iechyd a llesiant. Rydym yn rhagweld llawer o gyfleoedd i’r genhedlaeth hŷn adennill ffordd o fyw iach yn dilyn covid. Rydym am gefnogi ysgolion dawnsio; mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd!”
Penderfynodd Kelly astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel modd o ddatblygu ei hun ac fel ffordd o wella ei sgiliau. “Rwy’n hoffi’n fawr pob dim am y Drinod Dewi Sant. Rwy’n hoff o ddysgu, rwy’n hoffi’r perthnasau yr ydym yn eu meithrin, nid dim ond gyda’r bobl sydd ar yr un cwrs â chi, ond hefyd gyda’r darlithwyr – mae’n wych! Mae’r gefnogaeth sydd i’w chael yma heb ei hail. Pan wnes i orffen yn yr ysgol, nid oedd gennyf unrhyw TGAU, a dweud y gwir doedd gennyf ddim cymwysterau o gwbl. Erbyn yr oeddwn yn 20 mlwydd oed, roedd gennyf blant ac ni feddyliais erioed y byddwn yn fwy na mam am weddill fy oes. Mae’r Brifysgol wedi fy newid. Ni feddyliais erioed y byddwn yn mwynhau dysgu cymaint ag yr wyf wedi’i wneud.”
Mae’r sgiliau y mae Kelly wedi dysgu wrth astudio yn Y Drindod Dewi Sant wedi ei helpu i wireddu ei breuddwyd.
“Yn fwy na dim, mae’r cwrs wedi rhoi hyder i mi. Ni feddyliais erioed y byddwn yn gallu ymdopi â’r cwrs yn y brifysgol, heb sôn am reoli canolfan chwaraeon!
“Mae’r cwrs wedi fy helpu gyda’r broses reoli. Mae wedi dysgu i mi’r camau sydd angen i mi eu cymryd ar gyfer datblygu a rheoli lle, y cyfrifoldeb y mae hynny’n ei olygu a sut i reoli’r cyfrifoldeb hwnnw. Mae wedi fy nysgu am werthoedd a gwerthoedd cymunedol ... a dweud y gwir, mae popeth wedi datblygu yn sgîl fy nghwrs yn y brifysgol.”
Mae’r darlithydd Jessica Shore yn falch o gyflawniad Kelly ac am ddymuno iddi bob dymuniad da i’r dyfodol.
“Rydym yn falch dros ben o Kelly a’i chyflawniadau. Mae Kelly wedi bod yn fyfyrwraig ffantastig drwy gydol ei hamser gyda ni. Gyda’i gradd yn dod i ben, a chynllun ar gyfer ei gyrfa eisoes wedi’i osod mewn lle, sy’n cynnwys rhoi yn ôl i’r gymuned, mae hyn oll yn dyst o’i hymrwymiad, ei chymeriad a’i gwerthoedd cymunedol. Hoffem ddymuno pob lwc i chi ar gyfer y dyfodol ac edrychwn ymlaen at ymweld â’ch canolfan cyn bo hir.”
Am fod Kelly am roi yn ôl i’r gymuned, mae’n gobeithio bydd Canolfan Carwyn, dan ei rheolaeth hi, yn gallu cynnal cymaint o grwpiau cymunedol ag sy’n bosibl, ac ar ôl iddi raddio, mae hi’n gobeithio defnyddio ei hamser yn dilyn hyn ymhellach.
“Mae digon o bethau i’w gwneud yma, ac er ei bod hi’n gynnar o hyd, mae pethau’n mynd yn eu blaen yn dda iawn, ac mae pobl yn dangos llawer o ddiddordeb yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rydym, o fewn tri mis yn unig, wedi cynyddu’r defnydd a wneir o’r lle. Hoffwn gynnig cymaint o gyfleoedd yn y man hwn ag y gallaf ar gyfer y gymuned leol ac ar gyfer y gymuned ehangach.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476