Myfyrwraig o’r Drindod Dewi Sant yn dylunio llun ar gyfer Gwobr Barn y Bobl Golwg360.
22.07.2022
Mae Karen McRobbie, sydd newydd raddio o’r cwrs darlunio o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael ei dewis i greu llun ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Barn y Bobl Golwg 360 a gyhoeddwyd neithiwr (nos Iau, 21 o Orffennaf) ar BBC Radio Cymru.
Dyma’r unfed flwyddyn ar ddeg yn olynol i fyfyriwr o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant greu gwobr ar gyfer y categori hwn. Lluniodd Karen lun arbennig a gafodd ei roi fel rhodd gan Golwg360, noddwyr Gwobr Barn y Bobl am y gyfrol ‘Y Pump’ gan 10 awdur gwahanol.
Yn y llun a ddyluniwyd gan Karen, gwelir y ddraig goch yn darllen gyda llwyth o lyfrau ar y pen. Penderfynodd Karen ddylunio’r llun trwy ddatblygu ychydig o’r technegau a’i syniadau a ddefnyddiodd ar gyfer ei sioe radd. Natur darlunio yw ymateb i friff, roedd creu rhywbeth penodol i Wobr Barn y Bobl yn addas iawn i waith Karen.
Dywedodd: “Roeddwn wrth fy modd clywed fy mod wedi cael i ddewis i greu'r darlun, ac mae wedi bod yn anrhydedd mawr creu’r darlun hwn ar ran Golwg 360. Mae'n gyfle unigryw i mi arddangos fy ngwaith fel darlunydd newydd i gynulleidfa enfawr, a allai o bosib arwain at brosiectau darlunio a chelf newydd a gobeithio comisiynau am waith yn y dyfodol.
“Mae adrodd stori, adeiladu cymeriadau a chreu awyrgylch yn rhan annatod o fy ngwaith. Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn gweithio ar wawdluniau o arweinwyr benywaidd pwerus ac ar ddarlunio llyfrau i naratifau personol. Mae’r gwawdluniau wedi rhoi’r cyfle imi greu gwisgoedd a gemwaith moethus, llawn manylder, yn ogystal â datblygu emosiwn a mynegiant y cymeriad. Yn fy narluniau naratif diweddar, sy’n seiliedig ar gymeriadau straeon tylwyth teg ac ar gymeriadau ysbrydolwyd gan brofiadau personol, rydw i wedi mwynhau datblygu fy nefnydd o drosiadau gweledol i adrodd y stori.”
Dywedodd y darlithydd Gwenllian Beynon: “Mae’n grêt gallu rhoi’r cyfle i fyfyrwyr sydd yn graddio i weithio ar brosiect proffesiynol gyda’r Coleg Celf, a chwmni adnabyddus fel Golwg360 ac hefyd rhoi’r cyfle i’n graddedigion o’r cwrs darlunio i fod yn rhan o Wobr Llyfr y Flwyddyn. Nôd Owain Schiavone (Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Golwg Newydd (Golwg360) a Chyfarwyddwr Golwg Cyf) yw cael darn o waith celf y myfyrwyr ac i greu'r cyfle yma iddynt gael ychydig o blatfform celfyddydol yn fuan ar ôl graddio.”
Ychwanegodd Iwan Vaughan, un o Reolwyr y rhaglen Darlunio: “Mae hyn yn gyfle gwych i Karen ac yn gyfle sydd yn addas i’w gwaith sydd â thuedd naratif ynddo”.
Mae Karen yn edrych ymlaen at astudio ei chwrs Meistr mewn Darlunio, ac yn gobethio parhau i ddatblygu ei sgiliau peintio, a sgiliau cyfryngau digidol, gyda’r bwriad o ddatblygu a mireinio ei gallu i ddatblygu amgylcheddau ac adeiladu byd ar gyfer ei naratifau. Gobeithia Karen hefyd ymestyn ei chyfres o wawdluniau, ac mae’n gobeithio hefyd datblygu darluniau o gymeriadau mytholegol, chwedlau Cymreig a straeon arswyd.
Er i Karen ysytried y cyfle hwn fel braint, mae ganddi flwyddyn prysur o’i blaen wrth iddi gael y cyfle i weithio ar amrywiaeth o brosiectau celfyddydol gydag Oriel Myrddin, Yr Ardd Fotaneg a phrosiect newydd cyffrous ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023, ‘Prosiect 23’.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476