Myfyrwraig Rheoli Busnes Y Drindod Dewi Sant yn sefydlu digwyddiad Cyfnewid Dillad yng Nghaerfyrddin


07.04.2022

Mae myfyrwraig o Ysgol Fusnes Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrthi’n sefydlu digwyddiad Cyfnewid Dillad yng Nghaerfyrddin fel ffordd o achub yr amgylchedd ac arbed arian i bobl.

Clothes Swishing Carmarthen

Fel myfyrwraig, mae Christine Joy wedi dod yn ymwybodol o faterion amgylcheddol, economi gylchol, a gwerth y gymuned leol wrth astudio ei chwrs Busnes a Rheolaeth yn Y Drindod Dewi Sant.

Yn ystod ei blwyddyn gyntaf daeth yn ymwybodol o ffasiwn gyflym ar ôl cyflawni'r modwl "Her Busnes Byd-eang.” Wrth ysgrifennu traethawd, rhoddodd yr ymchwil a ddarganfu fraw iddi - roedd llynnoedd wedi'u draenio, chwalodd ffatri gan achosi nifer o farwolaethau, materion moesegol ynghylch chyflog teg ac amodau gwaith a llygredd dŵr i enwi rhai. Ar ôl y darganfyddiad hwn, daeth Christine yn ymwybodol o'r hyn a brynai, hyd yn oed i lawr i'r deunydd. Fodd bynnag, nid tan ei hail flwyddyn wrth astudio "Newid Technolegol ac Arloesi" pan ofynnodd y darlithydd i'r dosbarth beth y gallai pawb fod yn ei wneud i helpu ein hamgylchedd, y gwnaeth feddwl eto am ffasiwn gyflym ac ymchwilio i ffyrdd y gall pawb chwarae eu rhan. Dyna pryd y daeth ar draws cyfnewid dillad.

Mae cyfnewid dillad yn ffordd o arafu ffasiwn a helpu ein hamgylchedd. Drwy gadw eitemau o ddillad, esgidiau ac ategolion mewn bywyd yn hirach, gallwn leihau'r angen i brynu eitemau newydd, helpu ein hamgylchedd ac arbed arian.

Mae'r weledigaeth yn un syml. Mewn digwyddiad cyfnewid dillad bydd pobl yn dod â dillad, esgidiau ac ategolion glân o ansawdd da nad oes eu hangen arnynt mwyach ac yn gyfnewid yn cael rhif dilysu unigryw sy'n cynnwys pwyntiau fesul eitem (gellir rhoi pwyntiau ychwanegol am rai eitemau newydd sbon sydd â thagiau neu frandiau dylunydd). Wedyn caiff yr holl eitemau a gesglir eu harchwilio, eu didoli a'u rhoi yn y digwyddiad cyfnewid. Yn ystod diwrnod y digwyddiad, mae pobl yn defnyddio eu pwyntiau ar gyfer eitemau newydd o ddillad, esgidiau ac ategolion. Bydd unrhyw eitemau sy'n weddill yn cael eu cynnig i sectorau economi gylchol cynaliadwy megis myfyrwyr ffasiwn a dylunio neu siopau elusen ac ati.

Yn ôl Christine,

"Nid yw'r person cyffredin yn defnyddio 1/3 o'i wardrob ac mae’r tagiau’n dal i fod ar  lawer o eitemau.  Ffasiwn gyflym yw un o'r cyfranwyr mwyaf i allyriadau byd-eang, llygredd ac mae'n cynhyrchu dros 95 tunnell o wastraff y flwyddyn, heb sôn am ecsbloetio anfoesol. "

Cyn i Christine ddod i'r Drindod Dewi Sant i astudio, bu'n gweithio i'r cwmni mwyaf yng Nghymru, lle'r oedd wedi gweithio ei ffordd i fyny'r ysgol i fod yn brif reolwr, gan redeg adran fach. Roedd ganddi ysfa erioed i ddechrau ei busnes ei hun a byddai bob amser yn gweld cyfleoedd, ond oherwydd diffyg gwybodaeth, ni lwyddodd erioed i gael y maen i’r wal. Ar ôl symud yn ôl at ei gwreiddiau yng ngorllewin Cymru, penderfynodd ddod i astudio yn Y Drindod Dewi Sant gan ei bod am astudio yn rhywle a oedd ag amgylchedd cyfeillgar a theimlad teuluol.

Mae Christine wedi teimlo bod y cwrs wedi ei datblygu'n academaidd ac yn bersonol ac mae hi'n teimlo ei bod wedi dod o hyd i’w hun unwaith eto, fodd bynnag, yn dweud ei bod yn gwthio ei hun i gyflawni rhagor.

Ychwanega,

"Mae'r cwrs yn ysgogi ystyriaeth ynghylch ystyriaethau busnes byd-eang, ein planed a'n cymuned. Mae'r cwrs yn ysgogi creadigrwydd wrth i senarios bywyd go iawn gael eu defnyddio gyda sawl cyfle i symud ymlaen ar gael i fyfyrwyr."

Byddai creu digwyddiad tebyg i hwn ar y campws yn ôl Christine,

"yn atal gwastraff dillad rhag mynd i safleoedd tirlenwi a'i gadw o fewn amgylchedd cylchol, gan arbed arian i fyfyrwyr, teulu a'r gymuned. Hoffwn i Ysgol Fusnes Caerfyrddin  Y Drindod Dewi Sant gael ei chydnabod am gynaliadwyedd a chreu gwerth, yn ogystal â chryfhau'r berthynas yn y Gymuned leol a'r Drindod Dewi Sant."

Mae'r darlithydd Jessica Shore yn falch iawn o weledigaeth Christine. Meddai,

"Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Chrissie a'i digwyddiad, a fydd o fudd i'w chyd-fyfyrwyr, y gymuned ehangach a'r amgylchedd.  Nod y rhaglenni busnes israddedig yma yng Nghaerfyrddin yw herio ymddygiad busnes traddodiadol ac mae awydd Chrissie i wneud gwahaniaeth yn enghraifft wych o hyn. Yn bersonol, rwy’n mynd ai i fynd trwy beth sydd gen i ac i annog gweddill y staff a'r myfyrwyr i wneud yr un peth er mwyn gwneud y digwyddiad yn llwyddiant!"

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk