Myfyrwyr BA Perfformio yn cynnal gweithdai Boal gydag ysgolion cynradd Caerdydd.


09.06.2022

Mae myfyrwyr o’r cwrs BA Perfformio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi bod yn cynnal gweithdai hyfforddiant Boal yn ddiweddar gydag athrawon ysgolion cynradd Caerdydd fel techneg newydd i’w ddefnyddio yn y dosbarth.

Wavda Cymru

Mae’r myfyrwyr wedi cynnal cyfres o weithdai gydag athrawon o ysgolion Glan Ceubal, Ysgol y Wern, Pencae, Hamadryad, Pwll Coch a Mynydd Bychan er mwyn eu haddysgu am dechneg chwarae rôl yr ymarferwr theatr, Augusto Boal. Bwriad yr hyfforddiant yw hwyluso dull sy’n helpu plant i ymdrin â heriau bach sydd yn gallu codi wrth chwarae, neu yn y dosbarth.

Y gobaith yw byddai modd i’r plant ac athrawon fedru camu i mewn i’r sefyllfa drwy actio’r broblem allan, ac yna gobeithio goresgyn y broblem drwy drafod sut fyddai modd ei ddatrys, a’r hyn sy’n eu poeni.

Dywedodd Mared Harries, athrawes o Ysgol y Wern, Caerdydd:

“Mae cael ymwelwyr i mewn i’r ysgol o hyd yn sbarduno diddordeb y disgyblion, ond yn sicr mae cael y cyfle i ddod i adnabod y myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a threulio ychydig o amser yn eu cwmni  yn chwarae gemau drama wedi golygu bod y disgyblion yn gweld drama fel peth hwyl.

“Maent yn edrych ymlaen yn arw i arbrofi â thechnegau Boal, ac i ddysgu mwy amdano, ac rydym ni fel athrawon yn awyddus i weld sut all y dull drama hwn fod yn ffurf i’r dysgwyr fynegi eu gofidiau ac i ddatrys problemau bach o ddydd i ddydd sydd i’w gweld ar yr iard yn gyson.”

Mae gweithdai o’r fath wedi llwyddo i feithrin hyder ymhlith y myfyrwyr yn ogystal â dysgu iddynt set newydd o sgiliau allweddol sydd yn eu paratoi ar gyfer y dyfodol.

Meddai David Horgan-Harding, un o fyfyrwyr y cwrs,

“Gan weithio efo ysgolion dwi wedi dysgu llawer am weithio efo plant a sut i addasu gweithgareddau i ffitio i mewn i themâu a meddylfryd nhw. Dros yr wythnosau dwi wedi dysgu hefyd amdanaf i fy hun ac am yrfa dwi’n gobeithio ei wneud rhywbryd yn ystod y dyfodol, os dwi yn dymuno i fod yn athro drama mewn ysgol.”

Ychwanegodd Elen Bowman, un o ddarlithwyr y cwrs BA Perfformio,

“Mae wedi bod yn brofiad mor ddefnyddiol i ni fel adran i gael y cyfle i gyd-weithio gydag ysgolion cynradd Caerdydd ar y prosiect yma. Roedd y myfyrwyr wedi creu gweithdy manwl am dechnegau'r gwneuthurwr theatr fyd eang Augusto Boal.

“Roedd yr athrawon yn hynod barod i ymdrochi yn y profiad a deall sut fedr technegau theatr Fforwm Boal gael ei addasu ar gyfer plant lefel cynradd. Chwarae teg i'r plant maen nhw'n barod iawn i drio'r ymarferion a chynnig digwyddiadau bach bob dydd sydd angen ei datrys a'i drafod fel grŵp. Yn sgil hyn mae'r myfyrwyr hefyd yn buddio o'r profiad sef sgiliau arwain, cyfathrebu'n glir a magu mwy o hyder fel unigolion. Agweddau holl bwysig yn hyfforddiant yr actor.”

WAVDA Cymru

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk