Myfyrwyr Digwyddiadau a Thwristiaeth y Drindod Dewi Sant yn Rheoli’r Trac


04.04.2022

Cynhaliodd Myfyrwyr Digwyddiadau a Thwristiaeth o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddiwrnod rasio (ddydd Mercher 23 Mawrth) yng Nghae Rasio Ffos Las mewn menter gyffrous yn gysylltiedig â’u rhaglen radd.

Events and Tourism Students from University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) hosted a race day (Wednesday 23rd March) at Ffos Las Racecourse in an exciting initiative linked to their degree programme.

Gan gefnogi talent y dyfodol yn y Diwydiant Lletygarwch, roedd y cydweithio unigryw hwn rhwng y Drindod Dewi Sant a Chae Rasio Ffos Las yn gyfle i’r myfyrwyr roi eu dysgu ar waith drwy gynnal a rheoli pob agwedd ar y diwrnod rasio.

Y Rheolwr Cyffredinol Dros Dro am y dydd oedd Summer Cavanagh, myfyrwraig Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol, a ddywedodd: “Mae'n anrhydedd i mi gael y cyfrifoldeb i gynllunio digwyddiad go iawn o'r statws hwn a chael y cyfle fel tîm rheoli i arddangos ein sgiliau proffesiynol”.

Cynlluniwyd y digwyddiad, a ddarlledwyd gan Sky Sports Racing ac S4C, i roi profiad go iawn o letygarwch a rheolaeth iddynt.

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr y Rhaglen, "Roedd y digwyddiad hwn yn un o nifer oedd â’r nod o roi sgiliau i'n myfyrwyr i ddod yn ddarpar arweinwyr yn eu meysydd dewisol. Mae meddwl creadigol a beirniadol, hyblygrwydd i ymateb i heriau a chyfleoedd, yn ogystal â deall busnes a chynaliadwyedd yn nodau allweddol i’r Brifysgol i’n helpu i symud gyrfaoedd ein dysgwyr yn eu blaenau.

“Mae ein partneriaethau cydweithredol rhagorol mewn diwydiant yn ein galluogi i ymgymryd â phrosiectau byw fel hyn. Ni allaf ddiolch digon i Ffos Las a'n partneriaid sy’n ein cefnogi yn y diwydiant am roi cyfle mor wych i'n myfyrwyr ac mae ein balchder wrth gynnal digwyddiad mor llwyddiannus yn enfawr. Roedd y myfyrwyr yn wych o'r dechrau i'r diwedd gan lwyddo i gyflwyno digwyddiad a oedd yn broffesiynol bob amser. Roedd eu gwylio'n tyfu ac yn datblygu mewn hyder wrth iddynt wneud hynny yn rhoi boddhad mawr.”

Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn y Brifysgol: “Mae gan y Drindod Dewi Sant hanes o ddatblygu rhaglenni academaidd creadigol, arloesol, blaengar sydd â ffocws ar y diwydiant. Dros nifer o flynyddoedd mae wedi cynhyrchu graddedigion rhagorol sydd wedi mynd ymlaen i wneud eu marc o fewn y sector lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau.

“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y sgiliau a'r arbenigedd a gafodd y myfyrwyr a fu’n gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn y diwydiant i gynnal y digwyddiad byw anhygoel hwn. Yr ydym mor falch o'r hyn a gyflawnwyd ganddynt.”

Cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio gan Andrea Murdock, Cadeirydd Cynorthwyol Sefydliad Lletygarwch Cymru, fel un “Di-dor, o’r tarmac i’r bwrdd!”, tra dywedodd Rheolwr Cyffredinol Cae Rasio Ffos Las, Kevin Hire, fod “myfyrwyr y Brifysgol yn hollol wych”.  

Yn ogystal, bu’r myfyrwyr yn gweithio’n agos gyda'r diwydiant i godi arian i elusen Ambiwlans Awyr Cymru drwy arwerthiant a gynhaliwyd gan un o raddedigion y radd Twristiaeth, Mark Gallagher o The Events Room, a daethant o hyd i noddwyr o’r diwydiant ar gyfer eu digwyddiad.

Dywedodd Steven Stokes, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Ambiwlans Awyr Cymru: “Ni allwn ddiolch digon i’r myfyrwyr a’r Ystafell Digwyddiadau am godi arian ar ran ein gwasanaeth - rydych yn achubwyr bywyd. Mae angen i’n helusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Dim ond o ganlyniad i haelioni'r rhai sy'n ein cefnogi ni y gellir sicrhau bod hyn yn digwydd. Bydd pob ceiniog sy’n cael ei rhoi o’r arwerthiant yn ein helpu i fynychu argyfyngau sy’n bygwth bywyd neu achosi anafiadau difrifol ledled Cymru.”

Meddai Amanda Lewis, myfyrwraig ail flwyddyn ar y cwrs Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol a fu’n croesawu noddwyr a gwesteion pwysig ar y dydd: “Mae rhedeg diwrnod cyfan o rasys yn Ffos Las wedi ein galluogi i gael profiad ymarferol, go iawn yn y diwydiant; mae cyfleoedd unigryw fel hyn yn helpu i ddatblygu ein sgiliau tuag at lwybr gyrfa, oherwydd yma gallwch weld sut mae ochr weithredol pethau’n gweithio.  Mae hefyd wedi rhoi cyfle i ni feithrin perthynas gryfach â'n gilydd tra'n gweithio fel tîm ar y digwyddiad hwn.”

Dywedodd Elenor Haskins,  myfyrwraig ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol, "Doeddwn i ddim yn disgwyl i gymaint o gyfleoedd fel hyn ddod i’m rhan mor gyflym yn fy nghwrs gradd. Mae’r diwydiant hwn yn ymwneud â dysgu ymarferol yn ogystal ag academaidd, felly mae'n rhaid i chi wybod sut i ddelio â phobl ynghyd â'r hyn y mae angen ei nodi ar bapur wrth gynllunio ar gyfer digwyddiad. Hefyd, mae digwyddiadau fel hyn wir yn pontio'r bwlch i helpu i feithrin cysylltiadau â chyd-fyfyrwyr o grwpiau blwyddyn gwahanol wrth i ni ddod yn dîm ac rydym yn gallu dysgu oddi wrth ein gilydd yn ogystal.”

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk