Myfyrwyr Dylunio Graffig PCYDDS yn ennill y 2022 Creative Conscience Awards mawreddog
20.09.2022
Mae myfyrwyr BA (Anrh) Dylunio Graffig Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), sef Sophie Francis, Joseff Williams ac Agnes Olah, pob un ohonynt, wedi ennill y 2022 Creative Conscience Awards, a daeth myfyrwraig arall, sef Summer Davies, ar y rhestr fer.
Cymuned greadigol fyd-eang a sefydliad nid-er-elw yw Creative Conscience sy’n credu bod meddwl yn greadigol ac arloesi yn gallu achosi newid cadarnhaol – gwerthoedd a chredau sy’n alinio’n agos â rhai Coleg Celf Cymru, PCYDDS. Mae’r elusen yn ceisio grymuso, mentora a gwobrwyo aelodau’r gymuned greadigol am ddefnyddio eu talent er mwyn cael effaith gymdeithasol ac amgylcheddol bositif.
Medd Donna Williams, Rheolwr Rhaglen Dylunio Graffig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Mae canolbwyntio ar Gyfathrebu Gweledol er mwyn creu byd gwell yn rhan bwysig ac annatod o’r hyn yr ydym yn ei addysgu ac yn ei werthfawrogi yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS.
“Mae’r ffaith bod ein myfyrwyr anhygoel ar y rhestr fer ac wedi ennill y Creative Conscience Awards yn ddilysiad o’u hymrwymiad i wneud gwahaniaeth, o’u sgiliau, ac o’u hymatebion i gelf ar waith. Mae pob aelod o’r staff wedi’i wefreiddio’n fawr bod y myfyrwyr wedi cael eu gwobrwyo, ac mae hi’n bleser o’r mwyaf bod y prosiectau hyn bellach yn cael eu rhannu’n eang. Yn ogystal, dymunwn roi diolch i’r elusen Creative Conscience”.
Amdano’r prosiectau
Enillydd: Joseff Williams a Sophie Francis – Myfyrwyr BA (Anrh) Dylunio Graffig yn eu Trydedd Flwyddyn
https://joseffwilliams.com | https://sophieefrancis.com
Gwnaeth Joseff Williams a Sophie Francis greu ymgyrch gydweithredol amdano effaith Endometriosis. Mae Endometriosis yn effeithio ar 1.5 miliwn o bobl yn y DU, ond er gwaethaf hyn, ar y cyfan, nid yw’n cael ei drafod yn gyhoeddus, ac yn aml, caiff ei ddiystyru fel ‘problem menywod’.
Mae’r sawl sy’n dioddef o’r cyflwr hwn yn dweud nad yw pobl yn credu eu profiadau a’u bod nhw’n cael eu perswadio i amau bod ganddynt boen go iawn. Diben y prosiect oedd codi ymwybyddiaeth o Endometriosis gan achosi’r sawl sydd â’r cyflwr i deimlo eu bod nhw’n weladwy ac yn cael eu credu a’u clywed.
Gwnaeth y ddau ddylunydd graffig ysbrydoledig hyn ddefnyddio eu sgiliau i ddod â’r mater i olwg y cyhoedd gan eu hachosi i siarad am yr hyn na sonnid amdano. Medd Joseff: “Gwnaethom amlygu’r pwnc hwn oherwydd gwelais pa mor wael yr oedd e’n effeithio ar aelod o’m teulu sy’n ddioddef o’r cyflwr. Nid oeddwn wedi sylweddoli holl ddifrifoldeb y poen yr oedd hi’n ei ddioddef tan i mi wneud mwy o ymchwil.
“Gwnaethom arddangos y gwaith mewn caffi lleol a man cymunedol, ac rydym wedi cael ein hysbysu bod y prosiect wedi dylanwadu ar fenywod yn barod a’u hachosi i ofyn am gymorth oddi wrth eu Meddyg Teulu. Roedd hi mor foddhaol i glywed hyn oherwydd mae’n dangos grym gweithredu gweledol”.
Enillydd: Agnes Olah – Myfyrwraig BA (Anrh) Dylunio Graffig yn ei Hail Flwyddyn
Instagram: @agnesolahgd
Agnes (Agi) Olah gwnaeth greu’r prosiect celf rhyngweithiol ‘I AM’ a agorodd ffenestri bychain i feddyliau eraill. Ar ddychwelyd i’r stiwdio yn dilyn y cyfyngiadau covid, daeth Agi yn ymwybodol o’r ffaith bod pawb yn ‘not ok’. Gwnaeth ei phrosiect helpu ailgysylltu â’i gilydd y sawl a oedd yn defnyddio’r lle a’u helpu i ddathlu derbyn ymdrechion a chryfderau pob unigolyn.
Ar ôl defnyddio tiwtora ar-lein cymaint ag yr oedd hi’n bosibl, newidiodd y prosiect i un o ‘ymgysylltu wyneb yn wyneb’ a gwnaeth hyn alluogi pawb i ysgrifennu mewn ffenestri bychain am eu hymdrechion a’u cryfderau. Llwyddodd hyn hefyd achosi adfyfyrio a sgwrsio, a chwerthin a rhannu storïau am ddarganfod eu hunain yn ystod yr adegau diweddar hynny o ymdrechu, er mwyn dangos sut gwnaeth unigolion ddod o hyd i’r cadernid i godi ar eu traed unwaith eto.
Enwebwyd: Summer Davies – Myfyrwraig BA (Anrh) Dylunio Graffig yn ei Hail Flwyddyn
https://studiobreeze.myportfolio.com/ | Instagram: @cwlbreeze
Ymgyrch yw Curious sy’n codi ymwybyddiaeth o ficroymosodiadau hiliol yn erbyn pobl sydd â gwallt gwead Affro math 4. Canolbwyntiodd Summer ar ddangos y profiadau ansefydlog cyffredin hynny sy’n effeithio ar bobl dduon bob dydd, gan bwysleisio eu hymatebion drwy ddangos eu trallod a’u pryder, rhywbeth a achosir yn aml oherwydd sefyllfaoedd lletchwith, megis pan fo’r cyhoedd yn gofyn cwestiynau am eu gwallt, neu hyd yn oed yn cyffwrdd ag ef.
Yr esgus a ddefnyddir yn aml am yr ymddygiad hwn yw ‘chwilfrydedd’. Roedd Summer am annog pobl i ddefnyddio eu chwilfrydedd er gwell a hysbysu’r cyhoedd na ddylen nhw wrthod awtonomi i bobl dduon, eu tanseilio na gofyn cwestiynau iddynt y ormodol am eu gwallt.
Drwy ymdrin â’r testun sensitif hwn yn hael, a chynnal y prosiect gyda gras ac mewn ffordd anfeirniadol, canlyniad gwaith Summer oedd cyfathrebiad gweledol ystyriol a diddorol. Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, gellid gweld bod y broses yn datblygu gan greu canlyniad grymus a gynorthwyodd pawb a wnaeth chwarae rhan i ddeall y mater sensitif hwn yn well.
Ymwelwch â BA (Anrh) Dylunio Graffig am ragor o wybodaeth, neu dilynwch y cwrs ar y cyfryngau cymdeithasol:
Facebook: @graphicdesignswansea | Twitter: @graphicdesignswansea | Instagram: @graphic.design.uwtsd
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078