Myfyrwyr Dylunio Set a Chynhyrchu Y Drindod Dewi Sant yn adeiladu set ar gyfer Taith Opera o gwmpas y DU.
26.07.2022
Mae myfyrwyr a staff cwrs Dylunio Set a Chynhyrchu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod wrthi’n brysur yn ddiweddar yn adeiladu ac yn paentio set i’r Charles Court Opera Company.
Mae Charles Court Opera wedi cael ei ddisgrifio fel un o gwmnïau opera siambr a theatr gerdd blaenllaw a mwyaf amlbwrpas y DU. Adeiladwyd y set, a gafodd ei chreu a’i phaentio gan aelodau staff a myfyrwyr y Drindod Dewi Sant, yn arbennig ar gyfer taith y cwmni o gwmpas y DU yn ystod yr haf hwn gydag un o operetas mwyaf doniol Gilbert a Sullivan, sef ‘Patience’. Caiff y perfformiad ei gyfarwyddo gan John Savournin, y gerddoriaeth ei chyfarwyddo gan David Eaton a’r set a’r gwisgoedd eu dylunio gan Simon Bejer.
Er mwyn ailgreu’r set, ymgymerwyd â’r gwaith gan yr adran yn seiliedig ar luniadau technegol a ffotograffau o fodel wrth raddfa. Mae pob rhan o’r set wedi’i gwneud â llaw a’i phaentio gan ddefnyddio technegau traddodiadol.
Mae adran Dylunio Set a Chynhyrchu y Drindod Dewi Sant yn ffynnu drwy gyfuno dysgu seiliedig ar waith â’r cwrs, oherwydd mae’n cynnig y cyfle perffaith i roi ar waith gwybodaeth a addysgir, ochr yn ochr â phrofiad o’r diwydiant.
Mae’r profiad hwn hefyd wedi bod o fudd i fyfyrwyr oherwydd mae’r cyfle wedi eu galluogi i ychwanegu gwaith proffesiynol at eu c.v. cyn graddio.
Dywedodd y myfyriwr Laurie Peric: "Pan ofynnodd fy narlithydd i mi a hoffwn helpu gyda chynhyrchu'r set y gofynnwyd amdano gan Charles Court Opera, fe neidiais ar y cyfle. Fel myfyriwr Ail flwyddyn sy'n astudio BA Dylunio a Chynhyrchu Set yn Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin, rwy'n awyddus i gael cymaint o brofiadau ymarferol â phosib er mwyn i mi allu cryfhau fy Mhortffolio.
"Rhoddodd y cyfle hwn y lle i mi ymarfer fy sgiliau celf golygfaol a chyfathrebu â'r diwydiant. Mae hefyd wedi bod yn ddiddorol arsylwi a chydnabod yr agweddau dylunio unigryw sydd eu hangen i gyflawni dyluniad gwaith da, fel sioe deithiol mae'n rhaid iddo allu ffitio llawer o leoliadau amrywiol a'u hanghenion. Mae cael profiadau ychwanegol o'r cwricwlwm fel hyn yn amhrisiadwy i fyfyrwyr yn fy sefyllfa i, ac mae'n braf gwybod eich bod chi'n rhan o gydweithrediad mwy a fydd yn rhoi profiad pleserus i'r gynulleidfa."
Meddai’r darlithydd Dave Atkinson,
“Mae cyflwyno brand y Drindod Dewi Sant i’r diwydiant yn hanfodol; ac mae dangos a chyflwyno myfyrwyr medrus dros ben i broffesiynolwyr ac i gwmnïau yn rhoi’r pwynt gwerthu unigryw i gwrs Dylunio Set a Chynhyrchu y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.”
“Profiad gwaith ymarferol yw asgwrn cefn y cwrs dylunio set. Mae pob un o ddarlithwyr y cwrs ar hyn o bryd yn broffesiynolwr sy’n gweithio yn y diwydiant ac yn deall pa mor bwysig yw ymgysylltu â’r diwydiant cyn gynted ag sy’n bosibl.”
Wrth i’r Charles Court Opera Company fynd ar daith gyda’i berfformiad o ‘Patience’, mae’r cysylltiad rhwng y Drindod Dewi Sant â’r cwmni yn parhau oherwydd maent ar hyn o bryd yn adeiladu set newydd ar gyfer eu hopera nesaf, sef ‘Man in the Moon’ a wnaiff deithio’n fuan o gwmpas ysgolion ar ffurf rhaglen addysg ac ymestyn allan.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476