Myfyrwyr Ôl-raddedig Theatr Gerddorol a Pherfformio'r Drindod Dewi Sant i berfformio ‘Bad Girls: The Musical’.
09.06.2022
Mae myfyrwyr o'r cyrsiau MA Theatr Gerddorol a MA Perfformio o Academi Lleisiau a Chelfyddydau Dramatig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at berfformio 'Bad Girls: The Musical.'
Cynhelir perfformiadau yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Gate, Caerdydd, rhwng 16eg a 17eg o Fehefin.
Wedi'i lleoli mewn carchar menywod, mae 'Bad Girls' yn sioe gerdd ddifyr, sy’n seiliedig ar gyfres ddrama hynod boblogaidd ar ITV o'r un enw. Mae'n dilyn staff a charcharon HMP Larkhall. Gwyliwch wrth i buteiniaid, lladron, gwerthwyr cyffuriau a llofruddwyr sôn am eu bywydau cyn iddyn nhw gael eu carcharu, ac am eu breuddwydion am frwydro dros ddyfodol gwell yn erbyn y gwarchodwyr carchar calon-galed. Mae’r sioe yn llawn egni gan gynnwys caneuon a chymeriadau mawr, ac yn gyfuniad cyffrous o realiti egr, ysbryd gwrthryfelgar, gonestrwydd emosiynol a hiwmor beiddgar, sy'n cyffwrdd â chalonnau ac sy’n codi reiat hefyd!
Tonya Smith fydd yn cyfarwyddo’r sioe gerdd. Mae’n adnabyddus am actio mewn cyfresi teledu megis 'Casualty,' a 'Pobol y Cwm' ymhlith nifer o gynyrchiadau eraill. Dywedodd,
"Sioe gerdd greadigol hwyliog yw Bad Girls. Mae'n adrodd hanes o fywyd mewn carchar menywod caled, ond gydag ychydig o ‘glits’! Mae'n mynd i fod yn sioe hwyliog dros ben sy'n llawn troeon annisgwyl!"
Mae myfyrwyr hefyd yn lwcus o gael Christopher Fossey yn gweithio ar y cynhyrchiad hwn fel cyfarwyddwr cerddorol.
Bydd teimlad rhyngwladol i gast y cynhyrchiad hwn, gan y bydd yn cynnwys llawer o fyfyrwyr o wahanol wledydd. Yn y cast bydd myfyrwyr o Bortiwgal, Tsieina, yr Alban, Gibraltar, Cymru a Lloegr yn perfformio, ac maen nhw'n edrych ymlaen at eu perfformiad terfynol.
Meddai’r myfyriwr Blake Walters :
"Rwy'n edrych ymlaen at dreiddio i feddylfryd Jim a gweld pa mor bell y galla i wthio'r cymeriad. Mae sgôr y sioe gerdd yn fwy na gafaelgar felly, rwy'n edrych ymlaen at weld sut y caiff y caneuon eu perfformio. Mae’n wych gweithio gyda Tonya a Chris, mae Tonya yn agored iawn i syniadau ac rwy'n edrych ymlaen at y cyfle o weithio gyda gweithiwr proffesiynol arall yn y diwydiant. Mae Chris yn hynod o ddefnyddiol wrth ddysgu harmonïau i ni a rhannu'r caneuon a'r llinellau yn ddarnau llai fel y gallwn ni sicrhau bod yr ymadroddion yn swnio sut y bwriadwyd iddynt swnio. "
Meddai aelod arall o'r cast, Veronica Singleton ,
"Addasu’n fyrfyfyr rhwng golygfeydd, rhoi cynnig ar bethau newydd yn y sioe hon yw'r hyn rwy'n ei fwynhau yn y broses o dreialu beth sy’n gweithio a beth sy’n methu. Mae'n ffordd arbennig i gydweithio, ac mae Tonya a gweddill y criw yn rhoi cyfle i mi ddefnyddio'r sgiliau rwy wedi'u dysgu dros y cwrs."
Mae tocynnau ar gael i'w prynu yma
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476