Myfyrwyr PCYDDS yn gwirfoddoli i helpu bele’r coed, sydd mewn perygl, ddychwelyd i Fannau Brycheiniog


17.10.2022

Gwnaeth myfyrwyr cwrs Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd PCYDDS wirfoddoli i helpu gyda phrosiect sydd wedi galluogi bele’r coed, sydd mewn perygl difrifol, i ddychwelyd yn llwyddiannus i Fannau Brycheiniog.

UWTSD student volunteers have help endangered pine marten return to the Brecon Beacons

Lansiwyd y prosiect yn 2018 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn darparu safleoedd lloches, ac i fonitro bele’r coed. Eleni, gyda chymorth gwirfoddolwyr yn y Brifysgol, mae’n profi i fod yn llwyddiant.

Cafodd Lucy Fairbrother, Marius Tipa, Robyn Betson a Helen Peake eu recriwtio o’r Brifysgol er mwyn bod y tîm yn gallu gweithio ochr yn ochr â’r Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol, Jason Rees.

Mae Mr Rees yn frwdfrydig dros ddiogelu dyfodol y rhywogaeth hon. Meddai: “Mae’r prosiect wedi bod yn rhedeg yng ngorllewin y Parc Cenedlaethol. Mae’r dirwedd sydd yno yn wledig iawn a’r boblogaeth yn wasgarog, ac mae hi wedi bod yn anodd i ni recriwtio gwirfoddolwyr i helpu gyda’r gwaith. Diolch i bartneriaeth gyda’r Brifysgol, rydym wedi recriwtio pedwar gwirfoddolwr gwych. Maent wedi ein helpu ni i osod trapiau camera a blychau lloges.”

Meddai Uwch ddarlithydd Lara Hopkinson: "Rydym wrth ein boddau yn cael cyfle i fod yn rhan o’r prosiect hwn a arweinir gan wirfoddolwyr, sy’n darparu profiad allgyrsiol ar gyfer ein myfyrwyr ac yn tanategu eu dysgu. Mae’r ffaith bod rhai wedi gweld belaod coed wedi bod yn galondid mawr i’n grŵp o wirfoddolwyr.

Gosodwyd trapiau camera ar draws y parc er mwyn monitro llwyddiant y prosiect. O fewn ychydig o fisoedd, dangosodd y camerâu’r hyn yr oedd y tîm prosiect yn aros i’w weld, sef tystiolaeth o felaod coed ar Fannau Brycheiniog. 

Mae belaod coed mewn perygl difrifol yng Nghymru a Lloegr, ac yn ôl cadwraethwyr, mae prosiectau fel hyn yn holl bwysig i ddyfodol y rhywogaeth hon. 

Mamaliaid yw belaod coed, sy’n perthyn i’r un teulu â’r minc, y wenci a’r carlwm – a gellir eu hadnabod am fod ganddynt ffwr brown a fflach o liw hufen ar eu brestiau. Coetiroedd yw eu cartref, ac maent yn mesur mwy neu lai’r un faint â chath ddof. 

Gwnaiff y tîm barhau i fonitro presenoldeb y creaduriaid gwibiog hyn, ond maent yn obeithiol am eu dyfodol. 

Meddai un o’r gwirfoddolwyr, Lucy Fairbrother, ei bod hi wrth ei bodd gyda’r canlyniadau: “Rwyf wedi mwynhau gwirfoddoli i’r prosiect hwn yn fawr. Mae gweld y lluniau y gwnaeth y trapiau camera eu tynnu yn beth mor foddhaol. Mae’r belaod coed yn ôl – ac rwy’n falch fy mod innau wedi gallu helpu cyflawni hyn.”  

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk