Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant wedi eu dewis i gymryd rhan ym menter STEM 'ysbrydoledig' Dell
28.01.2022
Mae grŵp o fyfyrwyr benywaidd Y Drindod Dewi Sant wedi’u dewis i gymryd rhan yn rhaglen STEMAspire Dell Technologies – a gynlluniwyd i gefnogi myfyrwyr benywaidd mewn pynciau cysylltiedig â STEM drwy addysg ac i gyflogaeth.
Mae STEMAspire yn rhaglen fentora 12 mis a bydd yn gweld saith myfyriwr o'r Brifysgol yn cael eu paru â'u mentor eu hunain a fydd yn helpu i bontio'r bwlch o addysg uwch i'r gweithlu. Fel rhan o'r rhaglen, bydd myfyrwyr yn magu hyder, yn mynychu gweminar grŵp misol, yn cael cymorth mentora un i un ac yn elwa ar brofiad ac arbenigedd diwydiant gan sefydliadau partner DELL fel Accenture, Morgan Stanley, RBS a Cisco.
Y saith myfyriwr a ddewiswyd o'r Drindod yw Silvia Settle, Rebecca Macfarlane, Ana Covaliju, Taylor Winter, Raluca Moraru, Dora Boszormenyi a Claudia Marques Andre. Mae Claudia ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu. Dywedodd:
“Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael fy newis a gwybod y bydd gennyf y gefnogaeth hon i ddatblygu fy sgiliau cyflogadwyedd ymhellach. Byddaf yn barod iawn i gael swydd yn fy maes diddordeb ac mae'n gyfle gwych i feithrin cysylltiadau yn y diwydiant.”
Mae cynyddu lefelau cyfranogiad menywod mewn technoleg yn darged allweddol yn Strategaeth Ddigidol newydd y brifysgol. Mae'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol, James Cale, wedi croesawu’r newyddion. Dywedodd:
“Rwyf wrth fy modd gyda'r newyddion bod chwech o'n myfyrwyr wedi'u dewis ar gyfer y rhaglen fentora ysbrydoledig hon a hoffwn ddiolch i Dell am eu cefnogaeth.
Mae cynyddu lefelau cyfranogiad menywod mewn technoleg yn bwysig i ni fel prifysgol ac yn darged allweddol yn ein strategaeth ddigidol. Mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli'n sylweddol ym meysydd technoleg a digidol ac yn eithaf aml mae'r gagendor rhwng y rhywiau yn dechrau yng nghyfnodau cynnar addysg. Rydym am annog a grymuso merched i ddod yn arweinwyr mewn technoleg er mwyn cau’r bwlch ac mae mentrau rhagorol fel hyn yn ein helpu i wneud hynny.”
Jane Bellis yw’r Ymgynghorydd Gyrfaoedd Gweithredol yn Y Drindod ac mae wedi bod yn cefnogi’r myfyrwyr yn ystod y broses ymgeisio. Ychwanegodd hi:
“Dyma'r tro cyntaf i DELL weithio gyda phrifysgol yng Nghymru yn dilyn llwyddiannau yn Lloegr a'r Alban. Rwy'n hapus iawn i weld 7 myfyriwr yn cymryd rhan.
Gyda chymorth darlithwyr, fe wnaethom ymgysylltu â'r holl fyfyrwyr cymwys a gwahodd myfyrwyr i wneud cais gyda CV wedi'i deilwra a llythyr eglurhaol. Fel gwasanaeth Gyrfaoedd roeddem yn cynnig cymorth lle'r oedd ei angen. Mae gennym grŵp amrywiol o fyfyrwyr ar y rhaglen sy'n ymgorffori ein hethos o drawsnewid addysg, trawsnewid bywydau. Mae eu hymgysylltiad a'u hymrwymiad i'r broses wedi gwneud argraff fawr arnaf.
Dymunwn y gorau iddynt a gobeithiwn barhau i weithio gyda DELL yn y dyfodol ar y rhaglen STEMAspire.”
I gael cymorth pellach gan y gwasanaethau gyrfaoedd ac i gofrestru ar gyfer platfform MyCareer ewch i www.uwtsd.ac.uk/careers
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076