Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn nodi Diwrnod Annibyniaeth St Vincent a’r Grenadines
25.10.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o ymuno â myfyrwyr o St Vincent a’r Grenadines (SVG) i nodi Diwrnod Annibyniaeth yr ynysoedd ar ei champws yn Llambed ddydd Iau, 27 Hydref.
Mae'r myfyrwyr yn astudio ystod o raglenni a nodwyd gan eu llywodraeth fel rhai sydd o fudd i ddatblygiad eu gwlad yn y dyfodol. Mae'r rhaglenni'n cynnwys Hanes, Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang yn ogystal ag Addysg Plentyndod Cynnar, Mesur Meintiau a Pheirianneg Sifil.
Mae’r myfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau gan y Brifysgol a llywodraeth SVG i astudio yng Nghymru ac maent wedi’u lleoli ar gampws Llambed y Brifysgol. Lansiwyd y cynllun ysgoloriaethau gan yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Brifysgol a’r Anrh. Ddr Ralph Gonsalves, Prif Weinidog SVG yn dilyn trafodaethau gyda’i Fawrhydi’r Brenin (fel Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Noddwr Brenhinol y Brifysgol), yn dilyn echdoriad y llosgfynydd ar St Vincent ym mis Ebrill 2021.
Yn ogystal, mae’r Brifysgol wedi datblygu cysylltiadau ymchwil gyda Dr Adrian Fraser, hanesydd amlwg yn SVG, i Thomas Phillips, un o gymwynaswyr Coleg Dewi Sant a’i Ystâd Parc Camden. Mae ymchwil Dr Fraser hefyd yn cael ei gynhyrchu fel ffilm gan y gwneuthurwr ffilmiau o St Vincent, Akley Olton.
Mae dathliadau’r Diwrnod Annibyniaeth yn cynnwys gweithdy a rhagddangosiad o’r ffilm gan Akley Olton ac yna sesiwn Holi ac Ateb. Bydd pryd o fwyd ac adloniant cerddorol gan y myfyrwyr yn dilyn gyda'r nos.
Dywedodd Andy Bevan, Darlithydd mewn Datblygiad Rhyngwladol yn y Brifysgol yn Llambed: “Yn y cyfnod yn arwain at ddathliadau daucanmlwyddiant y Brifysgol eleni, mae wedi bod yn bwysig egluro’n gywir fod un o gymwynaswyr cynnar y Coleg, Thomas Phillips, yn berchen ar blanhigfa gaethweision yn St Vincent. Felly, ym mis Tachwedd 2020, cysylltais â’r hanesydd o St Vincent, Dr Adrian Fraser, a gytunodd i helpu drwy wneud rhywfaint o waith ymchwil lleol i etifeddiaeth fodern planhigfa Phillips ym Mharc Camden.
“Gyda chyllid gan y Brifysgol, rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r gwneuthurwr ffilmiau ifanc, Akley Olton – sydd eisoes wedi cyfweld ag Adrian Fraser. Mae’n bleser gen i ddweud bod Akley wedi bod gyda ni yn Llambed yr wythnos hon i wneud rhywfaint o ffilmio yma hefyd – a byddwn yn cael rhagflas o’r gyntaf o’i ddwy ffilm, ddydd Iau, 27 Hydref yn Theatr Cliff Tucker yn Llambed.
“Roedd hi bob amser yn rhan o’r cynllun i wneud yn siŵr bod lleisiau St Vincent i’w clywed yng Nghymru yn 2022 – ac mae ymweliad Akley yn rhan fawr o hynny!”
Ers i’r myfyrwyr gyrraedd Cymru y llynedd, maen nhw wedi cael croeso gan eu cyd-fyfyrwyr ac aelodau staff, yn ogystal â thrigolion y dref. Maent hefyd wedi cymryd rhan mewn rhifyn arbennig o Songs of Praise y BBC a ddarlledwyd ar 27 Chwefror i ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol.
Yn ogystal, roedd y Brifysgol yn falch o groesawu Dr Ralph Gonsalves i Gymru i dderbyn Doethuriaeth er Anrhydedd ar gampws Llambed.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Roeddwn yn falch iawn o groesawu Dr Gonsalves i’r Brifysgol i dderbyn Doethuriaeth er Anrhydedd. Mae’n arweinydd â gweledigaeth ac yn llais cryf dros ei wlad ar lwyfan y byd. Rwy'n falch iawn bod ein partneriaeth gyda St Vincent a'r Grenadines wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi galluogi myfyrwyr o'r ynysoedd i astudio rhaglenni a fydd yn meithrin gallu ac isadeiledd yn dilyn effeithiau dinistriol echdoriad y llosgfynydd yn 2021. Mae'r Brifysgol yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol”.