Pam fod Ymchwil a Datblygu yn bwysig


28.02.2022

Mae Dr Akash Gupta o MADE Cymru yn rhannu ei feddyliau am ymchwil a datblygu, camsyniadau cyffredin a sut y gallai sefydliadau fod eisoes yn gwneud ymchwil a datblygu heb yn wybod iddyn nhw.

MADE Cymru’s Dr Akash Gupta shares his thoughts about R&D, common misconceptions and how organisations might already be doing R&D without knowing it.

Yr hyn y mae pobl yn ei feddwl yw ymchwil a datblygu

Mae cysylltiad agos rhwng ymchwil a datblygu â'r byd academaidd, cymhlethdod a chysyniadau anodd eu deall. Mae gwyddonwyr yn cymhwyso'r broses ymchwil a datblygu i sbectrwm eang o brosiectau sy'n amrywio o gwestiynau sylfaenol am y bydysawd i dasgau bob dydd. Ond, nid yw'n ddiflas. Mae ymchwil a datblygu yn gyffrous, yn ymarferol, yn drawsnewidiol, yn arbed arian ac weithiau'n achub bywydau.

Mae ymchwil a datblygu yn digwydd drwy'r amser

Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol ein bod yn cynnal ymchwil a datblygu yn ein bywyd bob dydd. O brynu ffôn clyfar, dewis rhwng gwahanol frandiau eitemau cartref, cynllunio gwyliau, gyrfa neu gyfle buddsoddi. Mae gan bob penderfyniad rydyn ni’n ei wneud rywfaint o ymchwil ansoddol a/neu feintiol sy'n gysylltiedig ag ef.

Sut y gall ymchwil a datblygu effeithio ar BBaChau

O ran busnes, gwelwyd y duedd hon yn aml fel swyddogaeth Gompertz, yn enwedig ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau). Mae'r swyddogaeth hon yn dangos bod twf i'w weld yn arafach ar ddechrau a diwedd cyfnod penodol o amser. Mae hyn, o'i ystyried ar y cyd â pherfformiad BBaChau, yn dangos y gall twf araf ar y dechrau fod yn gysylltiedig ag ymchwil a datblygu helaeth, tra gall yr olaf fod yn gysylltiedig â chyn lleied â phosibl o fuddsoddiad adnoddau.

Mae'n werth ymchwilio i'r rhesymau pam mae busnesau'n dilyn y duedd hon a'u deall.

 

Camsyniad twf araf

Tuedda BBaChau i bwyntio bys at faterion fel diffyg gwybodaeth, amser, adnoddau, gweithlu a diffyg cyfalaf sy'n arwain at fan gwastad o ran twf.

Gan gadw'r tueddiadau hyn mewn cof, mae'n bwysig ailddatgan y rhesymau sylfaenol pam y gall ymchwil a datblygu ar unrhyw adeg chwarae rhan bwysig.

Mae ymchwil a datblygu yn rhoi mantais gystadleuol i sefydliadau

Gyda'r cynnydd mewn technoleg, mae'r monopoli yn symud yn araf o’r cynnyrch i’r broses. Gall unrhyw syniad posibl yr ydym yn ei ragweld fod â fersiwn ohono'n cael ei ddatblygu'n weithredol neu hyd yn oed ei gymhwyso mewn rhyw ran o'r byd. Gall ymchwil a datblygu roi'r cyfle i gwmni gadw ar y blaen a goroesi marchnad gystadleuol.

Mae ymchwil a datblygu yn ein hannog i wneud pethau'n wahanol

Mae chwyldroadau diwydiannol wedi ein dysgu nad yw bob amser yn ymwneud â gwneud pethau gwahanol ond gwneud pethau mewn modd gwahanol. Mae buddsoddiad blynyddol ac wedi ei gynllunio mewn ymchwil a datblygu yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth. Mae hefyd yn darparu dull adnabod ac addasu y gellir eu cymhwyso mewn proses gyfredol gan arwain at effeithlonrwydd proses cyffredinol neu ansawdd cynnyrch gwell.

Mae ymchwil a datblygu’n ymwneud â chydweithredu

Yn aml gall cydweithredu rhwng endidau, grwpiau, mentrau a sefydliadau gynhyrchu canlyniadau ffrwythlon - fel cipio delwedd o dwll du yn 2019 neu greu brechlyn ar gyfer COVID-19. Gall ymwybyddiaeth gyfoes o ddatblygiadau diweddar sector penodol arwain at ddod o hyd i bartneriaid, uno llwyddiannus a ffurfio cydgwmnïau.

Sut gall BBaChau ddechrau ymchwilio a datblygu?

Gall cyflogi’r bobl iawn, gwella profiad cwsmeriaid, sefydlu ffynonellau refeniw, meddwl ymlaen, bod yn hyblyg, defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio at ddiben sefydlu piblinell ymchwil a datblygu fod yn llethol i unrhyw BBaCh.

Llwybr arall yw chwilio am sefydliadau ymbarél sy'n cynnig pibell o'r fath i helpu i liniaru risg cyfalaf a llwyth gwaith.

Mae cynaliadwyedd, cylch bywyd cynnyrch, ôl troed carbon, a’r economi gylchol i gyd yn faterion hollbwysig y mae cyllidwyr preifat a’r llywodraeth yn awyddus i fod yn rhan ohonynt. Gall gwella ansawdd presennol cynnyrch, gan ddefnyddio dull cadwraethol, roi hwb i'r galw presennol am y cynnyrch tra'n cadw'r costau ymchwil a datblygu i lawr.

Nodyn i'r Golygydd

Mae Dr Akash Gupta yn Uwch Gydymaith Ymchwil i MADE Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae'n gweithio ar brosiectau ymchwil a datblygu gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru. Mae hon yn rhaglen a ariennir yn llawn ac mae ychydig wythnosau ar ôl i BBaChau yng Nghymru gofrestru ar gyfer prosiect ymchwil a datblygu cydweithredol. Cysylltwch â MADE@uwtsd.ac.uk am sgwrs gydag Akash neu un o'r tîm.

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi'u cynllunio i lywio sefydliadau drwy’r rhaglen Diwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Ariennir yn Rhannol/Llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop / Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Fe’u darperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk