Panel Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Ddatganoli Darlledu – penodi Arwel Ellis Owen yn aelod a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn gyd-gadeirydd


14.06.2022

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi aelodau panel arbenigol newydd i baratoi'r ffordd ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru.

Arwel Ellis Owen, Council Member of the University will join the panel and Professor Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd will be co-chair of the Panel.

Bydd Arwel Ellis Owen, Aelod o Gyngor y brifysgol a Phrifysgol Cymru yn aelod o'r panel ac fe fydd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn gyd-gadeirydd.

Bydd y panel arbenigol, sy'n cael ei sefydlu fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn darparu argymhellion ac opsiynau i helpu i gryfhau cyfryngau Cymru, a chefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer fframwaith rheoleiddio effeithiol ac addas i'r diben i Gymru. 

Bydd y panel yn cynghori ac yn darparu argymhellion ac opsiynau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiad i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru. 

Byddai cylch gwaith yr Awdurdod yn cynnwys ceisio cryfhau democratiaeth Cymru a chau'r bwlch gwybodaeth; dwyn ynghyd a chydgysylltu mewn ffordd strwythuredig ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru, a datblygiadau arloesol i gefnogi'r Gymraeg yn y maes digidol, megis amam.cymru; gwneud y cyfryngau’n fwy lluosogaethol a defnyddio'r Gymraeg ar holl blatfformau’r cyfryngau. Byddai hefyd yn gyfrifol am ddatblygu sylfaen dystiolaeth gref i gefnogi'r achos dros ddatganoli pwerau i Gymru.

Bydd y Panel Arbenigol yn cael ei gyd-gadeirio gan y darlledwr profiadol o Gymru Mel Doel a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Bydd Arwel Ellis Owen, cyn-Brif Weithredwr S4C ac aelod o Gyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn aelod o’r Panel Arbenigol.

Yr aelodau eraill yw Nia Ceidiog, Dr Llion Iwan, Ceri Jackson, Clare Hudson, Dr Ed Gareth Poole, Richard Martin, Geoff Williams, Shirish Kulkarni a Carwyn Donovan.

Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones:

“Dyma gyfnod allweddol i’r cyfryngau darlledu a chyfathrebu yng Nghymru a thu hwnt. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda holl aelodau’r Panel i gyflwyno argymhellion all wella’r sefyllfa a chreu fframwaith a fydd yn gweithio i Gymru”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Rwy'n falch iawn y gallwn heddiw gyhoeddi aelodau'r panel arbenigol a all, gyda'u cyfoeth o brofiad a gwybodaeth, ein helpu i edrych ar y gwaith o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.

“Ceir consensws nad yw'r fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn diwallu anghenion Cymru a bod angen cymryd camau i ddatblygu fframwaith sy'n fwy addas i'r diben.

“Mae bygythiadau parhaus ac ymosodiadau ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus gan Lywodraeth y DU, a chyhoeddiadau diweddar gan Weinidogion y DU am ddyfodol ffi drwydded y BBC a phreifateiddio Channel 4, yn cryfhau'r achos bod y system bresennol yn ddiffygiol.

“Rwy'n edrych ymlaen at gael argymhellion y Panel Arbenigol fel y gallwn greu fframwaith cyfathrebu a darlledu sy'n gweithio i Gymru.”

Yn y Cytundeb Cydweithio, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cytuno y dylid datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i'r Senedd.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Cefin Campbell, AS ar gyfer Gorllewin a Chanolbarth Cymru:

 “Mae gan hyn y potensial i fod yn ddatblygiad hanesyddol i Gymru, i roi hwb go iawn  i’n democratiaeth.  Rydym yn credu y dylai penderfyniadau am faterion darlledu a chyfathrebu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n democratiaeth genedlaethol ifanc, ein hiaith yn ogystal â bywyd cymunedol lleol yn ei holl amrywiaeth. 

“Bydd sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu yn ein gwlad sy’n gallu gwarchod, arallgyfeirio a gwella ein platfformau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn gam hollbwysig ymlaen. Mae cyfryngau lleol a chenedlaethol bywiog yn hanfodol i adlewyrchu tapestri bywyd ledled y wlad – trafod, rhoi gwybodaeth a dathlu ein holl ddiwylliannau a’n cymunedau. 

“Mae ein ffordd o weithio er budd y cyhoedd yng Nghymru yn gwbl groes i ffordd o weithio Llywodraeth y DU sy'n canolbwyntio ar Lundain ac ar wneud elw ar draul pawb a phopeth. Rydym yn credu mewn dyfodol lle ceir cyfryngau lluosog, democrataidd, wedi’u gwreiddio'n lleol sy'n gwella bywyd cenedlaethol Cymru.”

Nodyn i'r Golygydd

  1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill ar hyd y canrifoedd hyd at heddiw, a’u perthynas â diwylliannau a ieithoedd eraill Ewrop a’r byd.
  2. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru, a sefydlwyd yn 1921, sef geiriadur awdurdodol pennaf yr iaith Gymraeg.
  3. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn gweithredu’n unol ag Adduned Cymru rhwng Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
  4. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol ac o fod ar safle Llyfrgell Genedlaethol Cymru, .llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: edwards@cymru.ac.uk.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076