Partneriaeth newydd rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Aspen UK


21.09.2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gydag Aspen UK

Aspen UK is delighted to announce a new partnership with the University of Wales Trinity Saint David. The new association will mean Aspen UK will host its world-renowned leadership seminars at the University’s Lampeter campus for the next three years.

Bydd y berthynas newydd yn golygu y bydd Aspen UK yn cynnal ei seminarau arweinyddiaeth byd-enwog ar gampws y Brifysgol yn Llambed am y tair blynedd nesaf.

Mae Seminarau Aspen UK yn dod ag arweinwyr ynghyd o bob rhan o sbectrwm daearyddol a chenedlaethol, ac o bob rhan o’r sectorau corfforaethol, gwleidyddol, creadigol, academaidd a’r trydydd sector, i drafod, myfyrio a dadlau. Mae'r seminarau'n annog arweinwyr i fynd i'r afael â'u syniadau a'u gwerthoedd eu hunain, ac i archwilio atebion effeithiol i faterion cymdeithasol dybryd.

Wrth ffurfioli’r bartneriaeth, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Aspen UK Penny Richards:

“Rydym mor falch o ddod â’n seminarau Aspen UK i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac i Lambed. Ymdrechwn i gynrychioli’r DU gyfan ym mhopeth a wnawn – gyda’n siaradwyr, cyfranogwyr, cymrodyr a phartneriaid, ac mae’r berthynas newydd hon yng Nghymru yn amlygiad gwych o hynny. Rydyn ni'n gwybod y byddwn ni'n dysgu llawer gan y brifysgol, a phawb sy'n gysylltiedig â'r bartneriaeth hon."

Cynhelir y seminar cyntaf rhwng 13 a 15 Hydref 2022. Yn ogystal â’r sesiynau seminar ffurfiol, bydd cyfranogwyr o bob rhan o Gymru a’r DU gyfan yn mwynhau rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol i arddangos y gorau sydd gan Lambed i’w gynnig, wedi’i guradu gan y brifysgol.

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost y brifysgol ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin: “Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at weithio gydag Aspen UK ac i gynnal eu seminarau arweinyddiaeth byd-enwog. Rydym wrth ein bodd bod Aspen UK wedi dewis dod i’n campws yn Llambed a fydd yn galluogi cyfranogwyr i elwa o’r cyfleusterau addysgu a dysgu rhagorol, yn ogystal ag amgylchedd unigryw’r campws. Mae Llambed yn lle arbennig iawn ac mae’n hyfryd croesawu myfyrwyr newydd i’r campws yn ystod blwyddyn ein daucanmlwyddiant”.

Nodyn i'r Golygydd

Aspen UK

Mae Aspen UK yn rhan o rwydwaith byd-eang o Sefydliadau Aspen, sydd wedi ysbrydoli a grymuso arweinwyr ledled y byd ers dros 70 mlynedd.

Mae ein holl weithgareddau yn darparu amgylchedd lle gall cyfranogwyr ddysgu gyda, a chan, bobl a allai fod â safbwyntiau a phrofiadau bywyd sylfaenol wahanol. Rydym yn defnyddio dull unigryw Aspen o sgyrsiau seiliedig ar destun ac wedi’u harwain yn broffesiynol sy’n helpu pobl i fyfyrio ar eu sgiliau arwain, dadlau a wynebu eu syniadau a’u gwerthoedd eu hunain, ac archwilio atebion effeithiol i faterion cymdeithasol dybryd.

Mae ein seminarau arweinyddiaeth yn darparu lle ar gyfer trafodaeth ar bynciau a allai fod yn pegynnu barn ac yn annog mynychwyr i ddysgu gydag ac oddi wrth arweinwyr dylanwadol eraill o wahanol fydoedd a chredoau.

Mae ein digwyddiadau cyhoeddus yn dangos y broses o ddeall safbwynt rhywun arall. Maent yn dathlu llawenydd dadl, trafodaeth, ac anghytuno ar bynciau allweddol, tra'n cynnal parch ac uniondeb.

Ym mis Awst 2022, lansiwyd Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol gennym, gan ddod ag arweinwyr sefydledig a rhai sy’n dod i’r amlwg rhwng 21 a 35 oed, i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf enbyd yn y gymdeithas sydd ohoni. Byddwn yn croesawu 250 o Gymrodyr y flwyddyn, a fydd yn elwa ar ystod o gyfleoedd sy’n cryfhau eu rhwydwaith proffesiynol a’u sgiliau i arwain mewn amgylchedd amrywiol sydd weithiau’n begynu.

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu cymunedau o arweinwyr goleuedig sy’n ymgysylltu’n weithredol, gan eu hysbrydoli i weithio er lles pawb.

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag Olivier Chapman, Cyfarwyddwr Seminarau Aspen UK ar ochapman@aspenuk.org 

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076