PCYDDS yn cefnogi penwythnos o chwaraeon dygnwch rhagorol
19.08.2022
Cefnogodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) benwythnos o chwaraeon dygnwch rhagorol yn Abertawe ar Awst 6 a 7.
Denodd Cyfres Para Triathlon y Byd 2022 Volvo, gyda chystadlaethau nofio, seiclo a rhedeg i gyd wedi eu canoli o gwmpas glannau SA1 fel hwb, a’r IRONMAN 70.3 Abertawe, filoedd o athletwyr a gwylwyr, gan roi hwb sylweddol i’r economi leol.
Roedd adeiladau PCYDDS ar ei champws SA1 Glannau Abertawe ar gael i drefnwyr, athletwyr a’u teuluoedd yn ystod y penwythnos.
Meddai'r Athro Ian Walsh: "A'n prif gampws yma yng nghanol y ddinas, rydyn ni'n credu bod hwn yn gyfle gwych i arddangos manteision ffordd iach o fyw a chymryd rhan mewn chwaraeon trwy arddangos y para-athletwyr gorau yma yng nghanol y ddinas.
"Rydyn ni'n gyffrous iawn am y cyfleoedd i'n myfyrwyr ein hunain gymryd rhan yn y digwyddiadau a hefyd i gael eu hysbrydoli i wneud chwaraeon yn rhan nid yn unig o'u hastudiaethau ond hefyd er mwyn cael bywyd iachach."
Roedd y digwyddiadau yn ddiweddglo i wythnos o weithgarwch – gan gynnwys Gŵyl Para Chwaraeon – a ysbrydolodd bobl i gymryd rhan a mwynhau chwaraeon.
Y trefnwyr oedd IRONMAN a British Triathlon; roedd prif gefnogwyr hefyd yn cynnwys Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.
Bu’r digwyddiad eleni yn rhan o ymrwymiad tair blynedd i gynnal ras Cyfres Para Triathlon y Byd yn Abertawe drwy i’r Gemau Paralympaidd ym Mharis yn 2024
Meddai Stuart Searle, Pennaeth Partneriaethau Brand British Triathlon: “Ar ran pawb yn British Triathlon a rhanddeiliaid y digwyddiad yn Abertawe, hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am gefnogi Cyfres Para Triathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe. Fel y digwyddiad annibynnol cyntaf yn y DU yng Nghyfres Para Triathlon y Byd, ac yn rhan o’n strategaeth gwyliau chwaraeon anabledd gyda Llywodraeth Cymru, bu’n ddiwrnod anhygoel o rasio yn rasys yr Uwch Gyfres, anabledd GO TRI, profiad y carped glas ac athletwyr elitaidd yn cystadlu ar lwyfan y byd.
“Roedd y gallu i fod yn bartner i’ch sefydliad, i leoli swyddfeydd a staff y digwyddiad yn eich cyfleusterau, i ddefnyddio’ch arlwyo a’ch staff ar gyfer ein cynnig VIP ac i gydweithio’n gyffredinol â chi o gwmpas isadeiledd ac elfennau gweithrediadol y digwyddiad o’r pwys mwyaf wrth gynnal digwyddiad llwyddiannus iawn. Buom wrth ein bodd i allu arddangos cyfleusterau a brand PCYDDS o gwmpas y cwrs a’r safle, ac rydym eisoes yn llawn cynnwrf i weithio gyda chi yn 2023 a thu hwnt.”
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn noddi digwyddiad IRONKIDS Wales eleni ar 10 Medi yn rhan o’i phartneriaeth gydweithredol ag IRONMAN Wales.
Bydd y bartneriaeth, sy’n cynnwys noddi rhaglen gwirfoddolwyr IRONMAN Wales, yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff gydweithio ag IRONMAN ar feysydd yn gysylltiedig â phortffolio’r Brifysgol yn cynnwys chwaraeon, iechyd a lles, gwasanaethau cyhoeddus, twristiaeth, lletygarwch, rheoli digwyddiadau yn ogystal â ffilm a’r cyfryngau. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil cymhwysol yn cynnwys posibilrwydd ymgymryd ag astudiaethau effaith ac adroddiadau i roi gwybodaeth i IRONMAN Wales ar gyfer cynllunio busnes a’i strategaeth yn y dyfodol.
Mae Ras Hwyl IRONKIDS yn cynnig cyfle i athletwyr ifanc deimlo cyffro cystadlu ar yr un pryd â mwynhau’r awyr agored a hyrwyddo byw’n iach. Mae’r Brifysgol yn rhan ganolog o’i chymuned leol gan gydweithio â phartneriaid i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal a’i dinasyddion mewn amryw o ffyrdd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk