PCYDDS yn croesawu arbenigwyr arloesi Llywodraeth Cymru i SA1
03.05.2022
Yn ddiweddar, cynhaliodd Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru ei gyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf mewn dwy flynedd, a gofynnodd i PCYDDS ei letya.
Roedd nifer o'r Arbenigwyr Arloesi o bob cwr o Gymru yn bresennol, ac roedd yn gyfle i arddangos rhai o'r mentrau gwych y gall PCYDDS eu cynnig i fusnesau Cymru. Mae gan PCYDDS berthynas gref iawn â Thîm Arloesi Llywodraeth Cymru, sydd wedi atgyfeirio nifer o'r busnesau sy'n cymryd rhan ym mhrosiectau PCYDDS.
Roedd y cyfarfod yn cynnwys cyflwyniad ar brosiect y Cyflymydd Digidol SMART newydd, sef tîm o gynghorwyr arbenigol o'r diwydiant sy'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg gywir er mwyn hybu eu helw. Mae hwn yn cael ei ddarparu gan PCYDDS a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Aeth Richard Morgan, Arweinydd y Prosiect a'r Pennaeth Arloesi ac Ymgysylltu yn PCYDDS, ati hefyd i rannu gwybodaeth am brosiectau cydweithredol cyffrous eraill, megis yr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch (AMSA) a Chanolfan Swp-weithgynhyrchu Uwch Cymru (CBM).
Roedd y cyfarfod yn cynnwys taith o amgylch gweithdy roboteg a chwaraeon moduro PCYDDS.
Dywedodd Richard Morgan, “Roedd yn sesiwn gyffrous a chynhyrchiol iawn. Mae llawer o weithgarwch Llywodraeth Cymru a PCYDDS yn gefnogol i'r naill ochr a'r llall ac yn egluro ein dull cydweithredol o ymgysylltu â diwydiant. Pan fyddwn yn cydweithio, mae wir yn cynyddu effaith yr hyn y gallwn ei gyflawni. Roedd y tîm wedi mwynhau dangos y cyfleusterau i'n gwesteion ar ein campws yn Abertawe, ac arddangos y dechnoleg flaengar y gallwn ei chynnig i bartneriaid yn y diwydiant.”
Dywedodd Dr Gwion Williams, yr Uwch-reolwr Gweithrediadau ar gyfer Arloesi SMART, “Roedd yn wych i'n tîm Arbenigwyr Arloesi brofi'r arbenigedd a'r cyfleusterau gwych yn PCYDDS yn uniongyrchol, ac adeiladu ar y cysylltiadau rhagorol sydd gennym â'r Brifysgol. Mae'r Cyflymydd Digidol SMART yn rhan hanfodol o'n nod i gyflwyno technolegau newydd i fusnesau Cymru, a bydd yn cynyddu effaith y cymorth SMART yr ydym yn ei gynnig ar gyfer arloesi busnes. Bydd y cymorth sydd ar gael i fusnesau yn helpu i adeiladu economi cryfach, fwy gwyrdd ar gyfer Cymru ac yn cynyddu cydnerthedd.”
Mae Cyflymydd Digidol SMART yn dîm o gynghorwyr arbenigol o'r diwydiant sy'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg addas i hybu eu helw.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Nid oes yna unrhyw gostau ariannol i'r busnesau sy'n cymryd rhan.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk