PCYDDS yn gweithio gyda Sefydliad John Burns i ddarparu dysgu am fioamrywiaeth i blant ysgol gynradd


15.08.2022

Ymwelodd staff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant â Chanolfan John Burns yng Nghydweli i gynnal diwrnod o weithgareddau addysgol i ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Trimsaran, ochr yn ochr â thîm Better Tomorrow Sefydliad John Burns.

Gwahoddodd tîm Ehangu Mynediad PCYDDS dri o ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Trimsaran i ddysgu am wenyn, bioamrywiaeth a mwy yng Nghanolfan John Burns ar ddiwedd tymor yr haf.  

Gwnaeth tîm Better Tomorrow Sefydlaid John Burns gynnal sesiynau ysbrydoledig am wenyn a pheillio, tra bo Mared Anthony a Luned George o’r tîm Ehangu Mynediad yn arwain gweithgaredd codio ‘Bee-Bot’, a welodd disgyblion yn ymarfer eu sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a gwaith tîm.

Cynigiwyd y diwrnod hwn yn unol â rhaglen ar y thema gwenyn a gaiff ei noddi ar gyfer yr ysgol gan yr adran Ehangu Mynediad a elwir The Bumbles of Honeywood, ac a grëwyd gan 2B Enterprising, er mwyn darparu datrysiad dysgu a datblygu cynhwysfawr sy’n cynnwys gweithgareddau y gellir eu defnyddio’n annibynnol neu fel cynlluniau gwersi cyfan.  

Medd John Burns, Prif Weithredwr Burns Pet Food, sydd newydd gael Cymrodoriaeth Anrhydeddus gan PCYDDS i gydnabod ei gefnogaeth o elusennau ac arloesi entrepreneuraidd: “Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gweithio gyda staff PCYDDS er mwyn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gwybod am fioamrywiaeth. Bellach, gwnaiff y disgyblion hyn ddeall bod iechyd ein hecosystem naturiol, yn y bôn, yn gysylltiedig ag iechyd ein gwenyn a pheillwyr eraill.”

Dywed Mared Anthony, Swyddog Ehangu Mynediad ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Mae partneru â’r tîm Better Tomorrow ar gyfer y digwyddiad hwn i ddisgyblion Blwyddyn 3 ar ddiwedd y tymor wedi bod yn wych. Gwnaethant fwynhau’r gweithgareddau’n fawr ac nid oeddent am ymadael â Chanolfan John Burns, sydd bob amser yn arwydd da o ddiwrnod llwyddiannus!  Edrychwn ymlaen at gadw a chynnal y bartneriaeth hon â Sefydliad John Burns, ac rydym wedi ein cynhyrfu’n fawr dros yr hyn yr ydym wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol agos."