PCYDDS yn lansio canolfan cyngor cyfreithiol newydd ar gyfer y gymuned leol
03.11.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi lansio canolfan newydd sy’n darparu cyngor cyfreithiol am ddim ar gyfer y gymuned leol, yn enwedig ar gyfer y sawl na all gael cymorth cyfreithiol drwy fudiadau elusennol eraill.
Darperir cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim gan fyfyrwyr cyfraith y Brifysgol, dan oruchwyliaeth Siân Turvey, Rheolwr Y Ganolfan Cyngor Cyfreithiol a Rheolwr Rhaglen y Gyfraith, eu darlithwyr a chyfreithwyr sy'n ymarfer i gwmni partner y Brifysgol, Peter Lynn and Partners.
Mae Canolfan Cyngor Cyfreithiol Y Drindod Dewi Sant yn rhan o rwydwaith elusen LawWorks Lloegr a Chymru, sy’n cysylltu cyfreithwyr gwirfoddol â phobl sydd angen Cyngor cyfreithiol ond nad ydynt yn gymwys i dderbyn cyngor cyfreithiol nac yn gallu fforddio talu’r mudiadau nid-er-elw chwaith sy’n eu cynorthwyo.
Mae Siân yn gyfreithwraig sydd ganddi dros 18 mlynedd o brofiad yn ymarfer y gyfraith ac mae’n arbenigo mewn eiddo preswyl, eiddo masnachol, ecwiti ac ymddiriedolaethau, ewyllysiau, profiannau a materion sy’n ymwneud â pherchnogion eiddo a thenantiaid.
Meddai: “Mae Canolfan Cyngor Cyfreithiol y Brifysgol yn adeiladu ar draddodiad hir o fyfyrwyr yn ymgymryd â gwaith gwirfoddol yn y gymuned leol, sydd o fudd i’r myfyrwyr, yn ogystal ag i’r gymuned. Mae’r gwaith a gaiff ei wneud yn y Ganolfan yn blaenoriaethu anghenion y gymuned drwy ddarparu mynediad at wasanaethau cyfreithiol hanfodol.
Meddai Peter Lynn “Rydym ni, yn Peter Lynn and Partners, wrth ein boddau yn cefnogi’r clinig pro bono hwn er mwyn cynnig i bobl Abertawe’r mynediad ehangach posibl at gyngor a chymorth cyfreithiol. Pa beth bynnag yw’r broblem, ein holl bwrpas yw atal problemau cyfreithiol.”
Bydd y ganolfan ar agor yn ystod adeg y tymor yn unig ar Gampws Busnes y Brifysgol, Y Stryd Fawr, Abertawe, ar ddyddiau Mercher rhwng 10am a 2pm, a hynny dim ond drwy apwyntiad.
Gwnaiff ddarparu cyngor ysgrifenedig a chychwynnol yn y meysydd cyfreithiol canlynol; ymgyfretha sifil, contract, dyled ac ansolfedd, y teulu a thai.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk