Penodiad Myfyriwr Dylunio Graffig PCYDDS i’w swydd ddelfrydol, ochr yn ochr â’i astudiaethau


21.10.2022

Dros y blynyddoedd, mae llawer o raddedigion Dylunio Graffig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus fel dylunyddion ym maes Chwaraeon. Ond, gwnaeth un ohonynt gael ei benodi i’w swydd ddelfrydol pan oedd e’n dal i astudio... 

Jac Elsey Graphic Design student working for scarlets, sat at his desk

Yn ddiweddar, cafodd Jac Elsey, sydd ar hyn o bryd yn astudio am radd BA (Anrh) Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, swydd gyda’r Scarlets, tîm rygbi sy’n rhyngwladol-enwog ac sydd wedi’i leoli yn Llanelli.

Cafodd Jac swydd fel Dylunydd Graffig i’r Scarlets yn hwyr yn ystod y gaeaf diwethaf, yng nghanol ei ail flwyddyn yn y brifysgol, ac ers hynny, mae ef wedi gallu defnyddio a chymhwyso’r hyn y mae ef wedi’i ddysgu at fusnes sydd yn agos at ei galon.   

Meddai Jac: "Fy nyhead bob amser oedd cael swydd fel dylunydd ym maes chwaraeon. Fel plentyn, roeddwn yn arfer arlunio citiau ar gyfer fy hoff dîm pêl-droed (sef Dinas Abertawe). Felly, ers cael cynnig swydd fel Dylunydd Graffig i’r Scarlets ym mis Chwefror, mae’r cyfan wedi bod heb os yn freuddwyd.

Mae pawb ym Mharc y Scarlets wedi bod yn anhygoel o hyblyg o ran fy astudiaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac maent yn awyddus i fy helpu symud ymlaen yn broffesiynol. Mae dylunio’n ddwyieithog i gymuned y Scarlets hefyd wedi rhoi i mi’r cymhelliant i wella fy sgiliau Cymraeg.”

Jac Elsey Graphic Design student working for scarlets portrait

Wedi’i fewnosod yn y cwrs fel rhan o’r Sgiliau Cyflogadwyedd Graddedigion, mae gofyn i bob myfyriwr weithio gyda chleientiaid. Mae’r brifysgol wrth ei bodd bod Jac wedi cyflawni, a hyd yn oed wedi mynd y tu hwnt i ofynion ei gwrs, ac wedi symud ymlaen i rôl broffesiynol o fewn y cwmni, gan ei alluogi i ddatblygu portffolio o brosiectau allanol, gyda llawer mwy i ddod.

Medd Trudy Waters, Pennaeth Marchnata a Thechnoleg y Scarlets: “Mae Jac wedi bod yn aelod ychwanegol ardderchog o’r tîm ym Mharc y Scarlets. Mae ei egni a’i frwdfrydedd yn heintus, ac mae ei waith arloesol wedi rhoi rhyw ymdeimlad ffres a dynamig i’n hymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a marchnata, sy’n destament i’r cwrs a addysgir yn Y Drindod Dewi Sant.

“Gallwch weld  dyluniadau Jac o fewn ac o gwmpas y stadiwm, ac ar ein gwefan a’r sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag ar draws yr ardal ar ein byrddau hysbysebu digidol a statig.”

Meddai Donna Williams, Rheolwr y Rhaglen BA Dylunio Graffig yn Y Drindod Dewi Sant, “Mae’n dda gwybod bod Jac yn cael profiad gwaith mor gadarnhaol gyda Pharc y Scarlets a bod cwmnïau lleol yn cynorthwyo pobl ifanc i gael eu swyddi delfrydol. Felly, ymlaen ac i fyny ac i mewn i’th flwyddyn olaf Jac, a phob lwc hefyd i’r Scarlets ar gyfer y tymor hwn!”

Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ddarparwr blaenllaw o gyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Celfyddydau, ac mae wedi dod yn 1af yng Nghymru mewn pedwar pwnc Celfyddyd, 4ydd yn y DU am Ffilm a Ffotograffiaeth, 8fed yn y DU am Ddylunio Cynnyrch a 10fed yn y DU am Ddylunio Graffig.

Example of work by Jac Elsey for Scarlets Graphic Design

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078