Plannu coed ar gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, fel rhan o Ganopi Gwyrdd Jiwbilî’r Frenhines a Menter Llywodraeth Cymru


17.02.2022

Mae’r goeden gyntaf wedi cael ei phlannu ar gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, fel rhan o brosiect i blannu 200 o goed brodorol ar y campws hwnnw.

The first tree was planted at the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) Lampeter as part of a project to plant 200 hundred native trees on the campus

Mae’r prosiect “200 o goed am 200 mlynedd” yn rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant y Brifysgol sy’n cysylltu â ’Chanopi Gwyrdd Jiwbilî’r Frenhines  ac sy’n gwahodd pobl i ‘blannu coeden ar gyfer y Jiwbilî’. Mae’r fenter hefyd yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru i blannu coed er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Yn ystod y seremoni a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn, gwnaeth yr Is-ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, DL, a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yr Hybarch Randolph Thomas, groesawu Ms Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Dyfed, a Selwyn Walters, Maer Tref Llambed, i blannu’r goeden gyntaf ar y campws.

Meddai Ms Edwards: “ Mae’n bleser mawr gennyf gynnig fy llongyfarchiadau mwyaf diffuant i’r Drindod Dewi Sant ar y daucanmlwyddiant hwn yn dathlu sefydliad Coleg Dewi Sant yn Llambed. Ar Awst 12fed 1822, drwy osod carreg sylfaen fel arwydd o ddechreuad addysg uwch yng Nghymru, plannwyd hedyn sydd erbyn hyn wedi tyfu a datblygu’n Brifysgol aml-gampws fodern.

“Mae’r flwyddyn hon hefyd yn dathlu degfed flwyddyn a thrigain Teyrnasiad Ei Mawrhydi, ac felly, rwy’n gobeithio y gwnaiff y goeden rwy’n helpu ei phlannu yma yn Llambed fel rhan o Gynllun Canopi Gwyrdd Ei Mawrhydi, fel ‘hedyn’ y garreg sylfaen, hefyd brofi i fod yn symbol o gynnydd parhaol addysg uwch i bawb sydd yn y Drindod Dewi Sant, am y daucanmlwyddiant nesaf a thu hwnt.

Meddai Selwyn Walters, Maer Llambed: “Mae’n bleser mawr gennyf ymuno â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddathlu Jiwbilî Blatinwm Ei Mawrhydi, Y Frenhines, drwy blannu coeden ar Gampws y Brifysgol. Mae hyn yn deyrnged weddus i’w Mawrhydi ac yn enghraifft arall eto o’r cydweithrediad cynyddol, diweddar rhwng y Brifysgol a’r Dref, cydweithrediad, a fydd, rwy’n sicr, o fudd hirdymor i gymuned gyfan Llambed.”

Ychwanegodd yr Is-ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, DL: “Rwyf wrth fy modd yn croesawu’r Arglwydd Raglaw a’r Maer i gampws Llambed y Brifysgol i lansio’r fenter hon. Mae hi’n rhan o amrywiaeth o fentrau yr ydym wedi’u datblygu ar draws ein campysau er mwyn dathlu daucanmlwyddiant addysg uwch yng Nghymru. Dechreuodd y stori honno yma yn Llambed, a dau gan mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Brifysgol yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar ein cymdeithas. Mae’n bleser mawr gan y Brifysgol i gefnogi dathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines, yn ogystal â Chynllun Gweithredu Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru a lansiwyd gan Julie James, AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd”.

Mae’r fenter ‘200 o goed am 200 mlynedd’ yn ceisio cyfoethogi amgylchedd y campws ar gyfer myfyrwyr a staff y Brifysgol a’r gymuned ehangach, er mwyn eu bod nhw’n gallu mwynhau mannau awyr agored a chynnal bioamrywiaeth y campws.

Gwnaeth y Brifysgol ymgynghori ag Adran Ecoleg a Gorchymyn Cadw Coed Cyngor Sir Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru a Choed Cadw wrth ddatblygu ei chynnig ar gyfer plannu coed.

Mae plannu coed ychwanegol ar draws y campws yn ceisio cyfoethogi’r fioamrywiaeth ac mae’n gysylltiedig â chydnabyddiaeth strategol y Brifysgol bod cyfoethogi amgylcheddol yn hanfodol i iechyd a llesiant y Brifysgol yn y dyfodol, y gymuned ehangach a’r blaned.

Mae’r coed a gaiff eu plannu ar ffin y campws yn goed perllan frodorol ac yn rhywogaethau coedwigoedd a fydd, er enghraifft, o les, i’r broses o beillio, ac yn cyfoethogi cynefin fferm wenyn sydd newydd gael ei sefydlu. Gwnaiff y prosiect hefyd roi cyfle i gael gwared â hyd at 15 coeden nad ydynt yn rhai brodorol, nac yn cynnig cynefin digonol chwaith, ac sydd hefyd yn achosi niwed i’r pridd gan rwystro rhywogaethau eraill rhag ffynnu.