Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dathlu gyda seremonïau graddio yng Nghaerfyrddin
04.04.2022
Mae seremonïau graddio ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a raddiodd yn ystod pandemig y coronafeirws yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Halliwell ar gampws Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant heddiw (4ydd Ebrill 2022).
Ar ôl gorfod gohirio oherwydd coronafeirws, mae seremonïau graddio wedi ailddechrau ar gyfer y rhai a gwblhaodd gyrsiau yn y Drindod Dewi Sant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan roi cyfle i ddathlu eu llwyddiant, a’u hymrwymiad ac i alluogi cymuned y Brifysgol i gydnabod cyflawniadau eu myfyrwyr.
Wrth annerch y graddedigion yn Arena Abertawe, dywedodd Is-ganghellor Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes, DL:
“Mae’r seremoni Raddio yn nodi uchafbwynt gyrfa academaidd ein myfyrwyr. Mae’n ganlyniad o waith caled ac ymrwymiad, ond dylem hefyd gofio’r gefnogaeth a roddwyd gan deulu a ffrindiau.
Rydych chi i gyd yn graddio gyda'r sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth yn eich gyrfa ddewisol. Hyderaf, wrth ichi edrych yn ôl ar eich cyfnod fel myfyriwr yn y Brifysgol, eich bod yn mynd â’r cyfeillgarwch a’r atgofion hapus o’ch amser yma gyda chi, ac y bydd eich profiadau yn y Drindod Dewi Sant yn eich gwasanaethu’n dda gydol eich oes.
“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i chi ar gyfer eich dyfodol ac yn eich atgoffa, fel cyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, y byddwn yn ymdrechu i’ch cefnogi ac yn gobeithio y byddwch yn parhau i gadw mewn cysylltiad â ni.”
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Caerfyrddin a Llambed: “Mae gan bob un ohonoch sy’n graddio yn y seremoni hon gyfraniad enfawr i’w wneud i les cymdeithas yn y dyfodol. Dyma'ch eiliad i ddefnyddio'ch sgiliau, eich gwybodaeth, a'ch angerdd i lunio'r byd ôl-Covid. Dyma'ch eiliad i greu normal newydd a mwy datblygedig, byd mwy cyfiawn, caredig, hardd a chariadus.
“Yr ochr arall i’r drws hwnnw, mae yna fyd yn llwgu am arweinyddiaeth newydd, syniadau newydd, ffyrdd newydd o feddwl. Mae gennych gyfle enfawr i gael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau cyfan. A does dim byd mwy tragwyddol, neu fwy pwerus, na’r effaith rydyn ni’n ei chael ar eraill.”
Dywedodd Heledd Mai Jones, BA Addysg Gynradd gyda SAC:
“Mae’r seremoni raddio heddiw yn uchafbwynt o waith dros y dair mlynedd diwethaf, ac mae’n braf cael dathlu gyda ffrindiau a theulu. Mae’n ffordd arbennig o orffen y cwrs gradd.”
Morgan Evans - BA Addysg Gynradd
“Mae’n ddiwedd cyfnod fel myfyriwr ac yn amser i ddathlu. Er ein bod ni’n dathlu flwyddyn yn ddiweddarach, mae’n braf cael graddio a dathlu gyda ffrindiau a theulu.”
Bydd dau ddiwrnod arall o seremonïau dal i fyny yng Nghaerfyrddin yr wythnos hon (dydd Mawrth Ebrill 5ed a dydd Mercher Ebrill 6ed). Gallwch wylio pob un o’r seremonïau’n fyw ar wefan y Brifysgol drwy fynd i https://www.uwtsd.ac.uk/cy/fideo-byw/
Eleni mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dathlu 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru. Mae’r dathliad daucanmlwyddiant yn coffau sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar 12 Awst 1822 drwy osod y garreg sylfaen sy’n nodi dechrau addysg uwch yng Nghymru.
O’r hadau a heuwyd yn Llanbedr Pont Steffan dros ddwy ganrif yn ôl i ddatblygiad ei champysau, mae’r Drindod Dewi Sant wedi tyfu’n Brifysgol aml-gampws, sector deuol sy’n darparu rhaglenni galwedigaethol perthnasol mewn partneriaeth â chyflogwyr.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076