Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn penodi Iestyn Davies i rôl Dirprwy Is-Ganghellor
03.05.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o groesawu Mr Iestyn Davies i swydd y Dirprwy Is-Ganghellor wrth iddo ddechrau yn ei swydd heddiw (Mai 3).
Cyn cael ei benodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor yn y DRindod Dewi Sant, roedd Iestyn Davies yn Brif Swyddog Gweithredol Colegau Cymru o 2015 lle llwyddodd i lunio sector Addysg Bellach cryf yng Nghymru.
Yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, ar ôl graddio bu Iestyn yn gweithio fel athro gwaith ieuenctid ac athro, cyn cychwyn ar gyfnod mewn gwerthiant a marchnata.
Yn dilyn dyfodiad datganoli ym 1999, symudodd Iestyn i faes polisi a chyfathrebu gwleidyddol ac mae ganddo hanes cryf ym maes cysylltiadau allanol. Mae wedi gweithio mewn uwch rolau yn y Ffederasiwn Busnesau Bach a Choleg Brenhinol y Nyrsys yn ogystal â Chyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ymgyrchydd profiadol ac yn eiriolwr brwd dros ddysgu gydol oes ac addysg dechnegol, mae’n siaradwr cyson mewn digwyddiadau a chynadleddau yn ogystal â chyfrannu at y cyfryngau darlledu a phrint ar bwnc addysg ôl-16. Mewn perthynas â’i benodiad, dywedodd Mr Davies:
“Rwy’n falch iawn i ddechrau gyda’r Brifysgol heddiw. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr wrth inni geisio adeiladu ar ein hymrwymiad i addysg uwch ac addysg bellach a chreu system newydd o addysg ôl-orfodol sy’n darparu llwybrau dilyniant o lefel mynediad i astudiaethau doethurol ar draws meysydd academaidd a galwedigaethol.”
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:
“Rydym yn falch iawn o groesawu Iestyn Davies i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae hwn yn benodiad pwysig i’r Brifysgol ar hyn o bryd wrth i ni edrych i’r dyfodol ym mlwyddyn ein daucanmlwyddiant, a fydd yn barod i gryfhau ein presenoldeb ymhellach yng Nghymru a thu hwnt. Bydd Iestyn yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol fel rhan o uwch dîm arwain y Brifysgol.”
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076