Prifysgol yn cynnal y gystadleuaeth lletygarwch gyntaf o'i bath yng Nghymru i hybu'r to nesaf o dalent


02.11.2022

Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) gystadleuaeth gyntaf erioed Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc Cymru yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ddydd Mawrth.  Mewn digwyddiad ar ddull MasterChef, bu wyth gweithiwr proffesiynol ifanc sy'n byw yng Nghymru ac sy'n gweithio yn y sector lletygarwch yn brwydro am y cyfle i fod yn  bencampwyr Cymru a fydd yn mynd i’r rownd derfynol fyd-eang sydd i ddod ym Monaco.  

Y Cogydd buddugol oedd Ali Halbert, 26, o Heaneys, a’r Gweinydd buddugol oedd Tilly Morris, 21, o Grove of Narberth. Arsylwodd panel beirniadu arbenigol,  a oedd yn cynnwys  10 o  ffigurau mwyaf blaenllaw lletygarwch  Cymru, ar bob cam o'r broses gan drosglwyddo doethineb a chyngor i  helpu cystadleuwyr i ddatblygu eu sgiliau. Yn ogystal â chreu argraff ar y deg beirniad, paratôdd a gweinodd y cystadleuwyr ginio tri chwrs i 16 o arbenigwyr o'r diwydiant a gynorthwyodd gyda’r broses feirniadu ar sail eu profiad cyffredinol.

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo fawreddog a chinio gyda'r nos i gyhoeddi'r enillwyr, pryd y bu teuluoedd ac aelodau o sector lletygarwch Cymru yn ymgynnull i fwynhau bwyd ac adloniant, gan roi cyfle i unigolion a  busnesau o bob cwr o sin fwyd fywiog Cymru i rwydweithio a chymdeithasu ers y pandemig.

Mae hanes hir Y Drindod Dewi Sant o Addysg Uwch yng Nghymru yn cynnwys ysgol Lletygarwch a Thwristiaeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf ac sy'n dod â chyfleoedd gwell i bobl Cymru. Gan feithrin cysylltiadau cryf â busnesau a phartneriaid yn y diwydiant i adeiladu rhwydweithiau sy'n gwella myfyrwyr a chymunedau, roedd y Brifysgol yn falch iawn o gynnal y gystadleuaeth ac ehangu'r rhwydwaith hwn i ymgorffori sector lletygarwch ehangach Cymru.

Yn hyrwyddo treftadaeth, iaith a diwylliant arbennig y wlad trwy ei gweithgareddau, mae'r Brifysgol yn gweithio'n galed i sicrhau bod Cymru yn gysylltiedig â'r byd ehangach. Nid yw'r gystadleuaeth  Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc, a sefydlwyd yn Lloegr yn 1979, wedi ei chynnal yng Nghymru erioed o'r blaen, felly enillwyr eleni yw'r pâr cyntaf i gynrychioli'r wlad ar lwyfan y byd a chael cyfle i gael eu coroni'n Gogydd Ifanc neu'n Weinydd Ifanc y Byd.

Roedd y gystadleuaeth yn canolbwyntio ar gynnyrch ardderchog y wlad, talent gyffrous a'r sefydliadau y meithrinwyd y doniau hyn ynddynt. Gofynnwyd i'r cystadleuwyr ymateb i'r thema ‘Ysbrydolwyd gan Gymru', a chawsant gynhwysion gan gynhyrchwyr bwyd a diodydd lleol a  noddodd y gystadleuaeth i gyflenwyr eraill, lleoliadau lletygarwch a chwmnïau digwyddiadau mewn  partneriaeth â’r Drindod Dewi Sant.

Un o’r noddwyr oedd Neil Kedward, Rheolwr Gyfarwyddwr Casgliad Seren sydd wedi creu partneriaeth â'r Drindod Dewi Sant  i groesawu myfyrwyr ar  leoliad i ddarparu addysg sector deuol ar gyfer gradd Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol.  Meddai Neil: "Ni fu erioed well amser i ymuno â sector lletygarwch Cymru, sydd â chymaint o leoliadau llewyrchus yn gweithio ar eu gorau.

"Mae'r gystadleuaeth Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc yn gweithio i gydnabod y nifer o weithwyr proffesiynol ifanc sy'n gweithio ar y lefelau perfformiad uchaf yn ein sector ar hyn o bryd. Mae Seren yn falch iawn o fod mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth gynnal y gystadleuaeth hon yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio bod pawb a roddodd gynnig arni wedi dysgu rhywbeth pwysig drwy gystadlu yn erbyn eu cymheiriaid yn y modd hwn. "

Dywedodd enillydd categori’r Gweinydd gorau, Tilly Morris: “Mae wedi bod yn brofiad mor wych ac rydw i wedi dysgu cymaint o weithio fel hyn gyda phobl nad oeddwn yn eu hadnabod cyn i mi gyrraedd. Rydw i mor gyffrous ac yn ei chael hi’n anodd siarad, ond alla i ddim aros i gynrychioli Cymru ym Monaco! Heddiw yw diwrnod gorau fy mywyd!”

Dywedodd Dr Jayne Griffith-Parry, Cadeirydd y Beirniaid a Rheolwr Rhaglen ar gyfer cyrsiau Gastronomeg a Rheolaeth Gwesty yn y Drindod Dewi Sant: “Mae wedi bod yn wych gweld beth mae ein holl gystadleuwyr yn ei gyfrannu i ddiwydiant lletygarwch Cymru - angerdd, ymroddiad, sgil a fflach - sy’n profi bod y proffesiwn lletygarwch yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru. Fedra’ i ddim aros yn barod i agor y ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth Gweinyddwr Ifanc Cogydd Ifanc y Byd Cymru y flwyddyn nesaf!”

Ychwanegodd Hywel Griffith, Prif Gogydd Beach House a beirniad y gystadleuaeth y prif gogydd : “Mae’n wych gweld y Brifysgol yn gweithio gyda diwydiant yn y modd hwn i hyrwyddo a thynnu sylw at y dalent ifanc sydd gennym yma yng Nghymru. Mae wedi bod yn bleser gwylio’r gweithwyr proffesiynol ifanc hyn yn gweithio a gweld pobl o bob rhan o sector lletygarwch Cymru yn dod at ei gilydd o ganlyniad i’r digwyddiad hwn.”

Cenhadaeth Y Drindod Dewi Sant yw bod yn Brifysgol i Gymru, gydag ymrwymiad i lesiant a threftadaeth y genedl wrth galon popeth a wnawn. Yn ganolog i'n gweledigaeth mae hyrwyddo a gwreiddio system addysgol sector deuol sy'n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir, ac sy’n ysgogi datblygiad economaidd yn ein rhanbarth, ar draws Cymru a thu hwnt.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078