Profiad byw myfyrwyr BSc Seicoleg Y Drindod Dewi Sant o brosiect ymchwil byd-eang
21.10.2022
Mae myfyrwyr BSc Seicoleg Y Drindod Dewi Sant yn helpu gyda phrosiect ymchwil pwysig yn rhan o’u hastudiaethau.
Mae’r myfyrwyr yn dylunio, creu a chynnal astudiaethau ymchwil sy’n archwilio materion yn ymwneud â chydraddoldeb rhywiol, sut mae disgwyl i ddynion a merched ymddwyn, a chanfyddiadau pobl o ran yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddyn neu’n ddynes ‘go iawn’ yn y byd sydd ohoni.
Mae’r modwl rhaglen, sef Ymchwil ar Waith, wedi’i ddylunio i ganiatáu i fyfyrwyr gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil seicolegol byw a gan fod arweinwyr y modwl, Dr Katie Sullivan a Dr Paul Hutchings, yn arwain adain Cymru'r Prosiect Towards Gender Harmony ac yn awduron nifer o’r papurau ymchwil sy’n deillio ohono, roedd cyfle unigryw i fyfyrwyr y cwrs gymryd rhan.
Mae Towards Gender Harmony yn brosiect byd-eang sydd wedi mesur agweddau tuag at faterion cydraddoldeb rhywiol ac agweddau dros 30,000 o gyfranogion mewn dros 60 o wledydd ac mae wedi darparu rhai o’r canfyddiadau mwyaf cynhwysfawr ynghylch cydraddoldeb rhywiol yn y cyfnod diweddar.
Meddai Dr Hutchings: “Un o brif fanteision meddu ar garfan lai o fyfyrwyr na llawer o brifysgolion eraill, yn ogystal â’n cyfleusterau ymchwil seicoleg pwrpasol, yw ein bod yn gallu cynnig cyfleoedd fel hyn a fyddai bron yn amhosibl yn unrhyw le arall. Yn rhan o’u cwrs, caiff y myfyrwyr y cyfle i gydweithio gyda ni fel ymchwilwyr yn hytrach na fel darlithwyr, a golyga hyn y gallwn eu hyfforddi’n uniongyrchol i ddatblygu llawer o’r sgiliau sy’n hanfodol i’n maes gwaith. Gall myfyrwyr eraill ddweud eu bod wedi dysgu rhywbeth, ond gall y myfyrwyr hyn ddweud eu bod wedi ei wneud e hefyd, ac mae hynny’n rhoi grym i’w CVs.”
Yn ogystal â darparu hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mae’r tîm seicoleg yn gobeithio y bydd yr ymchwil hefyd yn cynhyrchu rhywbeth ystyrlon ar gyfer cymuned Cymru.
“Gwnaeth y prosiect Gender Harmony ateb llawer o gwestiynau ond fe gododd lawer mwy hefyd, ynghylch agweddau mewn gwahanol wledydd a sut y maen nhw’n cymharu dros y byd,” meddai Dr Sullivan. “Er enghraifft, rydym wedi darganfod bod yna wahaniaethau yn y ffyrdd mae dynion a merched yn ystyried camau pellach tuag at gydraddoldeb; mae safbwyntiau hirdymor am y swyddi sy’n addas ar gyfer dynion a merched yn dal i fodoli; ac mae’r pwysau a roddir ar ddynion a merched gan gymdeithas i ymddwyn mewn ffyrdd sy’n cydymffurfio â bod yn ddyn neu’n ddynes ‘go iawn’ yn anferthol.
“Bydd y myfyrwyr yn cynnal ymchwil i archwilio’r materion hyn ymhellach a’n gobaith yw y byddwn yn cynhyrchu rhywbeth y gallwn ei gyflwyno mewn cynhadledd neu bapur ymchwil ar ddiwedd y modwl. Fe fyddai’n wych i’r myfyrwyr allu arddangos eu gwaith caled ar ei ddiwedd.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk