Prosiect Cwilt Deucanmlwyddiant Y Drindod Dewi Sant yn casglu'r gymuned i rannu straeon a dathlu treftadaeth gyfoethog


06.12.2022

Mae cwiltiau yn gysylltiedig â chymuned ers amser maith, gan ddod â phobl at ei gilydd, i greu a throsglwyddo sgiliau traddodiadol, wedi'u trwytho yn naratif amser a lle, gan adrodd straeon am yr unigolion neu'r grwpiau sydd wedi eu gwneud. Ac mae hynny'n sicr yn wir ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, lle mae myfyrwyr, staff, disgyblion ysgol a'r gymuned ehangach yn helpu i greu a rhannu rhan o stori'r Brifysgol, 200 mlynedd yn ddiweddarach.

Referencing the iconic Welsh notion of Cwtch, and our deep affection for Welsh blankets, “Carthen” and quilts, the Cwilt 200 project aims to bring together the far reaching and diverse UWTSD community, extending across campuses, towns, cities, and continents, to friends, graduates, and local groups through a 200-block quilt – each block telling a unique story.

Yn 2022 mae'r Brifysgol yn dathlu ei 200 mlynedd ac yn rhan o ddathliadau, mae tîm o Goleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi llunio prosiect uchelgeisiol.   

Gan gyfeirio at y syniad Cymreig eiconig o Gwtsh, a'n hoffter dwfn o flancedi Cymreig, "Carthen" a chwiltiau, nod prosiect Cwilt 200 yw dod â chymuned bellgyrhaeddol ac amrywiol Y Drindod Dewi Sant at ei gilydd, gan ymestyn ar draws campysau, trefi, dinasoedd a chyfandiroedd, at ffrindiau, graddedigion a grwpiau lleol trwy gwilt 200 bloc  - a phob bloc yn adrodd stori unigryw.

Mae rhaglen Patrwm a Thecstilau Arwyneb Y Drindod Dewi Sant, ac Artistiaid Preswyl Graddedig 21/22, wedi paratoi a chynnal dewis o weithdai sydd wedi cynnwys disgyblion o ysgolion lleol, grwpiau cymunedol, yn  ogystal â sesiynau gyda 100 o fyfyrwyr yn y sioe ddylunio graddedigion blaenllaw yn Llundain, New Designers <https://www.newdesigners.com/>.

Meddai Uwch Ddarlithydd Y Drindod Dewi Sant Georgia McKie: "Yn sefydliad rydyn ni hefyd wedi ein rhoi at ein gilydd fesul darn; ac yn cynnwys sawl rhan newydd a hen. Yn eclectig ac yn llawn cymeriad; rydyn ni wedi cael ein casglu a'n pwytho at ein gilydd dros 200 mlynedd ein hanes.  Rydyn ni am adlewyrchu'r dreftadaeth gyfoethog hon a dathlu ein hetifeddiaeth i'r dyfodol drwy Gwilt 200.

"Yn sicr, rydyn ni wedi tanio llawenydd drwy'r gweithdai wrth rannu profiadau o sgwrsio, deunydd darniog, pwyth a gwneud.

"Mae trefnu bod hyn ar gael i drwch ein cymuned wedi bod yn rhan annatod o nodau'r prosiect. Mae apêl wahaniaethol ar draws y sesiynau gweithdy; i'r rhai sydd â sgiliau cadarn mewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau; i'r rhai sydd â diddordeb sy'n dod i'r amlwg wrth wneud a chreu; i'r rhai sydd eto i brofi'r llawenydd o weithio gyda thecstilau. "

A dewis terfynol y 200 darn bron wedi'i gwblhau, ar 5 Rhagfyr, bydd tîm yn ymgynnull yn Adeilad Dinefwr y Brifysgol i ddechrau'r broses o gwiltio.

UWTSD Bicentenary Cwilt project brings community together to share stories and celebrate rich heritage.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk