Pwyllgor Myfyrwyr newydd Institute of Hospitality Cymru yn lansio ac yn cynnal digwyddiad O Gymru i'r Byd yn y Senedd


20.04.2022

Bydd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn chwarae rhan flaenllaw mewn digwyddiad sy'n cael ei drefnu i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a rhwydweithio yn y Diwydiant Lletygarwch ledled Cymru a'r byd.

Institute of Hospitality event poster From Wales to the World 28th April

Mae O Gymru i'r Byd yn ddigwyddiad dwy ran a gynhelir gan Bwyllgor Myfyrwyr newydd yr Institute of Hospitality (IoH) Cymru, yn Adeilad hanesyddol y Pierhead ym Mae Caerdydd a'r Senedd eiconig. Bydd y digwyddiad yn helpu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn meithrin gyrfa yn y maes Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau i gael cipolwg go iawn ar y diwydiant tra hefyd yn annog y diwydiant i rwydweithio a chefnogi rheolwyr y dyfodol.

Cynhelir y sesiwn gyntaf rhwng 10am a 2pm ac mae wedi'i hanelu at fyfyrwyr iau mewn ysgolion ac Addysg Bellach sy’n awyddus i ymuno â'r sector. Mae'r ail sesiwn, a gynhelir rhwng 5.30-8pm, ar gyfer Aelodau’r IoH, myfyrwyr Addysg Uwch, graddedigion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i ddathlu lansio'r pwyllgor myfyrwyr newydd. 

Etholwyd Philippa Fitzgerald, myfyrwraig ar ei blwyddyn olaf sy’n astudio Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol yn y Drindod Dewi Sant, yn Gadeirydd cyntaf y pwyllgor myfyrwyr newydd. Meddai: "Mae'n anrhydedd cael fy ngwahodd i fod yn Gadeirydd cyntaf y pwyllgor. Mae'r swydd hon wedi rhoi'r cyfle imi gysylltu â myfyrwyr gwych a chynrychiolwyr ysbrydoledig o'r diwydiant tra'n datblygu sgiliau hanfodol i'w defnyddio yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae bod yn rhan o'r tîm anhygoel sy'n cynnal digwyddiad cyntaf y pwyllgor myfyrwyr ym mhrifddinas y wlad yn brofiad a fydd yn aros gyda mi am byth.” 

Wrth i'r Diwydiant Lletygarwch weld adferiad yn dilyn Covid, mae'r sector yn wynebu prinder staff gweithredol a rheoli medrus, gan ddarparu cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc ddilyn llwybr carlam i yrfa hynod lwyddiannus. I gefnogi hyn, mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr y diwydiant a’r rhai sy’n chwilio am yrfa ledled Cymru gyfarfod, ymgysylltu a thrafod dyfodol y sector.

Bydd astudiaethau achos o’r byd diwydiant go iawn ac astudiaethau achos myfyrwyr o Gymru a'r byd yn cael eu defnyddio i arddangos cyfleoedd cyffrous, gan helpu i hyrwyddo llwybrau gyrfa ac opsiynau hyfforddi ar draws y meysydd Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau. Ymhlith y siaradwyr sy'n arwain y diwydiant mae: 

  • Damian Jenkins – Llywydd Rhanbarthol The Management Trust California
  • Ed Sims – cyn Brif Swyddog Gweithredol WestJet Canada
  • Heledd Williams – Pennaeth Digwyddiadau Busnes, Digwyddiadau Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Helen John – Rheolwr Academi Bluestone Cymru
  • James Hayward MIH – Rheolwr Gwesty Coldra Court, Celtic Manor
  • Jessie Wakely – Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata Harbour Lights Spirits
  • Mike Philipps – cyn Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol sy’n byw yn Dubai a Chyfarwyddwr FabFour Coffee
  • Paula Ellis - Rheolwr Cyffredinol y Grŵp, Retreats Hotels

Meddai Jacqui Jones, aelod o Bwyllgor Cangen IoH Cymru a Rheolwr Rhaglen ar gyfer y portffolio Twristiaeth, Digwyddiadau a Rheolaeth Cyrchfannau Hamdden yn y Drindod Dewi Sant: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu lansio Pwyllgor Myfyrwyr newydd yr Institute of Hospitality Cymru, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion ledled Cymru gydweithio i gynrychioli dyfodol y diwydiant ac arddangos cyfleoedd gyrfa ar draws y sectorau Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau.

"Rwy'n falch iawn o weld myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn siarad yn y digwyddiad, gan ddangos rôl bwysig y Brifysgol wrth ddatblygu arweinwyr y diwydiant yn y dyfodol.”

Mae'r siaradwyr Damian Jenkins a Heledd Williams ill dau yn raddedigion o raglenni Rheolaeth Twristiaeth a Hamdden y Drindod Dewi Sant, tra bod Jessie Wakely yn un o fyfyrwyr cyfredol Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol. Meddai Jessie, “Rwy’n teimlo'n hynod freintiedig i fod yn siaradwr mewn digwyddiad mor fawreddog a chael y cyfle i glywed gan bobl ar frig y sector lletygarwch o bob cwr o'r byd, ar garreg ein drws! Pa un a ydych yn fyfyriwr sy'n dymuno mynd i'r diwydiant lletygarwch neu eisoes ar frig eich gêm, mae hwn yn ddigwyddiad na allwch ei golli.”

Gwnaeth Jade Pepperell, myfyrwraig Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol yn y Drindod Dewi Sant, a’r Rheolwr Digwyddiadau Myfyrwyr sy'n trefnu O Gymru i'r Byd, fynegi ei chyffro am fod â rôl hanfodol i'w chwarae ac ennill "profiad anhygoel a fydd o fudd i mi yn fy mlynyddoedd yn y brifysgol a thu hwnt.”

Mae'r digwyddiad yn cael ei gefnogi a'i noddi gan yr Aelod o'r Senedd David Rees. Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad min nos ar gael gan Eventbrite.

Eleni mae’r Drindod Dewi Sant yn dathlu 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru. O’r hadau a heuwyd yn Llambed dros ddwy ganrif yn ôl, mae wedi tyfu i fod yn Brifysgol sector deuol, aml-gampws gan ddarparu rhaglenni sy’n berthnasol yn alwedigaethol mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk