REF2021: Cydnabyddiaeth i’r Drindod Dewi Sant am gynhyrchu ymchwil sy’n arwain yn fyd-eang ac sy’n rhagorol yn rhyngwladol


12.05.2022

Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 12 Mai), yn dangos bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynhyrchu ymchwil sy'n arwain yn fyd-eang ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol.

REF Logo

Mae prif ganlyniadau’r Drindod Dewi Sant [i] yn REF2021 yn cynnwys y canlynol:

  • Mae'r Drindod Dewi Sant yn 4ydd yng Nghymru am effaith, gyda 74% o ymchwil y Brifysgol yn cael ei barnu fel un sy'n darparu effeithiau eithriadol a sylweddol iawn i gymdeithas, diwylliant a diwydiant.
  • Mae 49% o'r ymchwil wedi'i raddio 4* (sy'n arwain yn fyd-eang) neu 3* (sy’n rhagorol yn rhyngwladol), o feysydd Celf a Dylunio, Addysg, Ieithoedd Celtaidd a Llenyddiaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, a Seicoleg.
  • Cafodd 100% o'r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd radd 4* (rhagorol) neu 3* (sylweddol iawn) am ei effaith.
  • Cafodd 75% o'r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Addysg ei raddio 3* (sylweddol iawn) am ei effaith ar bolisi ac ymarfer addysgol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Hwn oedd y cyflwyniad mwyaf hyd yma i’r REF gan y Drindod Dewi Sant, ac un o'r prif ddatblygiadau i’r Brifysgol yn REF2021 oedd bod y maes Addysg wedi gwneud cyflwyniadau i'w hasesu am y tro cyntaf. Amlyga hyn y modd y mae ymchwil a wneir gan y Brifysgol yn cyfrannu at ddatblygu a thrafod polisi addysg yng Nghymru ac yn arbennig Cwricwlwm newydd Cymru.

Un enghraifft wych o effaith ymchwil y Brifysgol yw cyfraniad y Drindod Dewi Sant at brosiect CAMAU, sydd wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu dealltwriaeth system addysg Cymru o gynnydd dysgwyr. Roedd y gwaith pwysig hwn mor ddylanwadol fel iddo gael ei ymestyn i ail gam yn ddiweddar.

Ymchwil dan arweiniad Dr Nalda Wainwright, a gynhaliwyd yn Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru (WAHPL) yn y Drindod Dewi Sant, a nododd fwlch yn natblygiad sgiliau echddygol disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, aeth yr Academi ati i ddatblygu a gwerthuso rhaglen o ddatblygiad proffesiynol mewn ysgolion a lleoliadau cyn-ysgol. Mae Hyfforddiant Cinesthetig Llwyddiannus i Blant Dan Oed Ysgol yng Nghymru (SKIP-Cymru) wedi hyfforddi 878 o athrawon, ymarferwyr blynyddoedd cynnar, hyfforddwyr a rhieni, i allu gwella cymhwysedd corfforol plant yn eu gofal. Mae'r rhaglen wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol ar ffurf argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar weithgarwch corfforol, ac fel astudiaeth achos arfer gorau ar gyfer deunyddiau cymorth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn 2019, yn dilyn cyhoeddi ymchwil yn gwerthuso llwyddiant SKIP-Cymru, derbyniodd Llywodraeth Cymru fod angen addysgu Sgiliau Echddygol Sylfaenol yn ifanc, ac y dylid darparu ar gyfer y rhain yng Nghwricwlwm Cenedlaethol newydd.


Ymchwil sy'n cael ei wneud gan y tîm yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn y Drindod Dewi Sant, i ddiweddaru cofnodion a chreu cofnodion newydd ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC).

Geiriadur hanesyddol yw hwn, sy’n debyg i'r Oxford English Dictionary, a’r awdurdod cydnabyddedig ar sillafu, tarddiad ac ystyr geiriau Ar wahân i'w ddefnydd ysgolheigaidd amrywiol, mae'n ddylanwadol mewn sawl rhan o'r maes cyhoeddus yng Nghymru, gan ddarparu seilwaith geiriadurol yr iaith sydd ei angen i gynhyrchu terminoleg ar gyfer dogfennaeth ddwyieithog mewn meysydd megis llywodraeth, addysg, iechyd, y gyfraith a busnes. Mae effaith GPC wedi cynyddu'n ddramatig gan arwain at gyllido’r Geiriadur gan Lywodraeth Cymru o 2016 ymlaen fel rhan hanfodol o'i strategaeth Cymraeg 2050 i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Cymerodd y Ganolfan ran mewn dau brosiect ymchwil cysylltiedig a ariannwyd gan yr AHRC yn canolbwyntio ar ysgrifennu teithio am Gymru ar draws ystod o ieithoedd. Mae Teithwyr ChwilfrydigTheithwyr Ewropeaidd i Gymru wedi bod o fudd uniongyrchol i’r sectorau treftadaeth, twristiaeth, y celfyddydau ac addysg yng Nghymru, a chyfeiriwyd at eu heffaith yn ddiweddar yn Nhŷ’r Cyffredin.


Roedd ymchwil gan yr academydd Dr Rebekah Humphreys o’r Drindod Dewi Sant yn hanfodol i ddarparu'r seiliau moesegol ar gyfer Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), a basiwyd ar 17 Gorffennaf 2020.

Mae’r ddeddf ddilynol sef Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020, a ddaeth yn gyfraith drwy Gydsyniad Brenhinol yng Nghymru ar 7 Medi 2020, yn ei gwneud yn drosedd i anifail gwyllt gael ei ddefnyddio mewn syrcas deithiol. Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol hon yn cysoni cyfraith Cymru â chyfraith Lloegr, yr Alban, a 33 o wledydd yn fyd-eang sydd â gwaharddiadau cenedlaethol ar ddefnyddio neu fewnforio/allforio o leiaf rai anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, gan gynnwys 18 o aelod-wladwriaethau'r UE. Yn ei hanfod, cafodd seiliau moesegol a ddeilliai o waith Dr Humphreys ar foeseg anifeiliaid gymhwysol eu cyflwyno i amddiffyn y Bil, a chafodd y seiliau hynny eu llywio gan hanes dadleuon yn ymwneud â moeseg, yn enwedig moeseg anifeiliaid a oedd yn seiliedig ar wyddoniaeth.


Mae ymchwil dan arweiniad Canolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol Cymru (CBM), mewn cydweithrediad ag arbenigwyr milfeddygol ym Mhrydain, drwy ddylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD), profion anninistriol (NDT) a gweithgynhyrchu haen-ar-haen (AC) yn helpu i drin Osteosarcoma, y math mwyaf cyffredin o ganser yr esgyrn mewn cŵn.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys dylunio a datblygu dyfeisiau llawfeddygol pwrpasol ar gyfer trin osteosarcoma yn effeithlon mewn cŵn bridio mawr ledled y DU, a chreu mewnblaniadau orthopedig pwrpasol ar gyfer cŵn bach. Y prif effeithiau sy'n deillio o'r ymchwil yw datblygu a dilyn system cynllunio llawfeddygaeth rithwir mewn gofod dylunio 3D, ac optimeiddio dyluniad dau fath o ddyfais lawfeddygol: mewnblaniadau wedi’u creu’n bwrpasol a chanllawiau torri. Mae’r mewnblaniad yn cael ei ddylunio a’i argraffu’n 3D fel un cydosodiad cyfunol gan ddefnyddio technolegau gweithgynhyrchu haen-ar-haen datblygedig, megis toddi gan ddefnyddio paladrau electron (EBM). Mae dylunio a chynhyrchu mewnblaniadau 3D sydd wedi’u creu’n bwrpasol, a chanllawiau torri, sy’n cyfateb yn union i anatomi'r claf unigol yn hwyluso cywirdeb llawfeddygol (megis echdorri tiwmor) a llwyddiant cyffredinol y weithred lawfeddygol. Mae'r ddwy driniaeth bellach yn cael eu cydnabod mewn arfer llawfeddygol, yn cyflawni canlyniadau llawfeddygol gwell, a bron yn haneru’r amser llawfeddygol.


Mae Ystrad Fflur (Abaty Ystrad Fflur), cyn Abaty Sistersaidd a heneb gofrestredig o dan warcheidiaeth Cadw, wedi bod yn safle eiconig ar gyfer hunaniaeth hanesyddol Cymreig ers tro byd, yn seiliedig ar ei rôl mewn adeiladu cenedl a chynhyrchu testunau Cymraeg cynnar.

Gan ddefnyddio methodolegau a thrafodaethau archaeoleg, hanes, ac astudiaethau diwylliannol mae rhaglen barhaus o ymchwil ar y cyd â’r Drindod Dewi Sant wedi’i chynnal ers 1999 gan ymchwilio i’w hanes a’i threftadaeth hirdymor hyd at heddiw. Pan ddechreuodd yr ymchwil, roedd y safle hysbys yn fach a’i gyfnod amser yn gyfyngedig i’r Oesoedd Canol, ac ychydig o safleoedd a thirweddau mynachaidd eraill yn Ewrop sydd wedi’u hastudio mor fanwl ac mor barhaus gyda rhaglenni parhaus o ymchwil maes wedi’u hadeiladu i mewn i ei amcanion. Yn yr un modd, dim ond ychydig o safleoedd canoloesol mawr eraill yn y DU sydd wedi cysylltu ymchwil hirdymor a chynaliadwy yn ffurfiol ac yn strwythurol â datblygu treftadaeth. Er enghraifft, ychydig o ymchwil sydd wedi'i wneud ar ystyr tirweddau mynachaidd, eu rhagflaenwyr, a'u holynwyr, y tu hwnt i'r economi. Mae ymchwil y Brifysgol yn edrych hefyd ar agweddau emosiynol, cymdeithasol a chysegredig (metaffisegol) eu naratif.


Mae ymchwil gan Ganolfan Arloesi Cerebra (CIC) yn y Drindod Dewi Sant yn helpu i wella bywydau plant sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol.

Dan arweiniad Dr Ross Head, mewn cydweithrediad â'r elusen genedlaethol Cerebra, cynlluniwyd sedd Goto, yn wreiddiol mewn ymateb i gais rhiant am gymorth i fynd â phlentyn i'r archfarchnad. Nid oedd y plentyn yn gallu eistedd heb gymorth, ac nid oedd y rhiant yn gallu gwthio cadair olwyn arbenigol a throli archfarchnad ar yr un pryd. Gwnaed dyluniad a phrototeipiau cychwynnol a'u profi gyda'r plentyn mewn archfarchnad i asesu eu haddasrwydd, eu cymorth o ran cynnal y corff, eu natur addasadwy a’u ffit. Mae'r sedd a dyluniad sgwter wedi gwella bywydau plant â chyflyrau niwroddatblygiadol a'u rhieni a'u gofalwyr yn sylweddol, gan gynyddu cynhwysiant, integreiddio a rhyngweithio â phobl, gyda manteision cysylltiedig o ran galluoedd corfforol, gwybyddol a synhwyraidd.


Mae ymchwil wedi’i wneud sy’n cefnogi unigolion sy'n byw gyda chanser eilaidd y fron: gan wella ymwybyddiaeth, sgyrsiau a gofal.

Mae effaith seicogymdeithasol diagnosis o ganser anwelladwy yn hydreiddiol ac yn barhaus. Mae ymchwil a wnaed ar y cyd gan Dr Ceri Phelps, Cyfarwyddwr Academaidd Seicoleg a Chwnsela yn y Drindod Dewi Sant, ac Ann M Baker, nyrs glinigol arbenigol ym maes gofal canser y fron yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, rhwng 2014 a 2019, gyda menywod sy'n byw gyda chanser eilaidd y fron, wedi gwella ein dealltwriaeth o’r anghenion gwybodaeth a chymorth sydd heb eu cyflawni yn achos menywod o’r fath. Mae wedi helpu i greu’r swydd nyrs arbenigol gyntaf yng Nghymru ym maes canser eilaidd y fron, wedi hwyluso'r broses o greu grŵp cymorth a arweinir gan gleifion, wedi cyfrannu at ddwy gynhadledd ynghylch canser eilaidd y fron ac wedi bod yn allweddol i godi ymwybyddiaeth o effaith byw gyda chanser anwelladwy gan gynnwys cynnal derbyniad yn y senedd.


Deilliodd ymchwil yr Athro Sue Williams fel ymateb i'w phrofiadau personol yn ystod cyfnod clo Covid 19.

Mae BARE RED yn gyfres o 3 llyfr Tsieineaidd wedi'u paentio gan yr Athro Williams sy'n creu dyddiadur gweledol llinol o'i phrofiad a'i theimladau personol yn ystod y cyfnod hwnnw. Maent yn cofnodi ei meddyliau a'i hemosiynau dyddiol sydd ar chwâl, gan ymateb i'r newyddion brawychus, dicter at y byd newydd y tu allan, unigrwydd ynysu, yr hiraeth am deulu a ffrindiau, y galar o golli cysylltiadau, diflastod yr undonedd, yr angen am gyswllt corfforol a hynodrwydd arferion sydd newydd eu mabwysiadu yn y normal newydd. Datblygwyd y canlyniadau creadigol fel rhan o gydweithrediad rhwng yr Athro Williams a'r damcaniaethwr celf Dr Marilyn Allen.

Medwin Hughes

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: 

 “Rwy’n croesawu cyhoeddi canlyniadau REF 2021 sy’n dangos effaith ryngwladol a blaengar ymchwil y Brifysgol. Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i adeiladu partneriaethau ymchwil cryf i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Mae ymchwil a wneir yn y Brifysgol yn llywio newid polisi gan arwain at greu cyfleoedd newydd i genedlaethau'r dyfodol ffynnu.

“Mae eleni yn flwyddyn gyffrous i ni wrth i ni ddathlu ein daucanmlwyddiant. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein hanes a’n cysylltiad ag ef, yn enwedig yn y ffordd y mae wedi rhoi’r penderfyniad a’r hyder i ni lunio ein dyfodol ein hunain yn ogystal â helpu i lunio bywydau unigolion a chymunedau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol.”

Wedi'i gynnal ar y cyd gan bedwar corff cyllido addysg uwch y DU yn 2021, roedd REF – system y DU ar gyfer asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch – yn ei gwneud yn ofynnol i brifysgolion gyflwyno'r holl staff oedd â chyfrifoldeb sylweddol am ymchwil, mewn 34 Uned Asesu.

Mae'r broses adolygu arbenigol yn mesur ansawdd allbynnau ymchwil (e.e., cyhoeddiadau, perfformiadau ac arddangosfeydd); eu heffaith y tu hwnt i'r byd academaidd; a'r amgylchedd sy'n cefnogi ymchwil. Mae ansawdd pob allbwn ymchwil yn cael ei raddio o'r dyfarniad 4* uchaf; i 3*; 2*; 1*; ac Annosbarthedig.

Mae tri diben i'r REF; darparu atebolrwydd am fuddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil a chynhyrchu tystiolaeth o fanteision y buddsoddiad hwn; darparu gwybodaeth feincnodi a sefydlu ffon fesur o ran enw da, i'w defnyddio o fewn y sectorau AU ac er gwybodaeth i'r cyhoedd; ac i lywio’r dyraniad dethol o gyllid ar gyfer ymchwil.

Cafodd y REF, sy'n digwydd bob rhyw chwech i saith mlynedd, ei gynnal ddiwethaf yn 2014. At ei gilydd, roedd 47% o'r ymchwil a gyflwynwyd gan y Drindod Dewi Sant wedi derbyn gradd 4* neu 3*. Mae newidiadau sylweddol yn dilyn adolygiad o'r broses REF ar ôl 2014 yn golygu nad yw'n bosibl gwneud cymhariaeth uniongyrchol rhwng ffigurau 2021 a chanlyniadau 2014.

  • I gael dadansoddiad llawn o ganlyniadau REF2021 ewch i Gwefan REF2021.

[i] *Cyfrifir cyfartaleddau wedi'u pwysoli drwy luosi'r ganran ar bob lefel ansawdd ar gyfer Uned Asesu (UA) neu sefydliad â nifer y staff a gyflwynir yn yr UA neu'r sefydliad hwnnw. Mae hyn yn darparu gwerth wedi'i bwysoli gan CALl ar gyfer pob UA neu sefydliad. Ar gyfer pob lefel ansawdd, caiff y gwerthoedd wedi'u pwysoli eu crynhoi dros yr UA neu'r sefydliad i roi cyfanswm gradd wedi'i bwysoli. Yna rhennir cyfanswm y radd wedi'i bwysoli gan gyfanswm y CALl ar gyfer yr UA neu'r sefydliad i roi'r cyfartaledd.