Rhannodd cyn-fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe eu llwyddiannau gyrfa gyda’r myfyrwyr Darlunio cyfredol yn y digwyddiad cyflogadwyedd 'Gwneud Cysylltiadau'
04.05.2022
Cafodd myfyrwyr Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu difyrru mewn digwyddiad diddorol a buddiol a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan ddau ymarferydd o’r diwydiannau creadigol sy’n gyn-fyfyrwyr o'r Brifysgol.
Y siaradwyr oedd y cyn-fyfyrwyr o Goleg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, Ocean Hughes a James Feakins. Mynychwyd y digwyddiad rhithwir ar Teams gan 18 o fyfyrwyr yr ail flwyddyn ar y cwrs BA (Anrh) Darlunio, yn rhan o’u modwl priodoleddau graddedigion Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy.
Trefnwyd y sesiwn gan Ian Simmons, Darlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, a meddai: “Roedd yn hyfryd gweithio gydag Ocean a James eto. Rwy wedi bod yn dilyn eu gyrfaoedd yn agos a rwy’n ddiolchgar eu bod wedi cymryd amser o'u hamserlenni prysur i siarad â'n myfyrwyr. Roedd eu cyflwyniadau'n ddifyr, yn llawn gwybodaeth ac roeddent hefyd yn atgyfnerthu'r materion proffesiynol rydym wedi bod yn eu harchwilio yn ystod eu modwl priodoleddau graddedigion.”
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yr adborth gan fyfyrwyr yn gadarnhaol iawn.
Manylion y siaradwyr:
James Feakins (Graddiodd yn 2013) – Dylunydd UI ac UX gyda Playtonic Games, Darlunydd Llawrydd gyda Bleached Ink
feakins@playtonicgames.com| https://www.artstation.com/bleachedink
Siaradodd James (yn y llun uchod) am ei lwybr anodd, ar adegau, o wynebu trafferthion fel gweithiwr llawrydd, i fod yn artist gemau a dylunydd UX/UI llwyddiannus. Yn wahanol i Ocean, roedd llwybr James i’w swydd ddelfrydol yn hirach, ond yr un mor fuddiol. Bu'n rhaid iddo weithio mewn swyddi manwerthu i'w gynnal ei hun tra’r oedd yn adeiladu portffolio proffesiynol a siaradodd am ba mor hanfodol yw parhau i ganolbwyntio a pheidio â digalonni; os ydych chi wir eisiau bod yn weithiwr proffesiynol creadigol, gall hynny gymryd amser, a chryn dipyn o ymdrech, ond fe wnewch chi lwyddo os daliwch chi ati.
Siaradodd am bwysigrwydd meithrin, a chynnal, perthynas gyda gweithwyr creadigol eraill a phwysigrwydd rhwydweithio. Pwysleisiodd y dylai myfyrwyr wneud hyn tra maent yn dal yn y brifysgol ac i beidio ag aros tan ar ôl graddio; dylent gydweithio â phobl greadigol eraill, gweithio ar brosiectau personol, ceisio adborth gan y rhai sydd eisoes yn llwyddiannus yn eu diwydiant dewisol ac yna gweithredu arno. Amlinellodd James hefyd pa mor bwysig ydoedd i ddechrau ennill sgiliau trosglwyddadwy nawr, a pheidio ag aros tan ar ôl graddio, a hefyd bwysigrwydd cael diddordebau y tu allan i'ch ymarfer.
Ocean Hughes (Graddiodd 2019) – Y Celfyddydau Digidol: Talent Darlunio Newydd Gorau o sioe y New Designers, Enillydd Gwobr Hayden John James am luniadu a pheintio 2019
Dechreuodd Ocean (yn y llun isod) y sesiwn gyda throsolwg o’i gyrfa ar ôl graddio, gydag enghreifftiau hardd o’i gwaith darlunio. Soniodd am ei chomisiwn cyntaf â thâl (tra roedd yn ei hail flwyddyn yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant), cael cynrychiolaeth asiant gan yr asiantaeth Plum Pudding, pwysigrwydd creu gwaith personol ochr yn ochr â gwaith cleientiaid a phopeth sydd i’w wybod am fod yn ddarlunydd llyfrau plant proffesiynol.
Roedd Ocean yn agored ac yn onest iawn am ei gwaith, gan fanylu ynghylch elfennau gwahanol pob prosiect, yn cynnwys yr amser a gymerwyd i’w gwblhau, cyfanswm y ffi, a’r ffi net ar ôl tynnu comisiwn yr asiantaeth. Soniodd am y broses o weithio gydag asiant, yn ogystal â’r berthynas rhwng y darlunydd a’r cleient a chreodd ddarlun byw iawn, a difyr, o’i bywyd fel darlunydd llawrydd.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk