‘Rising through the Storms – A Personal Journey’
04.03.2022
Siaradwr Gwadd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, yr Athro Uzo Iwobi OBE.
Dychmygwch rywun yn gofyn i chi newid eich enw am ei fod yn rhy anodd ei ddweud, yn dweud wrthych nad yw eich cymwysterau’n berthnasol, yn dweud wrthych y dylech ostwng eich disgwyliadau oherwydd eich rhyw, hil, cenedligrwydd.
Wedi’i seilio ar ei Ted Talk o’r un enw, bydd yr Athro Uzo Iwobi OBE yn rhannu ei phrofiad o symud i’r Deyrnas Unedig o Nigeria, wynebu rhagfarn o’r fath, a sut y gwnaeth y profiadau hyn ei chymell i wneud newidiadau hanesyddol a dechrau llwybr i gydraddoldeb hiliol yn ei chymuned.
Nawr dychmygwch fyd heb ragfarn, ystrydebau a gwahaniaethu. Byd llawn amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant. Byd lle caiff gwahaniaeth ei werthfawrogi a’i ddathlu.
Fel unigolion, rydym i gyd yn gyfrifol am ein meddyliau a’n gweithredoedd ein hunain – drwy’r dydd, bob dydd.
Gallwn chwalu’r rhagfarn yn ein cymunedau.
Gallwn chwalu’r rhagfarn yn ein gweithleoedd.
Gallwn chwalu’r rhagfarn yn ein hysgolion, colegau a phrifysgolion.
Gyda’n gilydd, gallwn chwalu’r rhagfarn – ar Ddiwrnod Rhyngwladol y menywod a thu hwnt.
Ymunwch â ni ar 8fed Mawrth (4.00-4.30) ar gyfer y sgwrs hon a fydd yn ysbrydoli ac ysgogi’r meddwl.
Mae croeso i’r holl fyfyrwyr a staff. Ymunwch â’r sesiwn ar y diwrnod drwy glicio’r ddolen cyfarfod Teams isod:
Click here to join the meeting
Bydd y sesiwn yn cael ei recordio ar gyfer y rheiny nad ydynt yn gallu ymuno ar y diwrnod.
Uzo Iwobi OBE yw CEO a sylfaenydd Race Council Cymru ac mae’n rhedeg ei hymgynghoriaeth arweinyddiaeth a hyfforddiant ei hun. Mae’n gyfreithiwr a bargyfreithiwr cymwys a chafodd ei galw i Far Nigeria. Hi yw sylfaenydd Canolfan Cymuned Affrica yng Nghymru, ZeroRacismWales, Fforwm Ieuenctid Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cenedlaethol Cymru, a Black Lives Matter Wales Collective (fforwm polisi Cymru-gyfan). Yn ddiweddar mae hi wedi gorffen ei thymor fel Ymgynghorydd Polisi Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru. Mae hi wedi gwasanaethu gyda thîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu, wedi’i lleoli yn y Swyddfa Gartref, lle buodd yn rhan o ddatblygu polisïau cenedlaethol ar gysylltiadau hiliol ac amrywiaeth. Bu hefyd yn Gomisiynydd i Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol y DU. Mae hi wedi’i chynnwys yn rhestrau 100 menyw wych Cymru ac 15 eicon du Cymru.
Mae’n meddu ar TAR o Brifysgol Cymru a gweithiodd fel darlithydd y gyfraith ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe rhwng 1995 a 2004. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus, yn Athro Ymarfer ac yn Aelod Cyngor ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk