Saith Deg Mlynedd o Ymdrech a Chyflawniad
03.03.2022
Bydd yr Athro Meena Upadhyaya OBE yn rhoi anerchiad am ei phrofiadau fel mewnfudwr cenhedlaeth gyntaf i Gymru yn ogystal â thrafod agweddau ar ei harbenigedd ymchwil ym maes Geneteg Feddygol yn Ystafell Ddarllen Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe am 2pm ar 16 Mawrth.
Daw teitl y ddarlith o’i llyfr Seventy Years Of Struggle And Achievement: Life Stories Of Ethnic Minority Women Living In Wales, sy’n adrodd straeon bywyd deugain o fenywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a gyrhaeddodd rownd derfynol neu a enillodd wobr Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (2011-2019).
Mae’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau a darlithoedd yn y Brifysgol i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, gan ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol myfyrwyr a staff sy’n ysbrydoli.
Enillodd yr Athro Upadhyaya ei Ph.D gan Brifysgol Caerdydd a chwblhaodd gymrodoriaeth gyda Choleg Brenhinol y Patholegwyr (RCPath) yn 2000. Mae hi’n athro nodedig anrhydeddus mewn Geneteg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn athro ymarfer anrhydeddus gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Canolbwyntiai gyrfa ymchwil yr Athro Upadhyaya ar lawer o anhwylderau genetig, yn enwedig niwroffibromatosis math 1 (NF 1) a nychdod cyhyrol fasioscapwlohwmerol (FSHD). Mae hi wedi cyhoeddi 200 papur ac wedi golygu pum llyfr ar NF1 a FSHD. Dyfarnwyd gwobr Ewropeaidd Theodor Schwann iddi am ei chyfraniadau rhagorol i ymchwil NF1 yn 2013, OBE yn 2016, a Gwobr Dewi Sant yn 2017.
Mae’n Gymrawd ac yn aelod o Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Choleg Brenhinol y Patholegwyr; yn Ymddiriedolwr ar gyfer Nerve Tumours UK, Race Equality First, a Chyngor Hil Cymru. Ymunodd â Bwrdd Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn 2020.
Mae’r Athro Upadhyaya yn frwd dros hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cydlyniant cymunedol, ac integreiddio. Hi yw sylfaenydd a Chadeirydd Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) a Menywod Lleiafrifoedd Ethnig mewn Gofal Iechyd yng Nghymru (EMWWH). Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Placiau Porffor a Monumental Welsh Women. Mae Meena yn gyd-olygydd 'Seventy Years of Struggle and Achievement: life stories of ethnic minority women in Wales.’
Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser mawr ac yn anrhydedd i ni gynnal y ddarlith hon gan yr Athro Upadhyaya. Mae effaith ei hymchwil pwysig yn cael ei theimlo ymhob cwr o’r byd, a chyn bwysiced â hynny yw’r amser a’r ymdrech y mae’n eu rhoi i helpu menywod yng nghymunedau lleiafrifoedd ethnig.”
Mae’r ddarlith hefyd yn nodi lansio Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd y Brifysgol a ddatblygwyd ar y cyd â chynrychiolwyr y myfyrwyr a’r staff. Mae’r cynllun yn ymgorffori egwyddorion Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE, gan gefnogi ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu amgylchedd dysgu a gweithio cynhwysol, heb ragfarn na gwahaniaethu, lle caiff ein holl staff a'n dysgwyr eu cefnogi, ac y teimlant eu bod yn cael eu parchu ac yn cael eu grymuso i wireddu eu potensial llawn.
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i adeiladu cymunedau cryf ac iach ar draws ei champysau ac i greu amgylchedd dysgu a gweithio cynhwysol, cefnogol lle gall yr holl staff, myfyrwyr a dysgwyr ffynnu a chyflawni eu potensial personol. Mae gwerthoedd partneriaeth a chydweithredu'r Brifysgol wrth wraidd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn.
Meddai Jane O’Rourke, Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol: “Yn rhan o’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol rydym wedi ymrwymo i wneud ein gweithle’n fwy cynhwysol ac amrywiol ar bob lefel. Gwyddom beth yw gwerth hyn, a chredwn, drwy ddeall yn well yr heriau a’r rhwystrau y mae menywod a phobl o gefndiroedd ethnig yn eu hwynebu, y gallwn weithredu’n ystyrlon er mwyn mynd i’r afael â’r rhain. Mae galluogi pobl i gyflawni eu potensial a’u dyheadau o ran gyrfa wrth wraidd ein cenhadaeth yn y Drindod Dewi Sant.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk