Sefydliad Cymru gyfan yn gweithio i hyrwyddo iechyd a lles y genedl: Adolygu'r flwyddyn


29.04.2022

Mae'r heriau unigryw sy'n wynebu iechyd a lles wrth i ni gyrraedd cyfnod newydd ar ôl y pandemig wedi cael eu hamlygu mewn adroddiad blynyddol a lansiwyd heddiw.

The Welsh Institute of Physical Activity, Health and Sport (WIPAHS) is a pan-Wales network which sees all eight Welsh universities working with Sport Wales and Welsh Government. It brings together academia, those facilitating physical activity and sport, policy makers and the public to help create a healthier society.

Mae Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) yn rhwydwaith Cymru gyfan sy'n cynnwys pob un o'r wyth prifysgol wrth iddynt weithio gyda Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae'n dod â'r byd academaidd, y rhai sy'n hwyluso gweithgarwch corfforol a chwaraeon, llunwyr polisi a'r cyhoedd ynghyd er mwyn helpu i greu cymdeithas iachach.

Dywedodd Dr Nalda Wainwright, Cyfarwyddwr Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru yn y Drindod Dewi Sant: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i brifysgolion yng Nghymru rannu arbenigedd a chydweithio, gan gael dirnadaeth o ffactorau sy'n effeithio ar weithgarwch corfforol ac ymddygiad iechyd pobl yng Nghymru. Bydd yn amhrisiadwy o ran sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer datblygiadau yn ein cymunedau i gefnogi iechyd a llesiant.

"Mae dull cydweithredol WIPAHS yn rhoi cyfleoedd i weithio ar geisiadau am gyllid gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sector ac ar hyn o bryd rydym yn arwain cais gan WIPAHS gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Met Caerdydd a Phrifysgol Strathclyde. Mae'r cais yn manteisio ar arbenigedd y Drindod Dewi Sant ym maes Addysg Awyr Agored ac, os bydd yn llwyddiannus, bydd yn archwilio sut y gall yr awyr agored gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc."

Un enghraifft o waith y sefydliad oedd arolwg ledled y wlad sy'n asesu effaith cau ysgolion a llacio'r cyfyngiadau ar lefelau gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant. Datgelodd fod plant y cyfnodau clo a'r cyfyngiadau cysylltiedig wedi cael effaith wael ar blant; roedd rhai plant yn eistedd am 14 awr y dydd!

Meddai'r Athro Kelly Mackintosh o Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe, cyd-gadeirydd y Sefydliad: “Mae llawer o ffactorau wedi arwain at eistedd am gyhyd. Datgelodd ein hadolygiad cysylltiedig fod y rhain yn amrywio o ffactorau unigol, megis oedran a rhyw, i ffactorau cymdeithasol, megis amgylchedd y teulu.

“Mae hyn yn amlygu bod y broblem hon yn un gymhleth i'w datrys a bod angen i bawb – o deuluoedd i ysgolion a llunwyr polisi – gydweithio ar frys i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a gwella iechyd meddwl y genhedlaeth nesaf.”

Mae'r Sefydliad bellach yn awyddus i barhau i helpu ymarferwyr a llunwyr polisi drwy rannu ei arbenigedd a'i allu ymchwil.

Meddai Cyfarwyddwr Ymchwil WIPAHS, yr Athro Melitta McNarry, hefyd o Brifysgol Abertawe: “Rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni'n grŵp croesawgar a chyfeillgar sy'n gallu rhoi cymorth mewn amrywiaeth eang o bynciau ym meysydd gweithgarwch corfforol, iechyd a chwaraeon.

“Rydyn ni am ddarparu'r atebion y mae eu hangen ar bartneriaid er mwyn eu helpu gyda'u camau nesaf, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch sut gallen ni helpu, mae croeso i chi gysylltu â ni.”

Enghraifft arall o'r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd cydweithrediad â Thriathlon Cymru, y corff cenedlaethol sy'n llywodraethu camp y triathlon yng Nghymru, a oedd am wybod a fu rhagor o achosion o bobl yn gorymarfer ac yn cael anafiadau gorddefnyddio yn sgîl y cynnydd yn y defnydd o blatfformau hyfforddiant ymarfer corff ar-lein yn ystod y pandemig.

Yn dilyn ymgynghoriad, gwnaeth WIPAHS baratoi a dosbarthu arolwg pwrpasol, gan ganfod bod naw y cant o gyfranogwyr yn gorymarfer, a oedd yn debyg i dymor arferol ymhlith athletwyr o safon uchel. 

Llwyddodd Triathlon Cymru i ddefnyddio'r canfyddiadau er mwyn rhoi cyngor a chymorth gwell a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth i athletwyr.

Meddai Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru a Chyd-gadeirydd y Sefydliad: “Mae gwaith WIPAHS wedi rhoi hwb mawr i allu Chwaraeon Cymru, a'r sector chwaraeon, i flaenoriaethu adnoddau a buddsoddiad a gwneud penderfyniadau gwybodus ar bolisïau.

“Mae wedi gwneud cyfraniad hollbwysig wrth ymateb i anghenion ymchwil a deall rôl gweithgarwch corfforol a chwaraeon o safbwynt cyhoedd ehangach Cymru. Mae'r Sefydliad yn parhau i fod yn bartner strategol cynyddol bwysig ac mae'r adroddiad blynyddol yn dangos ansawdd a lled ei waith, gan ganolbwyntio ar Gymru gyfan.” 

Mae'r adroddiad blynyddol yn amlygu ymchwil a gwblhawyd eisoes gan y Sefydliad, sydd hefyd yn edrych tua'r dyfodol gyda rhagor o brosiectau.

Mae'r rhain yn cynnwys gwerthusiad o'r fenter Active Education Beyond the School Day sy'n rhan o'r buddsoddiad gwerth £25m gan Lywodraeth Cymru mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned er mwyn mynd i'r afael ag effaith tlodi.

Bydd y canfyddiadau'n helpu i ddarparu argymhellion ynghylch sut i greu ysgolion a all ennyn brwdfrydedd teuluoedd a chymunedau, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi.

Mae'r prosiect cyffrous hwn yn enghraifft o'r ffordd y mae WIPAHS yn gweithredu ar draws sectorau er mwyn darparu tystiolaeth allweddol i hyrwyddo iechyd a lles i bawb yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth am WIPAHS a'i waith

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk