Sioe diwedd blwyddyn orfoleddus i fyfyrwyr Pensaernïaeth yn PCYDDS


09.06.2022

Meddai Ryan Stuckey, darlithydd mewn Pensaernïaeth a Chyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Technoleg Bensaernïol: “Bu Sioe Diwedd Blwyddyn agoriadol Ysgol Pensaernïaeth Abertawe yn llwyddiant buddugoliaethus. Mae’r myfyrwyr wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl eleni ac mae hynny wedi ei adlewyrchu yn eu hymdrechion i gynnal arddangosiad mor wych o’u gwaith cyfredol gyda chasgliad eang o brosiectau. Bu’n wych i weld y sioe yn cael ei chefnogi gan weithwyr proffesiynol lleol, staff ac wrth gwrs teuluoedd a ffrindiau cefnogol y garfan ardderchog o fyfyrwyr sydd yn Ddosbarth 2022. Dymunaf bob llwyddiant iddynt i gyd yn eu hymdrechion yn y dyfodol, ond yn gyntaf, am ddod o hyd i leoliadau gwaith. Maent yn ei haeddu.”

Triumphant end of year show for Architecture students at UWTSD

Gwobrwyon
Aneurin James oedd enillydd Gwobr Pensaernïaeth PCYDDS. Dewisodd Aneurin astudio pensaernïaeth gan ei bod yn ymwneud ag ystod eang o feysydd gwahanol. Meddai: “Cymerais bynciau yn y celfyddydau a’r gwyddorau yn yr ysgol a deimlodd fel y pynciau iawn i glymu popeth at ei gilydd. Rwyf bob amser wedi mwynhau mathemateg ond mae’n rhoi boddhad i fynegi’ch hun yn gelfydd, ac wedyn rhoi’r manylion i mewn a’r ymresymiad y tu ôl i hynny. Mwynheais astudio yn PCYDDS oherwydd yr amgylchedd gwaith cyfunol, mae’r darlithwyr yn wych, cawsom lawer o gefnogaeth un-i-un, yn enwedig yn ystod COVID a bu’n wych eleni i fynd yn ôl i’r stiwdio a dysgu oddi wrth ein gilydd. “ Mae Aneurin eisoes wedi ennill lleoliad gwaith, sy’n dechrau ar ôl iddo raddio, yn George and Co, Penseiri ym Merthyr, ac mae wir yn edrych ymlaen at y camau nesaf yn ei yrfa ac at astudio am radd Meistr mewn pensaernïaeth.

Brandon Roberts oedd derbyniwr balch Gwobr Teilyngdod Technegol Darkin Architects, a gyflwynwyd gan David Darkin. Siaradodd Brandon am ei lwybr i mewn i’r cwrs pensaernïaeth, a dwedodd: “Pan oeddwn yn ifancach, chwaraeais gyda Lego am oriau ac wedyn symudais ymlaen i Minecraft, ac roedd fy mam bob amser yn dweud ‘byddi di yn bendant yn mynd i mewn i Beirianneg neu Bensaernïaeth’. Des i i’r diwrnod agored yn PCYDDS cyn i mi ddechrau’r cwrs a meddwl mai dyma ble roeddwn am fod. Astudiais Fathemateg, Ffiseg a Dylunio Cynnyrch ar gyfer Lefel-A, a Chelf ar gyfer TGAU. Roedd y Lefelau-A yn anodd, ond mae gwneud rhywbeth sy’n berthnasol i’ch diddordebau yn bendant o gymorth, ac roedd diwedd y daith bob amser i’w weld.

Y peth gorau am y cwrs pensaernïaeth yn PCYDDS oedd yr amrywiaeth, edrychon ni ar gynifer o wahanol agweddau ar bensaernïaeth, heb arbenigo mewn un yn unig, felly rydym yn fyfyrwyr cytbwys, sydd â’r cyfle i ymhél ag agweddau gwahanol ar bensaernïaeth, teimlais fod hynny’n arbennig o dda. Rwyf am fynd i mewn i’r rhan o bensaernïaeth sy’n ymwneud â chadwraeth, dyna fy nod. Gwnes i draethawd hir ar ‘bensaernïaeth goll Cymru’ a roddodd gyfle i mi ymchwilio’n ddyfnach i’r diddordeb hwnnw. Rwyf eisoes yn ymwybodol bod cynaliadwyedd a’r amgylchedd o’r pwys mwyaf i benseiri, sy’n cael effaith fawr ar yr hyn a wnawn, mae’n gam pwysig ymlaen i’r diwydiant gydnabod hyn.” Mae Brandon bellach yn chwilio am leoliad gwaith i barhau gyda’i ddysgu proffesiynol 

Rhoddwyd Gwobr Teilyngdod Pensaernïol Benham Architects i Benjamin Howells, ac fe’i cyflwynwyd gan Dan Benham. Roedd Ben wedi astudio’r Gyfraith mewn prifysgol o’r blaen, ond wedi ymgymryd â rôl Rheoli Prosiect ar brosiect hunan-adeiladu i deulu, penderfynodd fod ei angerdd ym maes Pensaernïaeth. Meddai Benjamin: “Pan ddes i i weld y cwrs roedd cymaint mwy o amser un-i-un gyda myfyrwyr, mae gan y cwrs strwythur modern sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd ond hefyd ar fusnes ac agweddau ymarferol y diwydiant. Mae gan y darlithwyr ymglymiad personol, rydym yn derbyn tiwtorialau rheolaidd nad oes llawer o brifysgolion yn eu cynnig. Mae hynny o fudd mawr, yn enwedig os nad ydych wedi dod o gefndir celf. Roedd fy Lefelau-A mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyfrifiadureg a Chwaraeon, felly roedd y flwyddyn gyntaf yn anodd ond rydych yn ymgyfarwyddo’n ddigon cyflym, ac roedd yn dod o hyd i’m hochr greadigol. Yr haf diwethaf ces i leoliad gwaith yng Ngogledd Llundain yn Fourpoint Architects, ac wedi hynny cynigion nhw swydd i mi felly byddaf yn dechrau yno ar ôl i mi raddio. “

Yn olaf, rhoddwyd Gwobr Pensaernïaeth Allan Stuckey i Hollie Parsons, ac fe’i cyflwynwyd gan Ryan Stuckey. Roedd Hollie, fel Benjamin, wedi trosglwyddo i PCYDDS o gwrs arall, y tro yma Peirianneg Awyrennol, a dwedodd: “Ni ddaeth hynny yn angerdd i mi oherwydd ei fod yn fathemateg yn bennaf, a gan y bûm erioed yn berson creadigol fe wnes i’n dda iawn mewn TGAU Celf ac rwy’n dwli ar stwff creadigol, felly Pensaernïaeth yw’r cyfuniad perffaith o’r gwyddorau a’r celfyddydau. Fel cymhariaeth, nid oedd y darlithwyr yn fy mhrifysgol flaenorol ddim hyn oed yn nabod fy enw, ond yn PCYDDS fe gewch gymaint o amser personol gyda’r darlithwyr, ac maent bob amser yno i’ch helpu. Fy nghynlluniau at y dyfodol yw naill ai gwneud blwyddyn yn y diwydiant, neu efallai dilyn cwrs ôl-raddedig mewn Dylunio Graffig, sy’n rhywbeth rwy’n dwli arno. Byddwn yn argymell y cwrs Pensaernïaeth 100%, mae’r darlithwyr yn anhygoel, ac rwy’ wedi’i garu.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Pensaernïaeth sydd ar gael yn PCYDDS ewch i’n gwefan os gwelwch yn dda ar Architecture Courses | University of Wales Trinity Saint David (uwtsd.ac.uk) neu cysylltwch â’r staff academaidd isod.

Ryan Stuckey: r.stuckey@uwtsd.ac.uk
Ian Standen: ian.standen@uwtsd.ac.uk

Triumphant end of year show for Architecture students at UWTSD

Triumphant end of year show for Architecture students at UWTSD

Gwybodaeth Bellach

Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184  (4184)                                                                     
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk /alumni@uwtsd.ac.uk