Sioe un fenyw The Ballad of Mulan yn dod i Lambed
26.01.2022
I nodi Gŵyl Wanwyn Tsieineaidd a dechrau Blwyddyn y Teigr, mae Athrofa Confucius yn falch o gynnal The Ballad Mulan am 19:30 ar 11 Chwefror yn yr Hen Neuadd, Campws Llambed.
Yn seiliedig ar gerdd Tsieineaidd o’r 6ed Ganrif a boblogeiddiwyd gan y ffilm Disney, mae’r Ballad of Mulan gan Dragonfly Productions yn hanes go iawn caled wedi ei adrodd gan Mulan hithau. Wedi'i osod yn ystod cyfnod y rhyfel sifil, mae ein harwres Tsieineaidd yn mynd ati i geisio achub anrhydedd ei theulu, ac wrth ffugio bod yn ddyn mae’n ymuno â byddin yr Ymerawdwr. Mae adroddiad y stori yn arw iawn. Mae Mulan yn rhyfelwr, yn ymladdwr, yn fenyw a oroesodd mewn byd gwrywaidd iawn am ddeng mlynedd heb ddarganfod.
Comisiynwyd Balad Mulan gan yr actor a'r cynhyrchydd Dwyrain Asiaidd Prydeinig Michelle Yim ac fe'i hysgrifennwyd gan y dramodydd Bloomsbury Ross Ericson. Yn y prynhawn ar 11 Chwefror, bydd Ross Ericson yn arwain gweithdy drama sy'n archwilio datblygiad y sgript o gerdd Tsieineaidd i'r cynhyrchiad llwyfan.
Mae Michelle Yim yn actor Prydeinig-Dwyrain-Asiaidd a raddiodd o ALRA. Yn ogystal â'r rolau theatr niferus, mae hefyd wedi ymddangos mewn llawer o ffilmiau byr ac mewn rolau bach ar y teledu (Sherlock a Blue Murder), ac mae'n gweithio’n artist drosleisiol yn Saesneg, Cantoneg a Mandarin. Mae hi hefyd yn un o sylfaenwyr Red Dragonfly Productions, sy'n ymdrechu i ddod â straeon o'r Dwyrain a'r Dwyrain Pell i gynulleidfa Brydeinig ac Ewropeaidd.
Mae'r gerddoriaeth gefndir wedi ei chreu gan Pearl Yim, cyfansoddwr, arweinydd cerddorfa a threfnydd arobryn rhyngwladol.
Gellir prynu tocynnau ar-lein yn https://www.uwtsd.ac.uk/confucius-institute/events/ a'r pris yw £5.00 oedolyn, £3:00 gostyngiadau (myfyrwyr, staff Y Drindod Dewi Sant, rhai heb gyflog, rhai sydd wedi ymddeol). Ddim yn addas i blant ifanc.
I archebu eich lle yn y gweithdy drama a gynhelir am 14:00 yn yr Hen Neuadd anfonwch e-bost i confuciusinstitute@pcydds.ac.uk. Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at k.krajewska@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076